Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i roi £25,000 i Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ar gyfer 2020/21, gyda’r dewis o gyllid cyfatebol o hyd at £25,000 yn ychwanegol. Darperir hefyd £10,000 arall i gefnogi blwyddyn 1 a 2 y ‘superbid’.

Reference Number: PCCG-2019-079

Date Added: Dydd Mercher, 1 Ebrill 2020

Details:

Yn 2019/20 lansiodd Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent (GHSCF) elfen ychwanegol i’w digwyddiad blynyddol. Byddai un grant y flwyddyn yn cael ei ddewis fel ‘superbid’ ac yn cael cyllid 3 blynedd o £5,000 y flwyddyn. Cytunodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i roi’r £5,000 sydd ei angen i gefnogi Blwyddyn 2 o ‘superbid’ 19/20, yn ogystal â £5,000 arall i gefnogi Blwyddyn 1 ‘superbid’ 20/21.

Attachments: