Cais Gorfodol gan Wrthrych am Wybodaeth

Gall rhai cyflogwyr a sefydliadau fel asiantaethau recriwtio geisio cymryd mantais o'r broses cais gwrthrych am wybodaeth trwy ofyn i unigolion ei defnyddio i gael copi o'u collfarnau troseddol (neu dystiolaeth nad oes dim) fel rhan o broses recriwtio neu gyflogaeth barhaus.

Mae'r arfer hwn yn cael ei adnabod fel cais gorfodol gan wrthrych am wybodaeth fel y cyfeirir ato yn Adran 177 Deddf Diogelu Data 2018. Mae'n drosedd i gyflogwr presennol neu arfaethedig neu asiantaeth recriwtio ofyn i unigolyn wneud cais gwrthrych am wybodaeth fel amod cyflogaeth neu er mwyn darparu nwyddau neu wasanaethau. Yn hytrach dylent ddefnyddio'r trefniadau ffurfiol presennol ar gyfer gwirio cofnodion troseddol a weithredir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, Disclosure Scotland neu Access Northern Ireland.

Os gwneir cais gwrthrych am wybodaeth ac mae'r ymgeisydd yn nodi'n glir mai at ddiben cyflogaeth mae'r wybodaeth, bydd y cais yn cael ei wrthod a bydd gwrthrych y data yn cael ei ailgyfeirio at yr asiantaeth briodol; efallai bydd y Comisiynydd Gwybodaeth yn cael ei hysbysu am y cais hefyd.