Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) wedi cael ei llunio i annog sefydliadau cyhoeddus i fod yn fwy agored ac mae'n caniatáu i unrhyw un, ni waeth pwy ydyw na ble mae'n byw, wneud cais am wybodaeth.

O dan y Ddeddf mae gennych hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth gofnodedig y mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn ei chadw, yn amodol ar yr hyn y gellir ei atal dan yr eithriadau perthnasol a gynhwysir yn y Ddeddf. Gallwch ofyn am unrhyw wybodaeth rydych yn credu sy'n cael ei chadw gennym ni. Mae'r hawl yn perthyn i wybodaeth gofnodedig yn unig, sy'n cynnwys gwybodaeth a gedwir ar gyfrifiaduron, mewn e-byst ac mewn dogfennau wedi eu hargraffu neu wedi eu hysgrifennu â llaw yn ogystal â delweddau, recordiadau fideo a sain. Nid oes gofyn i ni ateb eich cwestiwn os bydd gwneud hynny'n golygu creu gwybodaeth newydd neu roi barn neu ddyfarniad nad yw wedi cael ei gofnodi'n barod.

 

Mae'n bwysig nodi bod Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent (Swyddfa'r Comisiynydd) a Heddlu Gwent yn ddau sefydliad ar wahân. Gan hynny, nid yw Swyddfa’r Comisiynydd yn gyfrifol am wybodaeth plismona gweithredol ac nid yw'n cadw'r wybodaeth honno. Cyfrifoldeb Prif Gwnstabl Gwent yw’r wybodaeth honno. Os yw eich cais o natur weithredol dylech gysylltu'n uniongyrchol â Heddlu Gwent i ganfod a yw'r wybodaeth rydych yn gwneud cais amdani yn cael ei chadw ganddynt hwy. Gallwch gyflwyno eich cais ar eu gwefan, neu gallwch ddefnyddio'r ddolen hon:  Rwyf am gael gwybodaeth am yr heddlu | Heddlu Gwent

Mae Gweithdrefn Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei datblygu ac mae'n rhoi esboniad manwl o'r prosesau mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu'n eu dilyn pan dderbynnir cais neu apêl dan y Ddeddf.

Os ydych yn gwneud cais am wybodaeth bersonol a gedwir gennym amdanoch chi, mae'r wybodaeth hon yn ddarostyngedig i'r Ddeddf Diogelu Data a rhaid i chi gyflwyno Cais Gwrthrych am Wybodaeth. Os ydych eisiau gwybodaeth a gedwir gan yr Heddlu amdanoch chi cysylltwch yn uniongyrchol ag Uned Datgelu Gwybodaeth Heddlu Gwent i gyflwyno eich cais gwrthrych am wybodaeth. Mae'r manylion cyswllt ar eu gwefan neu gallwch gyflwyno eich cais yn defnyddio'r ddolen hon: Gofyn am wybodaeth amdanoch chi'ch hun neu bobl eraill | Heddlu Gwent

 

Adroddiad Blynyddol Rhyddid Gwybodaeth 2022/23      Atodiad


Adroddiad Blynyddol Rhyddid Gwybodaeth 2021/22      Atodiad


Adroddiad Blynyddol Rhyddid Gwybodaeth 2020/21      Atodiad


Adroddiad Blynyddol Rhyddid Gwybodaeth 2019/20      Atodiad