Log Penderfyniadau
Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
M-2019-004
26 Tachwedd 2019
Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad, 26 Tachwedd 2019
PCCG-2019-067
25 Tachwedd 2019
Adolygiad o System Cwynion yr Heddlu Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi ystyried a chytuno ar yr opsiwn y mae am ei ddefnyddio mewn perthynas â’r newidiadau i'r Adolygiad o System Cwynion yr Heddlu a gyflwynwyd gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017.
PCCG-2019-056
12 Tachwedd 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i roi £1,000 yr un i'r wyth Panel Atal Troseddu yng Ngwent i'w cynorthwyo i gynnal mentrau atal troseddu lleol i gefnogi blaenoriaethau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
PCCG-2019-054
12 Tachwedd 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid am 12 mis arall i Cymorth i Ddioddefwyr er mwyn parhau'r swydd Eiriolydd Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl yn ystod 2019-20 yn Connect Gwent.
PCCG-2019-057
12 Tachwedd 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cymorth ariannol i ddigwyddiadau Wings to Fly ar gyfer 2019/20. Amcangyfrifir mai £16,750 fydd uchafswm y gost.
PCCG-2019-059
8 Tachwedd 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ymestyn y contract ar gyfer darparu Gweithwyr Asiantaeth am naw mis arall.
PCCG-2019-024
28 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi dyfarnu cyllid o £10,000 yr un i'r ddwy Ardal Blismona Leol ar gyfer 2018/19.
PCCG-2019-049
28 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cynnal adolygiad blynyddol o'r Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-055
28 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-058
25 Hydref 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi mynd i gytundeb dan adran 60 Deddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 1998 mewn perthynas ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.