EHB Y Dywysoges Frenhinol yn clywed yn uniongyrchol gan ddioddefwyr a goroeswyr troseddau a gweithwyr rheng flaen yn Victim Support Gwent
Bu pobl sydd wedi dioddef a goroesi troseddau yn rhannu profiadau personol dirdynnol gyda Llywydd yr elusen, Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Frenhinol, wrth iddi ymweld â thimau rheng flaen Victim Support yng Ngwent heddiw - gan egluro sut y gwnaeth cefnogaeth arbenigol eu helpu i deimlo’n fwy diogel ac i ddechrau ailadeiladu eu bywydau yn dilyn troseddau.
Bu Ei Huchelder Brenhinol yn cwrdd â dioddefwyr, goroeswyr, gwirfoddolwyr a gweithwyr achos o’r rheng flaen yn Neuadd y Sir, Sir Fynwy yng Ngwent, i gael gwybod mwy am sut mae gwasanaethau annibynnol i ddioddefwyr yn trawsnewid bywydau.
Mae Victim Support Gwent, sydd wedi’u lleoli ym Mhont-y-pŵl, yn cefnogi miloedd o bobl y mae pob math o droseddau wedi effeithio arnynt bob blwyddyn, Mae eu gweithwyr achos arbenigol yn helpu pobl i ddeall eu hopsiynau, canfod eu ffordd drwy’r system cyfiawnder troseddol, datblygu cynlluniau diogelwch personol, cael gafael ar gefnogaeth arbenigol a theimlo bod pobl yn gwrando arnynt ac yn eu credu ar ôl profiadau sy’n aml yn rhai trawmatig.
Rhoddodd y Dywysoges Frenhinol amser hefyd i eistedd i lawr am sgwrs breifat gyda dioddefwyr a goroeswyr troseddau sydd wedi derbyn cefnogaeth a newidiodd eu bywydau gan dîm Victim Support Gwent.
Dywedodd un o’r dioddefwyr sydd wedi goroesi trais domestig a fu’n siarad â’r Dywysoges Frenhinol heddiw: “Mae sesiynau grŵp Victim Support wedi bod yn noddfa i mi, yn fendith - mae fy ngweithiwr achos yn werth y byd yn grwn. Mae e wedi fy nghefnogi drwy achosion diogelu plant, atgyfeiriadau gofal cymdeithasol, ymchwiliadau heddlu, ac wedi siarad ar fy rhan pan oeddwn i’n teimlo nad oedd fy llais yn cael ei glywed. Mae wedi sicrhau fy mod i’n dawel ac yn sefydlog fy meddwl.
“Mae’n bwysig iawn bod y grŵp yma’n dal ati, er mwyn goroeswyr eraill. Alla i ddim dechrau mynegi mewn geiriau faint mae’r gwasanaeth wedi fy helpu i. Des i i mewn i’r system ar fy mhen fy hun, yn ofnus ac yn ddioddefwr; rwyf wedi dod allan o’r system â phobl wedi fy nghlywed, wedi gwrando arnaf, ac rwyf wedi goroesi camdriniaeth ddomestig. A dweud y gwir, byddwn i wedi bod ar goll heb y gefnogaeth.”
Yn ystod yr ymweliad, clywodd y Dywysoges Frenhinol – sy’n Llywydd ar Victim Support ers 2001 – sut mae Victim Support Gwent yn ehangu eu cefnogaeth er mwyn diwallu anghenion dioddefwyr yn lleol, gan gynnwys:
• Gwasanaethau arbenigol newydd i roi cefnogaeth benodol i blant a phobl ifanc.
• Safle ar gyfer darparu tystiolaeth fideo o bell, sy’n caniatáu i ddioddefwyr roi tystiolaeth heb fynychu'r llys eu hunain.
• Rhaglen cefnogi cymheiriaid newydd sy’n dwyn dioddefwyr a goroeswyr ynghyd drwy sesiynau grŵp strwythuredig, gan greu gofod diogel ac empathetig lle gallan nhw brosesu eu profiadau.
Cyfarfu’r Dywysoges hefyd â’r tîm o Ganolfan Cymorth Casineb Cymru – gwasanaeth hanfodol sy’n cael ei ddarparu gan Victim Support ac sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol a gwasanaethau riportio ledled Cymru ar gyfer dioddefwyr a thystion troseddau casineb. Mae cael profiad o droseddau casineb yn gallu bod yn brofiad hynod arswydus ac fe gefnogodd y tîm oddeutu 2,000 o bobl y llynedd - gan gynnwys 241 o bobl ifanc - gydag un o bob pump yn mynd ymlaen i dderbyn cefnogaeth fwy dwys a hirdymor.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae dioddef trosedd yn gallu bod yn brofiad trawmatig sy'n newid bywyd. Gall effeithio ar bobl yn gorfforol ac yn emosiynol, gan arwain at ganlyniadau a all barhau i achosi niwed flynyddoedd lawer yn ddiweddarach.
"Mae rhoi blaenoriaeth i ddioddefwyr yn flaenoriaeth allweddol yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Mae angen cymorth o ansawdd uchel, sy'n cael ei lywio gan drawma, ar ddioddefwyr i'w helpu nhw i ymdopi, adfer, a lleihau'r risg o ddioddef trosedd eto yn y dyfodol. Rydym yn gweithio'n barhaol i sicrhau bod dioddefwyr trosedd yng Ngwent yn cael y cymorth gorau posibl, a hoffwn ddiolch i'w Huchelder Y Dywysoges Frenhinol am wrando ar ddioddefwyr a goroeswyr ynglŷn â sut mae'r gwaith hwn yn eu helpu nhw i edrych i'r dyfodol.”
Dywedodd Jessica Brooks, Rheolwr Ardal Victim Support ar gyfer Cymru: “Rydym yn hynod falch o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu yng Ngwent a ledled Cymru er mwyn cefnogi pawb sydd wedi dioddef trosedd pan fyddant ar eu hisaf. Roedd yn anrhydedd cael siarad ag EHB Y Dywysoges Frenhinol am y gwaith hollbwysig sy’n cael ei wneud bob dydd gan ein tîm o arbenigwyr a’n gwirfoddolwyr anhygoel, a chael clywed gan ddioddefwyr a goroeswyr am gyfraniad cefnogaeth arbenigol tuag at eu helpu i symud ymlaen.
“Gyda throseddau casineb a chamdriniaeth ar ffurfiau eraill yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru, mae’n bwysicach nag erioed fod pob dioddefwr yn gallu cael gafael ar gefnogaeth annibynnol a chyfrinachol yn rhad ac am ddim, pryd bynnag y bydd ei hangen arnynt. Mae pob dioddefwr yn haeddu teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi.”
Dywedodd Katie Kempen, Prif Swyddog Gweithredol Victim Support: “Mae troseddau yn gallu effeithio ar bob agwedd ar fywyd rhywun, ac yn aml, dydyn nhw ddim yn gwybod lle i droi. Dyna pam rydyn ni mor ddiolchgar i’w Huchelder Brenhinol am roi amser heddiw i gael clywed yn uniongyrchol gan ddioddefwyr a goroeswyr eu hunain. Mae eu profiadau yn rhoi neges gref bod cefnogaeth arbenigol yn newid bywydau.
“Boed hynny drwy greu lle i wrando’n iawn ar ddioddefwyr a goroeswyr a’u helpu i ddod i delerau â’u profiadau, eu helpu i deimlo’n ddiogel ar ôl profi camdriniaeth, eirioli ar eu rhan a bod yno gyda nhw yn ystod sgyrsiau anodd, neu drwy eu helpu i ganfod eu ffordd drwy achosion llys cymhleth ac ymchwiliadau’r heddlu, mae ein tîm anhygoel yn cynnig achubiaeth i bawb y mae angen y gefnogaeth arnynt, gan eu helpu i ailadeiladu hyder, diogelwch a gobaith.”