Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ddarparu cyllid i New Pathways er mwyn sicrhau parhad eu gwasanaethau i gefnogi dioddefwyr troseddau rhywiol yng Ngwent yn ystod 2020/21.

Reference Number: PCCG-2020-004

Date Added: Dydd Sadwrn, 16 Mai 2020

Details:

Mae £230,505 wedi'i ddyfarnu i gyfrannu at ddarparu Gwasanaethau Trais Rhywiol yn 2020/21, gan gynnwys y gwasanaethau canlynol: * Gwasanaethau Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol; * Gwasanaethau Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol; * Therapi i Blant; a * Cwnsela i Oedolion. Bydd y cyllid hefyd yn cyfrannu at wasanaethau hyfforddi, gwasanaethau cyllid, costau goruchwylio, rheoli a gweinyddu. Byddaf hefyd yn dyfarnu'r £85,508 ychwanegol a sicrhawyd o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i New Pathways ar gyfer y canlynol: Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc; a Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol ar gyfer Iechyd Meddwl. Y cyfanswm a ddyfarnwyd i New Pathways felly yw £316,013.

Attachments: