Log Penderfyniadau

Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent

Clirio'r Chwiliad
M-2019-002
5 Mehefin 2019
Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad, 5 Mehefin 2019
PCCG-2019-025
20 Mai 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cymeradwyo penderfyniad y Prif Gwnstabl i drefnu bod Prif Uwch-arolygydd yn rhoi cyngor ac arweiniad i Ardaloedd Sofran y Prif Swyddog yng Nghyprus mewn perthynas â gwrandawiad camymddwyn.
PCCG-2019-018
20 Mai 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi adolygu cofnodion cyfarfod Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-022
7 Mai 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi £25,000 i Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ar gyfer 2019/20, gydag opsiwn o gyllid cyfatebol o hyd at £25,000 arall. Bydd £5,000 ychwanegol yn cael ei ddarparu er mwyn cefnogi blwyddyn gyntaf yr 'uwch-gynnig' ('superbid') hefyd.
PCCG-2019-020
7 Mai 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddarparu cyllid i Llwybrau Newydd a Cymorth i Fenywod Cyfannol i sicrhau bod eu gwasanaethau cefnogi dioddefwyr troseddau rhywiol yng Ngwent yn parhau yn ystod 2019/20.
PCCG-2019-014
15 Ebrill 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi cyllid i sefydliadau partner ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20.
PCCG-2019-019
11 Ebrill 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro perfformiad ei swyddfa yn ystod 2018/19 mewn perthynas â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
PCCG-2019-017
11 Ebrill 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cytuno i ymestyn y contract ar gyfer cyflenwi Cyrsiau Cenedlaethol Adsefydlu Gyrwyr gyda TCC Group am chwe (6) mis arall yn unol â pharagraff 124(b) y Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol.
PCCG-2019-016
18 Mawrth 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2019 ac mae'n fodlon ar y cynnydd.
PCCG-2019-015
18 Mawrth 2019
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro'r gwaith craffu annibynnol a wnaed gan y Panel Craffu ar Gyfreithlondeb ar ddefnydd Heddlu Gwent o bwerau stopio a chwilio a defnyddio grym.