Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
PCCG-2019-060
12 Awst 2019
Ar ôl cymeradwyaeth gan y Panel Heddlu a Throsedd ar 12 Awst 2019, mae'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi penodi Ms Pamela Kelly yn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent.
PCCG-2019-042
12 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i sefydliadau sy'n cydweithio gyda Heddlu Gwent i ddarparu Ymyriadau Troseddau Cyfundrefnol Difrifol yn ystod 2019/20.
PCCG-2019-041
6 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi derbyn Adroddiad Blynyddol y Cydbwyllgor Archwilio ar gyfer 2018/19.
PCCG-2019-006
6 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi penderfynu datgomisiynu'r datrysiad rheoli busnes a brynwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd ym mis Mehefin 2015.
PCCG-2019-038
6 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-040
6 Awst 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-039
22 Gorffennaf 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi penderfynu dyfarnu'r contract ar gyfer darparu system ffôn Protocol Llais dros y Rhyngrwyd (VOIP) i Atos dan baragraff 20-24 o'r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2019-036
16 Gorffennaf 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi dyfarnu contract i ddarparu cardiau tanwydd i Allstar Business Ltd. Mae'r dyfarniad yn unol â pharagraff 66c y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2019-037
15 Gorffennaf 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo’r diwygiadau i Weithdrefn Rhyddid Gwybodaeth Swyddfa'r Comisiynydd.
PCCG-2019-033
8 Gorffennaf 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Casnewydd Fyw i ddarparu ymyriadau trais difrifol fel rhan o brosiect Atal Trais Difrifol Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20.