Y Comisiynydd yn dathlu bywydau Cenhedlaeth Windrush Gwent

20fed Gorffennaf 2026

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, â phartneriaid a phreswylwyr o gymunedau amrywiol ar gyfer lansiad prosiect Arloeswyr Cymru yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd. Mae'r prosiect yn rhan o Ddathliadau Etifeddiaeth Windrush 2026.

 

Bydd prosiect adrodd hanes Arloeswyr Cymru yn rhoi llwyfan i brofiadau Cenhedlaeth Windrush ac yn cadw eu straeon ar gyfer y dyfodol, gan gynnig golwg gonest ar eu bywydau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.

 

Meddai Comisiynydd Mudd: "Roeddwn yn falch iawn i fod yn bresennol yn y digwyddiad gwych yma sy'n nodi cyflawniadau ac yn hybu etifeddiaeth werthfawr cenhedlaeth Windrush yng Ngwent a ledled Cymru.

 

Mae ein hynafiaid yma yng Ngwent yn golygu llawer iawn i mi. Rwyf yn falch iawn i allu parhau i gydnabod eu bywydau a'u hetifeddiaeth i'n cymunedau flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

Hoffwn ddiolch i Age Alive Casnewydd a Rhwydwaith 50+ Casnewydd a'r Rhanbarth am roi sbotolau ar ein cymunedau amrywiol ac am gynnal digwyddiad mor ysbrydoledig."

 

Bydd prosiect Arloeswyr Cymru yn cael ei arwain gan Age Alive Casnewydd a Rhwydwaith 50+ Casnewydd a'r Rhanbarth mewn partneriaeth â Hynafgwyr Windrush Cymru, gyda chymorth gan Gyngor Dinas Casnewydd. Mae'r prosiect hefyd yn derbyn cyllid gan y Comisiynydd, Race Council Cymru a Llywodraeth Cymru.