Cyllideb 2022-23

Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2022-23

Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2022-23 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.

Cyllideb 2022-23 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 

Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2022-23 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2021-25; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:

  1. Gofyniad cyllideb o £156,103,774 ar gyfer 2022-23;
  2. Arbedion arfaethedig o £1.021 miliwn yn 2022-23 ac arbedion arfaethedig pellach o £3.108 miliwn (cyfanswm o £4.329m miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
  3. Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 7)
  4. Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 8a a 8b; a
  5. Praesept arfaethedig ar gyfer 2021/22 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £68,144,822 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £303.80) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:

Awdurdodau Unedol

£

Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£)

Blaenau Gwent

6,342,390

20,876.86

Caerffili

18,550,851

61,062.71

Sir Fynwy

14,391,857

47,372.80

Casnewydd

18,485,844

60,848.73

Torfaen

10,373,880

34,147.07

Cyfanswm

68,144,822

224,308.17

Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:

Band Treth y Cyngor

£

A

202.53

B

236.29

C

270.04

D

303.80

E

371.31

F

438.82

G

506.33

H

607.60

I

708.87

Adroddiadau (Saesneg yn unig)

Adroddiad Panel yr Heddlu a Throsedd
Atodiad
Atodiadau
Feto praesept – adroddiad cyntaf
Feto praesept – ail adroddiad