Yr Iaith Gymraeg

Daeth Mesur yr Iaith Gymraeg i rym 9 Chwefror 2011 a sefydlodd safle  Comisiynydd y Gymraeg.  Mae'r Mesur hefyd yn cyflwyno safonau’n ymwneud â'r iaith Gymraeg a fydd yn cymryd lle cynlluniau iaith Gymraeg ar hyn o bryd.

Cafodd y Rhybudd Cydymffurfio ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throsedduar gyfer Gwent a gyhoeddwyd ar 30 Medi 2016. Mae'r ddogfen hon yn darparu'r safonau y mae'n ofynnol Swyddfa'r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i weithredu ar draws y sefydliad.

Mae Swyddfa'r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a Heddlu Gwent wedi ymrwymo i drin y  Gymraeg a'r Saesneg ar sail cydraddoldeb wrth gyflawni ein busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Mae sut y byddwn yn defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn seiliedig ar:

  • y Gymraeg a'r Saesneg yn meddu ar statws cyfartal;
  • ein nod i wella'r ddarpariaeth gwasanaeth i'r cyhoedd yn eu dewis iaith.

Bydd Strategaeth y Gymraeg yn cael ei gyhoeddi i gefnogi gweithrediad y safonau ar waith.


Gweithdrefn ar gyfer Cwynion yn ymwneud â Chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg


Adroddiad  Blynyddol - Monitro Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg

Bob blwyddyn bydd Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cyhoeddi adroddiad ar berfformiad y Swyddfa o dan Safonau’r Gymraeg (safonau 155, 161 a 167). Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi o fewn chwe mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol berthnasol.

Adroddiad Monitro Blynyddol 2022-23

Adroddiad Monitro Blynyddol 2021-22

Adroddiad Monitro Blynyddol 2020-21

Adroddiad Monitro Blynyddol 2019-20

Adroddiad Monitro Blynyddol 2018-19

Adroddiad Monitro Blynyddol 2017-18

Adroddiad Monitro Blynyddol 2016-17