Ymweliadau ag ysgolion

27ain Hydref 2023

Mae fy nhîm wedi bod yn brysur yn ymweld ag ysgolion ledled Gwent dros yr wythnosau diwethaf.

Yr wythnos yma gwnaethant ymweld â Heddlu Bach Ysgol Gynradd Penygarn yn Nhorfaen i siarad am rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a sut mae comisiynwyr yn gweithio gyda'r heddlu i helpu i gadw cymunedau'n ddiogel.

Gwnaethant ddarparu gweithdai Mannau Diogel i blant yn Ysgol Gynradd Cantref yn Y Fenni. Mae'r sesiynau yma'n annog plant i siarad am ardaloedd lle maent yn teimlo'n ddiogel ac yn anniogel yn eu cymunedau, ac mae'r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r tîm plismona lleol a phartneriaid eraill.

Dim ond rhai o'r ffyrdd rydym yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu lleisio eu barn ar y materion sydd o bwys iddynt yw'r rhain.