Cyllid i roi cymorth i bobl ifanc LHDTC+ sydd wedi dioddef trosedd

29ain Mehefin 2026

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd yn ariannu cymorth arbenigol i bobl ifanc LHDTC+ sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd.

Mae'r Comisiynydd wedi dyfarnu cyllid i elusen Umbrella Cymru yng Ngwent i ddarparu'r prosiect 'Safe and Supported' i bobl ifanc dan 25 oed.

Mae’r prosiect yn darparu cymorth ystyriol o drawma sydd wedi ei gynllunio'n bwrpasol ar gyfer pobl ifanc LHDTC+, gan gynnwys cymorth lles emosiynol, cynllunio ar gyfer diogelwch, cyfarwyddyd ar opsiynau riportio, ac eiriolaeth wrth ymgysylltu â gwasanaethau fel yr heddlu.

Meddai Jane Mudd: “Mae pobl ifanc LHDTC+ ymysg rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein  cymunedau. Maen nhw'n profi llawer mwy o droseddau, gan gynnwys trosedd casineb, ac rydyn ni'n gwybod nad yw llawer o'r troseddau hyn yn cael eu riportio. Mae cymunedau LHDTC+ hefyd yn parhau i fod yn amharod i ymddiried yn yr heddlu a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

"Rydyn ni'n comisiynu gwasanaethau i roi cymorth i bawb sy'n dioddef trosedd yng Ngwent, ond trwy gynnig cymorth pwrpasol ar gyfer pobl ifanc LHDTC+, gallwn chwalu rhai o'r rhwystrau hyn a sicrhau eu bod yn gallu cyrchu gwasanaethau cymorth sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'u hamgylchiadau a'u hanghenion penodol nhw."

Mae'r prosiect yn cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun yr Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder y Comisiynydd ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan arian sydd wedi cael ei adfeddu o enillion troseddol. Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau rhwng £1,000 a £50,000 i gefnogi mentrau lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran Umbrella Cymru: “Mae pobl ifanc LHDTC+ yng Ngwent yn wynebu heriau sylweddol sy'n effeithio ar eu diogelwch, eu lles, a'u hyder. Mae casineb ac aflonyddwch wedi'i dargedu yn parhau i fod yn gyffredin. Mae ymchwil yn awgrymu bod bron i un o bob pedwar o bobl LHDTC+ yng Nghymru yn dioddef trosedd casineb bob blwyddyn, ac eto dim ond rhyw 12 y cant sy'n riportio'r mater wrth yr heddlu.

"Nid yn unig mae darparu cymorth arbenigol, ystyriol o drawma, yn helpu dioddefwyr i ymdopi ac adfer, mae hefyd yn atal ail erledigaeth a niwed mwy difrifol. Yn ogystal â helpu pobl ifanc i gadw'n ddiogel a theimlo'n hyderus i riportio troseddau, mae'r prosiect hwn hefyd yn meithrin cysylltiadau cryfach gyda'r gwasanaeth heddlu, rhoi sylw i achosion sylfaenol, a lleihau perygl yn y dyfodol.

Gallwch gael cymorth yma: www.umbrellacymru.co.uk