Log Penderfyniadau
Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
PCCG-2021-024
15 Rhagfyr 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i Cymorth i Fenywod Cyfannol i ddarparu Canolfan Galw Heibio gyda’r nod o roi cymorth i fenywod agored i niwed a dioddefwyr cam-fanteisio rhywiol yng Ngwent.
PCCG -2021-025
15 Rhagfyr 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i benodi Willmott Dixon fel y prif gontractwr ar gyfer adleoli gweithdy’r Fflyd.
PCCG-2021-033
9 Rhagfyr 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022-23 hyd 2024-25 ac Arferion Rheoli'r Trysorlys.
PCCG-2021-034
9 Rhagfyr 2021
Mae'r Comisiynydd wedi monitro Gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1 Ebrill 2021 tan 30 Medi 2021.
PCCG-2021-022
24 Tachwedd 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofrestri rhoddion a lletygarwch a buddiannau busnes ei swyddfa ar gyfer 2020-21
PCCG-2021-021
10 Tachwedd 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol yr Heddlu a Throseddu ar gyfer 2020-21
PCCG-2021-013
27 Hydref 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo Cylch Gwaith y Cynllun Lles Anifeiliaid a’r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.
PCCG-2021-010
19 Hydref 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar Gyfathrebu ac Ymgysylltu sy’n amlinellu’r gweithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021
PCCG-2021-017
19 Hydref 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Monitro Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2020/21.
PCCG-2021-018
4 Hydref 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal arolwg o ffeiliau'n ymwneud â chwynion yn erbyn swyddogion a staff Heddlu Gwent.