Sbardun Cymunedol

Cyflwynwyd y Sbardun Cymunedol ym mis Hydref 2014 i roi cyfle i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ofyn am adolygiad o'u cwynion, ac mae'n dwyn asiantaethau ynghyd i ddefnyddio dull cydgysylltiedig i ddatrys problemau.

Mae ceisiadau Sbardun Cymunedol yn cael eu hadolygu gan banel sy'n cynnwys uwch gynrychiolwyr yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, yr heddlu a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (darparwyr tai). Bydd y Panel yn adolygu'r camau a gymerwyd gan yr asiantaethau perthnasol hyd yn hyn a gall gynnig argymhellion o ran y camau pellach sydd eu hangen.

Nid yw'r sbardun cymunedol yn disodli gweithdrefnau cwyno mewnol y sefydliadau, y byddant yn parhau i fod ar gael i ymdrin ag unrhyw broblemau a allai fod gan y dioddefwr/achwynwr gyda’r asiantaeth unigol. 

Yn y lle cyntaf, dylid hysbysu naill ai’r landlord cymdeithasol cofrestredig a/neu'r awdurdod lleol neu'r heddlu am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dylid ystyried y sbardun cymunedol fel yr opsiwn olaf ar ôl i bopeth arall fethu ar gyfer dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol os ydynt yn credu nad oedd y camau a gymerwyd wrth ymdrin â'r digwyddiad yn ddigonol.


Pwy sy'n gallu gweithredu Sbardun Cymunedol?

Gall y canlynol weithredu'r Sbardun Cymunedol:

  • Dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Cynrychiolydd y dioddefwr, ar ei ran (e.e. aelod o'r teulu, ffrind, gofalwr, cynghorydd, AS neu unigolyn proffesiynol arall, a hynny gyda chaniatâd y dioddefwr yn unig).
  • Busnesau neu grwpiau cymunedol

Rhoddir cymorth i'r dioddefwyr hynny sydd angen cefnogaeth ychwanegol.

Os ydych chi'n credu bod eich problem neu bryder yn berthnasol i'r broses Sbardun Cymunedol, dylech gysylltu â'ch Partneriaeth Diogelwch Cymunedol lleol. 

Blaenau Gwent

Caerffili

Sir Fynwy

Casnewydd

Torfaen


Sut gall y Comisiynydd Heddlu a Throseddu helpu?

Bydd Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn darparu llwybr os ydych am gwestiynu’r penderfyniad ynglŷn ag a gafodd gofynion trothwy’r Sbardun Cymunedol eu bodloni, neu’r modd y cafodd adolygiad Sbardun Cymunedol ei gynnal.

I ofyn am adolygiad o benderfyniad gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.