Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2019-054
12 Tachwedd 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid am 12 mis arall i Cymorth i Ddioddefwyr er mwyn parhau'r swydd Eiriolydd Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl yn ystod 2019-20 yn Connect Gwent.
PCCG-2019-057
12 Tachwedd 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cymorth ariannol i ddigwyddiadau Wings to Fly ar gyfer 2019/20. Amcangyfrifir mai £16,750 fydd uchafswm y gost.
PCCG-2019-059
8 Tachwedd 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ymestyn y contract ar gyfer darparu Gweithwyr Asiantaeth am naw mis arall.
PCCG-2019-024
28 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi dyfarnu cyllid o £10,000 yr un i'r ddwy Ardal Blismona Leol ar gyfer 2018/19.
PCCG-2019-049
28 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-055
28 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-058
25 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi mynd i gytundeb dan adran 60 Deddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 1998 mewn perthynas ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.
PCCG-2019-051
11 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid grant o Gronfa Gymunedol y Comisiynydd i ddau sefydliad o gronfa 2018/19 sy'n dod i gyfanswm o £78,721.00 a thri sefydliad o gronfa 2019/20 sy'n dod i gyfanswm o £140,060.00.
PCCG-2019-053
9 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ymestyn y contract fframwaith ar gyfer difa a gwaredu gwastraff wedi'i farcio â marc diogelu am dri mis arall gydag opsiwn i ymestyn am ddau fis pellach.
PCCG-2019-050
7 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i Barnardo i ddarparu ymyraethau trais difrifol fel rhan o Brosiect Atal Trais Difrifol Cymru yn ystod 2019/20.