Cyllid a Ddyfarnwyd 2019-20

 

Sefydliad: Duffryn Community Link
Swm a Ddyfarnwyd: £25,058.82.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gyntaf yn 2018/19(rhif penderfyniad PCCG-2019-051) a dyrannwyd cyllid dwy flynedd iddo mewn egwyddor yn amodol ar dderbyn adroddiadau boddhaol.

Sefydliad:
Creazione in the Community
Swm a Ddyfarnwyd: £20,900.
Ardal Leol: Caerffili.
Pwrpas: Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gyntaf yn 2018/19(rhif penderfyniad PCCG-2019-051) a dyrannwyd cyllid dwy flynedd iddo mewn egwyddor yn amodol ar dderbyn adroddiadau boddhaol.

Sefydliad: The Gap Cymru
Swm a Ddyfarnwyd: £15,000
Ardal Leol: Casnewydd 
Pwrpas: I ddarparu prosiect Sanctuary o 1 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2020, sy'n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid ifanc, gan ddarparu cymorth, cyngor a gweithgareddau cymdeithasol perthynol a chyfannol iddynt.

Sefydliad: Clwb Bocsio Amatur Alway
Swm a Ddyfarnwyd: £20,000.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: I ddarparu prosiect Stop Stabbing Start Jabbing - 5pm-7pm dydd Mawrth a dydd Iau - a 10am - 2pm dydd Sadwrn, o 1 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2020.  Bydd y prosiect yn darparu rhaglenni bocsio / mentora i bobl sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol neu sydd wedi bod yn ddioddefwyr trosedd ifanc.

Sefydliad: Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân
Swm a Ddyfarnwyd: £40,314.72.
Ardal Leol: Cwmbrân.
Pwrpas: Tuag at ddarparu'r Prosiect Galw Heibio Mynediad Agored o 1 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2020. Bydd yn cynnwys sesiwn galw heibio am bum noson yr wythnos mewn amgylchedd diogel, sy'n rhoi gwasanaeth, gweithgareddau a chymorth pwrpasol, a bydd cwnselwyr a mentoriaid ar gael i'r bobl ifanc sy'n bresennol.

Sefydliad: Cymru Creations
Swm a Ddyfarnwyd: £25,000.
Ardal Leol: Blaenau Gwent.
Pwrpas: Darparu prosiect Academi Ffilm Blaenau Gwent o 1 Ionawr 2020 tan 31 Rhagfyr 2020, a fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc greu cyfres o ffilmiau byrion yn canolbwyntio ar broblemau a phryderon cyfredol.

Sefydliad: County in the Community
Swm a Ddyfarnwyd: £11,807.50.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Tuag at ddarparu'r prosiect Premier League Kicks yn Ringland - rhedeg  o 1 Tachwedd 2019 tan 31 Hydref 2020. Darperir sesiynau wythnosol ar ddydd Iau y tu allan i oriau ysgol. Darperir cyfleoedd dysgu hefyd i wella datblygiad a lles pobl ifanc.

Sefydliad: Grwpiau Ieuenctid Bryn Farm a Choed Cae
Swm a Ddyfarnwyd: £40,151.
Ardal Leol: Blaenau Gwent.
Pwrpas: Tuag at brosiect rhwng y cenedlaethau a fydd yn rhoi sylw i gydberthnasau rhwng pobl hŷn a phobl ifanc. Bydd yn rhoi sylw i ddatblygiad personol unigolion, materion iechyd meddwl unigol a chysylltiedig, datblygiadau addysgol a rhyngweithio cymdeithasol.   Bydd y rhaglen weithgareddau'n cynnwys cyfleoedd i bobl ifanc arwain gweithgareddau yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol a chreu ymrwymiad i ddatblygiad personol.

Sefydliad: Gwasanaeth Eiriolaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Ifanc           
Swm a Ddyfarnwyd: £49,909.
Ardal Leol: Blaenau Gwent.
Pwrpas: Tuag at brosiect sy'n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o ddod yn ddioddefwyr trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Bydd y prosiect yn helpu i chwalu rhwystrau i ymgysylltu gyda gwahanol wasanaethau (e.e. sefydliadau addysg a sefydliadau yn y gymuned) yn ogystal â meithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol, codi dyheadau a meithrin hyder. Bydd y prosiect yn defnyddio eiriolaeth a dull seiliedig ar hawliau i sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chlywed a'u safbwyntiau'n cael eu gwerthfawrogi. Bydd gwasanaethau pwrpasol yn cael eu darparu i gefnogi pobl ifanc ar sail un i un hefyd, i'w helpu nhw gyda'u problemau a'u cyfeirio nhw at wasanaethau eraill.

Sefydliad: Urban Circle Productions
Swm a Ddyfarnwyd: £50,000.
Ardal Leol: Casnewydd.
Pwrpas: Tuag at Gam 2 prosiect U Turn a dderbyniodd gyllid ar gyfer Cam 1 yn 2018/19.  Bydd y prosiect yn defnyddio gwahanol ffurfiau ar gelf greadigol i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol lluosog sy'n effeithio ar bobl ifanc bregus.  Bydd y prosiect yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio a threfnu gwahanol ddigwyddiadau (e.e. Calan Gaeaf) a gweithdai, gan dderbyn atgyfeiriadau ble y bo'n briodol.   Bydd yn darparu hyfforddiant sgiliau bywyd ac yn rhoi cyfle i'r bobl ifanc ennill cymwysterau mewn gwahanol feysydd (e.e. Cymorth Cyntaf, Diogelu a Gwaith Ieuenctid).