Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae cydraddoldeb yn ymwneud â chymdeithas fwy teg lle gall pawb gymryd rhan a lle mae pawb yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial. Rhaid i Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddangos sut rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau nad ydym yn gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaethau a chyflogi pobl.


Dyletswydd y Sector Cyhoeddus

Ym mis Hydref 2010, cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus sy'n gofyn i ni dalu sylw dyledus i'r angen am y canlynol pan fyddwn yn cyflawni ein swyddogaethau mewnol ac allanol:

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig
  • Meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn rhannu nodwedd warchodedig

Mae'r Ddyletswydd Cydraddoldeb yn berthnasol i staff Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, ac aelodau ein cymunedau sy'n rhannu Nodweddion Gwarchodedig.


Dadansoddiad Cydraddoldeb


Cynllun Cydraddoldeb Strategol


Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd


Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog


Heddlu Gwent Gwybodaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth


Cerdyn Cadw’n Ddiogel Cymru


Am ragor o wybodaeth am weithgareddau plismona, ewch i wefan Heddlu Gwent