Cronfa Gymunedol yr Heddlu 


Beth yw Cronfa Gymunedol yr Heddlu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu?

Nod y Gronfa yw galluogi plant a phobl ifanc yng Ngwent i fod yn ddiogel, yn iach ac yn hapus, i adeiladu gwell dyfodol iddyn nhw eu hunain a'u cymuned trwy fynd i'r afael â phroblemau yn y gymuned mewn ffordd barhaol ac effeithiol.

Mae meithrin cydberthynas gadarnhaol rhwng plant a phobl ifanc a'r heddlu, sy'n seiliedig ar barch ar y ddwy ochr, yn hanfodol. Trwy ganolbwyntio ar ymyrryd ac atal yn gynnar, bydd y Gronfa'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n fregus, neu mewn perygl, i allu byw eu bywydau gan wireddu eu potensial yn llawn, a chreu cymunedau cadarn, sy'n fwy diogel a mwy cynhwysol.

Mae Timau Plismona Cymdogaeth mewn lle da i adnabod anghenion y gymuned leol ac felly mae eu gwaith gyda sefydliadau lleol, i gefnogi a helpu i ddatrys problemau, yn hollbwysig. Bydd Arolygwyr Lleol, ynghyd â chynrychiolwyr Heddlu Gwent, yn hwyluso’r gwaith o gynhyrchu syniadau am brosiectau sydd wedi dod oddi wrth y cymunedau eu hunain ac sy’n targedu plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol, sydd eisoes yn y system neu sydd wedi dioddef trosedd.

Pwy all wneud cais?

Bydd y Gronfa'n rhoi cymorth i sefydliadau dielw sy’n ceisio cyflawni prosiectau a gwasanaethau trwy weithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion bregus dan 25 oed sy'n byw yn ardal llu Heddlu Gwent. Bydd y Gronfa'n canolbwyntio ar brosiectau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc:

  • a allant fod mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, neu
  • sydd wedi dioddef trosedd.

Anogir ceisiadau am symiau rhwng 10,000 a £50,000 ac mae cyllid ar gael am hyd at dair blynedd.


Mae ceisiadau am gyllid ar gyfer 2024/25 bellach ar gau.


Prosiectau Llwyddiannus

2024/25
2023/24
2022/23
2021/22

2020/21
2019/20
2018/19