Beth sy'n digwydd yn ystod y broses adolygu (hawdd ei darllen)


Sut i ofyn am adolygiad o gŵyn y mae Heddlu Gwent wedi ymdrin â hi


Sylwer: Dim ond cwyn yn erbyn Heddlu Gwent sydd wedi cael ei hymchwilio yn barod gan adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd) yn gallu ei hadolygu.

• Os bydd yr adran Safonau Proffesiynol yn penderfynu mai Swyddfa'r Comisiynydd yw'r corff priodol i adolygu eich cwyn, bydd yn ysgrifennu atoch chi. Wedyn bydd gennych chi 28 diwrnod i ofyn am adolygiad.

• Ni allwn ail ymchwilio i gŵyn. Ein rôl ni yw sicrhau bod y broses a'r canlyniad a gafwyd gan yr adran Safonau Proffesiynol yn rhesymol a theg.

Pan fyddwch yn gofyn am adolygiad
• Bydd manylion ynghylch sut i ofyn am adolygiad yn cael eu cynnwys yn y llythyr canlyniad a anfonwyd atoch chi gan Heddlu Gwent.

• Llenwch y ffurflen ar ein gwefan a chofiwch gynnwys copi o'r llythyr canlyniad gan y bydd hynny’n gwneud i’r broses symud yn gyflymach. E-bostiwch gopi o'r llythyr atom - commissioner@gwent.police.uk

• Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi ei dderbyn ac yn neilltuo unigolyn penodol i fod yn bwynt cyswllt i chi.

• Efallai y bydd rhywun yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth i gefnogi eich adolygiad.

• Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda sefydliad allanol o'r enw Sancus, sy'n ymdrin ag adolygiadau ar ein rhan. Nid yw Sancus yn gwneud penderfyniad terfynol, ond mae'n rhoi argymhelliad i ni ei ystyried.

• Ein nod yw cwblhau eich adolygiad o fewn 28 diwrnod ond weithiau gall gymryd mwy o amser.

• Gallwch ddisgwyl cael gwybodaeth am eich adolygiad bob 28 diwrnod o leiaf.

• Ar ôl i ni gwblhau eich adolygiad, byddwch yn derbyn llythyr oddi wrthym yn esbonio'r canlyniad.

Ar ôl yr adolygiad

• Mae ein penderfyniad yn derfynol. Pan fyddwch wedi derbyn ein penderfyniad, nid oes gennych chi hawl i adolygiad pellach gennym ni. Fodd bynnag, os nad ydych yn credu bod yr adolygiad wedi cael ei gynnal yn unol â'r gyfraith, gallech ystyried adolygiad barnwrol.

• Os byddwn yn gwneud argymhellion i Heddlu Gwent ynglŷn â'ch cwyn, rhaid i'r adran Safonau Proffesiynol ymateb inni o fewn 28 diwrnod. Gallwn ymestyn y cyfnod hwn os oes angen rhagor o amser.

• Gall Heddlu Gwent dderbyn ein hargymhellion, neu beidio, ond byddwn yn dweud wrthych chi beth mae Heddlu Gwent yn bwriadu ei wneud nesaf.