Log Penderfyniadau
Penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
PCCG-2024-025
19 Rhagfyr 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2025-26 hyd 2027-28 ac Arferion Rheoli'r Trysorlys.
PCCG-2024-026
19 Rhagfyr 2024
Mae'r Comisiynydd wedi monitro Gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1 Ebrill 2024 tan 30 Medi 2024.
PCCG-2024-014
4 Rhagfyr 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys a gwir Ddangosyddion Darbodus ar gyfer 2023/24
PCCG-2024-022
4 Rhagfyr 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent wedi monitro cofnodion cyfarfod y Cynllun Lles Anifeiliaid a gynhaliwyd 24 Hydref 2024 ac mae'n fodlon ar y cynnydd a wnaed
PCCG-2024-007
12 Tachwedd 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i gyfrannu at y swydd Uwch-ddadansoddwr Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru Gyfan ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.
PCCG-2024-009
12 Tachwedd 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi cytuno i gyfrannu at y Tîm Glasbrint VAWDASV ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25.
PCCG-2024-018
12 Tachwedd 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ymestyn y cynnig grant a gynigwyd i Brynmawr Interact allan o gyfnod cyllid 2024/25 i alluogi darpariaeth ychwanegol am weddill y flwyddyn ariannol.
PCCG-2024-016
7 Hydref 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i Newport Business against Crime i gefnogi parhad y gwasanaeth yn lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol dinas Casnewydd yn ystod 2024/25.
PCCG-2024-017
7 Hydref 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid partneriaeth i Siop Siarad Coed-duon 2024/25.
PCCG-2024-015
20 Medi 2024
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ymestyn y dyfarniad cyllid i Kid Care 4 U am saith mis arall.