Dyfarnodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd gyfanswm o £201,553 o gyllid grant eithriadol i chwe sefydliad yng Ngwent er mwyn iddynt roi cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod pandemig Covid-19.

Reference Number: PCCG-2020-020

Date Added: Dydd Mawrth, 30 Mehefin 2020

Details:

Pwrpas y cyllid yw cynorthwyo sefydliadau i dalu am gostau ychwanegol rhwng 24 Mawrth a 31 Hydref 2020, trwy addasu gwasanaethau yn ystod y pandemig er mwyn ymdopi â galw cynyddol o ganlyniad iddo. Yn dilyn proses ymgeisio agored a chystadleuol, dyfarnwyd £201,553 i sefydliadau yng Ngwent fel a ganlyn: BAWSO £34,946 Cymorth i Fenywod Cyfannol £79,442 Llamau £15,054 Llwybrau Newydd £39,354 Phoenix Domestic Abuse £22,277 Cymorth i Ddioddefwyr £10,480

Attachments: