Cronfa Gymunedol yr Heddlu 2023/24

Sefydliad: Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
Swm a Ddyfarnwyd: £42,631.48.
Ardal Leol: Torfaen.
Pwrpas: Darparu cyfleuster galw heibio mynediad agored am bum noson yr wythnos mewn amgylchedd diogel. Darparu gwasanaethau, gweithgareddau a chymorth pwrpasol; darparu cwnselwyr a mentoriaid; darparu cyfleoedd dysgu sy'n cynnwys opsiynau gwirfoddoli, clybiau gwaith/menter, hyder a sgiliau ymdopi, ymwybyddiaeth o gydberthnasau iach, ffitrwydd a sgiliau byw yn annibynnol; gweithio yn y gymuned i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r gwasanaeth; a derbyn atgyfeiriadau gan wahanol sefydliadau partner i dargedu'r bobl ifanc mwyaf anghenus e.e. Cymunedau am Waith, Gwasanaeth Gyrfaoedd i bobl ifanc NEET a Heddlu Gwent.

Sefydliad: Tŷ Cymunedol
Swm a Ddyfarnwyd: £49,886.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Mae'r prosiect yn darparu sesiynau gwaith ieuenctid yn ystod gwyliau ysgol sy'n cynnwys teithiau addysgol, gweithgareddau mewn canolfan ar gyfer pobl ifanc e.e. chwaraeon, celf a chrefft, sesiynau addysgol; yn ogystal â darparu mentora cymheiriaid, arweinyddiaeth ieuenctid a chyfleoedd gwirfoddoli.

Sefydliad: Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST Cymru)
Swm a Ddyfarnwyd: £49,671.71.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Mae'r prosiect yn darparu sesiynau galw heibio wythnosol i bobl ifac, sesiynau mentora un i un rheolaidd, gweithdai gwybodaeth gyda sefydliadau partner bob pythefnos a chyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau neu deithiau.

Cofod penderfyniad gwreiddiol