Cyllideb 2020-21

Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2020/21

Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2020/21 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.

Cyllideb 2020/21 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 

Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2020/21 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2017-21; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:

  1. Gofyniad cyllideb o £133,623,773ar gyfer 2020/21;
  2. Arbedion arfaethedig o £539k miliwn yn 2020/21 ac arbedion arfaethedig pellach o £1.137 miliwn (cyfanswm o £1.676m miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
  3. Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 7)
  4. Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 8a a 8b; a
  5. Praesept arfaethedig ar gyfer 2020/21 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £60,635,761 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £273.39) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:

Awdurdodau Unedol

£

Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£)

Blaenau Gwent

5,648,907

20,662.45

Caerffili

16,553,559

60,549.25

Sir Fynwy

12,666,684

46,331.92

Casnewydd

16,476,545

60,267.55

Torfaen

9,290,066

33,981.00

Cyfanswm

60,635,761

221,792.17

Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:

Band Treth y Cyngor

£

A

182.26

B

212.64

C

243.01

D

273.39

E

334.14

F

394.90

G

455.65

H

546.78

I

637.91

Adroddiad y Panel Heddlu a Throseddu

Adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu