Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2019-052
2 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i wneud y swydd tymor penodol ar gyfer Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn swydd barhaol yn weithredol ar unwaith.
PCCG-2019-048
18 Medi 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Adroddiad Rheoli Gweithgarwch Blynyddol y Trysorlys a gwir Ddangoswyr Darbodus ar gyfer 2018/19.
M-2019-003
4 Medi 2019
Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad, 4 Medi 2019
PCCG-2019-047
4 Medi 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo'r diwygiad i'r Polisi a Gweithdrefn Rhoddion a Lletygarwch ar gyfer ei swyddfa.
PCCG-2019-045
21 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu'r contract ar gyfer asesu, atgyfeirio a rhoi cymorth anarbenigol i ddioddefwyr i Cymorth i Ddioddefwyr trwy gyfrwng Cytundeb Fframwaith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae hyn yn unol â pharagraff 20-24 o'r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol, Rhan 3e Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chontractau.
PCCG-2019-046
21 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu contract i Solo Services Group yn unol â pharagraff 20-24 y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol Rhan 3e Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chontractau.
PCCG-2019-043
12 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal arolwg o ffeiliau sy'n ymwneud â chwynion yn erbyn swyddogion a staff Heddlu Gwent.
PCCG-2019-060
12 Awst 2019
Ar ôl cymeradwyaeth gan y Panel Heddlu a Throsedd ar 12 Awst 2019, mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi penodi Ms Pamela Kelly yn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent.
PCCG-2019-042
12 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i sefydliadau sy'n cydweithio gyda Heddlu Gwent i ddarparu Ymyriadau Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn ystod 2019/20.
PCCG-2019-041
6 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn Adroddiad Blynyddol y Cydbwyllgor Archwilio ar gyfer 2018/19.