Dioddefwyr trosedd
Eich hawliau fel dioddefwyr
Cyfiawnder adferol
Sbardun Cymunedol
Cymorth i ddioddefwyr
Gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
Eich hawliau fel dioddefwr
Mae gan bob dioddefwr trosedd yng Nghymru a Lloegr hawliau penodol a amlinellir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd yng Nghymru a Lloegr (neu'r Cod Dioddefwyr).Mae rhagor o wybodaeth am y Cod Dioddefwyr ar wefan Llywodraeth y DU.
Mae gwefan Heddlu Gwent yn cynnwys gwybodaeth am ba wasanaethau y gallwch eu disgwyl gan yr heddlu os ydych yn dioddef, neu'n dyst i drosedd.
Cyfiawnder adferol
Mae cyfiawnder adferol yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi cael eu niweidio gan drosedd a'r bobl sy'n gyfrifol am y drosedd rannu sut mae'r drosedd wedi effeithio arnyn nhw. Mae'n gadael i bawb sy'n ymwneud â'r drosedd chwarae rhan yn unioni'r niwed a dod o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen.
Mwy o wybodaeth am gyfiawnder adferol
Sbardun Cymunedol
Mae'r sbardun cymunedol yn rhoi'r hawl i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol cyson ofyn i gael adolygiad o'u cwynion, ac mae'n dwyn asiantaethau ynghyd i ddefnyddio dull cydgysylltiedig er mwyn ceisio datrys y broblem.
Dysgwch fwy am y sbardun cymunedol
Cymorth i ddioddefwyr
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ariannu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr o fewn Canolfan Dioddefwyr Connect Gwent. Gallwch gael cymorth gan Connect Gwent os ydych chi wedi dioddef trosedd ar unrhyw adeg yn eich bywyd. ‘Does dim rhaid i chi fod wedi riportio'r drosedd wrth yr heddlu i gael cymorth. Mae plant a phobl ifanc yn gallu cael cymorth arbenigol hefyd.
Mae'r asiantaethau canlynol yn gweithio o fewn Connect Gwent:
Age Cymru Gwent
Cymorth emosiynol ac ymarferol a mynediad at wasanaethau ehangach i bobl dros 50 oed sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cymorth iechyd meddwl a lles arbenigol i ddioddefwyr trosedd 18-65 oed sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth yma'n cael ei ddarparu gan nyrs iechyd meddwl gofrestredig.
New Pathways
Cymorth i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi profi treisio neu gam-drin rhywiol. Mae'n cynnwys gwasanaethau cwnsela ac eiriolaeth.
Umbrella Cymru
Cymorth i oedolion sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigwyddiad maen nhw'n teimlo oedd yn seiliedig ar gasineb neu elyniaeth tuag at eu rhywedd neu hunaniaeth rywiol (go iawn neu ganfyddedig) yn ogystal â chymorth ehangach i bobl LHDTQ+ sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae Umbrella Cymru hefyd yn rhoi cymorth i unrhyw berson ifanc (dan 18 oed) sydd wedi cael ei effeithio gan drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cymorth i Ddioddefwyr
Cymorth i helpu unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan drosedd. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth emosiynol, ymarferol, ac eiriolaeth, cymorth i fynd at wasanaethau lleol a chefnogaeth arbenigol mewn perthynas â cham-drin domestig a throsedd casineb.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Connect Gwent website, neu ffoniwch 0300 123 2133 / e-bostiwch connectgwent@gwent.police.uk
Gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
Gall dioddefwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol gysylltu â Byw Heb Ofn, gwasanaeth am ddim a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Ewch i wefan Byw Heb Ofn neu ffoniwch 0808 8010 800.
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd hefyd yn gweithio gyda nifer o wasanaethau ledled Cymru a'r DU sy'n rhoi cymorth arbenigol, cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
BAWSO
Mae BAWSO yn cynnig gwasanaethau arbenigol i drigolion duon a lleiafrifoedd ethnig yng Ngwent. Mae cynghorwyr cymwys ar gael i helpu goroeswyr i gael cymorth a chefnogaeth, ac i gynnig arweiniad i bobl sy'n barod i ddweud wrth yr heddlu am eu profiad.
Ffoniwch: 0800 731 8147
Ewch i: www.bawso.org.uk
Cymorth i Fenywod Cyfannol (Gwasanaethau Trais Rhywiol Horizon)
Mae Gwasanaethau Trais Rhywiol Horizon yn rhoi cymorth arbenigol i unigolion sydd wedi profi unrhyw ffurf ar drais rhywiol. Mae cynghorwyr cymwys ar gael i helpu goroeswyr i gael cymorth a chefnogaeth, ac i gynnig arweiniad i bobl sy'n barod i ddweud wrth yr heddlu am eu profiad.
Ffoniwch:03300 564456
Ewch i: http://horizonsvs.org.uk
Galop
Mae Galop yn cefnogi pobl LHDT+ sydd wedi profi camdriniaeth a thrais. Mae'r elusen yn arbenigo mewn rhoi cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol, troseddau casineb, camdriniaeth ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, therapïau trosi, a ffurfiau eraill ar gam-drin rhyngbersonol.
Ffoniwch: 0800 999 5428
Ewch i: https://galop.org.uk
ManKind
Mae Mankind yn canolbwyntio ar gefnogi gwrywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig.
Ffoniwch: 01823 334244
Ewch i: https://mankind.org.uk
New Pathways
Mae New Pathways yn darparu gwasanaethau cymorth argyfwng i oedolion a phlant sydd wedi dioddef treisio a cham-drin rhywiol. Mae cynghorwyr cymwys ar gael i helpu goroeswyr i gael cymorth a chefnogaeth ac i gynnig arweiniad i bobl sy'n ystyried dweud wrth yr heddlu am eu profiad.
Ffoniwch: 01685 379 310
Ewch i: www.newpathways.org.uk
Umbrella Cymru
Mae Umbrella Cymru yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, gwybodaeth ac eiriolaeth arbenigol i bobl LHDT+ sydd wedi dioddef trosedd, gan gynnwys goroeswyr treisio ac ymosodiad rhywiol. Mae cynghorwyr cymwys ar gael i helpu goroeswyr i fynd at gymorth a chefnogaeth, ac i gynnig arweiniad i bobl sy'n barod i ddweud wrth yr heddlu am eu profiad.
Ffoniwch: 0300 302 3670
Ewch i: www.umbrellacymru.co.uk