Log Penderfyniadau
Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
PCCG-2019-074
1 Ebrill 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyrannu cyllid grant o Gronfa Gymunedol yr Heddlu y Comisiynydd i saith prosiect, sy’n dod i gyfanswm o £151,934.67. Yn ogystal, dyrannwyd cyllid am ddwy flynedd mewn egwyddor i bedwar prosiect a gawsant eu hariannu yn 2019/20, yn amodol ar adroddiadau boddhaol a chydymffurfiaeth barhaus gyda thelerau ac amodau’r grant. Mae hyn yn golygu mai cyfanswm y cyllid a ddyrannwyd ar gyfer 2020/21 yw £298,838.39.
PCCG-2019-083
31 Mawrth 2020
Cytunodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gymeradwyo cais y cyn Brif Gwnstabl, Julian Williams am gyflogaeth ôl-wasanaeth i fod yn Athro Ymgynghorol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
PCCG-2019-076
20 Mawrth 2020
Cytunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i ddyfarnu'r contract ar gyfer darparu gwasanaethau Oedolyn Priodol i Hafal am dair blynedd gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis arall.
PCCG-2019-021
17 Mawrth 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo cyhoeddi ei Strategaeth Cyfalaf 2019-20 tan 2022-23.
PCCG-2019-078
17 Mawrth 2020
Gohiriodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'r cynlluniau Ymwelwyr Lles Anifeiliaid ac Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd oherwydd perygl posibl Coronafeirws.
PCCG-2019-070
6 Mawrth 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal arolwg o ffeiliau sy'n ymwneud â chwynion yn erbyn swyddogion a staff Heddlu Gwent.
PCCG-2019-075
6 Mawrth 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cadarnhau'r Gyllideb Heddlu a Throseddu ar gyfer 2020-21.
PCCG-2019-072
6 Mawrth 2020
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i derfyniad gwirfoddol y contract Menter Cyllid Preifat.
PCCG-2019-071
14 Chwefror 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-069
17 Ionawr 2020
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.