Hysbysiad o Ardystiad Cwblhau Archwiliad 2018-19

Rhoddir hysbysiad drwy hyn bod yr archwiliad o gyfrifon Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a chyfrifon Prif Gwnstabl Gwent ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben 31 Mawrth 2019 bellach wedi’i gwblhau.

Cyhoeddwyd barn ddiamod a’r dystysgrif archwilio cyfrifon ar 31 Gorffennaf 2019 ac nid oedd rhaid i’r Archwilydd Penodedig gyhoeddi adroddiad er budd y cyhoedd dan Adran 22 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Mae’r datganiad cyfrifon ar gael i’w archwilio gan etholwyr llywodraeth leol yn yr Adran Gyllid, Pencadlys yr Heddlu, Croesyceiliog, Cwmbrân rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd lau a rhwng 9am a 4pm ar ddydd Gwener.


Darren Garwood-Pask

Prif Swyddog Cyllid

Swyddfa Comisiynydd

Heddlu a Throsedd Gwent         

Nigel Stephens

Prif Swyddog Cynorthwyol Adnoddau 

Heddlu Gwent

 

Pencadlys yr Heddlu
Croesyceiliog
CWMBRÂN
NP44 2XJ