Cyllideb 2024-25

Mae gofyn i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd bennu cyllideb ar gyfer 2024-25 ac yna pennu praesept y dreth gyngor ar ôl ymgysylltu â thrigolion, ac ymgynghori â Phanel Heddlu a Throsedd Gwent.

Bydd y rhan helaethaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac i gomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.

Wrth bennu'r gofyniad cyllideb ar gyfer 2024-25 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throsedd 2021-25; Gweledigaeth Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol angenrheidiol i ddarparu gofynion gweithredol y cynllun; lefel yr adnoddau i'w dyrannu ar gyfer comisiynu gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent, a chost cynnal Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Ar ôl ymgynghori â Phanel Heddlu a Throsedd Gwent, mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo:

  1. Gofyniad cyllideb ar gyfer 2024/25 o £173,027,278
  2. Yr arbedion arfaethedig yn 2024/25 o £0.698 miliwn ac arbedion pellach o £1.654 miliwn (cyfanswm o £2.352 miliwn) 
  3. Defnydd pellach o Gronfeydd wrth Gefn a Chyllid Clustnodedig o £2.805 miliwn i fantoli cyllideb 2024/25
  4. Y rhaglen gyfalaf gychwynnol 
  5. Swm arfaethedig praesept y dreth gyngor ar gyfer 2024/25 o ran costau cyffredinol o £79,159,573. Mae hwn yn adlewyrchu codiad blynyddol 7.70% ar lefel praesept y dreth gyngor yn 2023/24. Bydd swm cyffredinol praesept y dreth gyngor yn cael ei dyrannu i bob ardal awdurdod lleol fel a ganlyn:
    • Blaenau Gwent: £7,317,677
    • Caerffili: £21,423,010
    • Sir Fynwy: £16,939,672
    • Casnewydd: £21,435,712
    • Torfaen: £12,043,502
    • Cyfanswm: £79,159,573

Mae praesept y dreth gyngor a ddangosir uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol ar gyfer y gwahanol fandiau:

A: £233.01
B: £271.85
C: £310.68
D: £349.52
E: £427.19
F: £504.86
G: £582.53
H: £699.04
I : £815.55

Dogfennau

Adroddiad cyllideb
Cofnod Penderfyniadau
Atodiadau
Adroddiad ar gyfer Panel Heddlu a Throsedd Gwent
Ymateb Panel Heddlu a Throsedd Gwent
Hysbysiad Praesept y Dreth Gyngor 2024-25