Seremoni arwyddo trawst yn nodi carreg filltir i Heddlu Gwent yn Y Fenni

19eg Hydref 2023

Mae seremoni arwyddo trawst wedi cael ei chynnal i nodi carreg filltir allweddol yn y gwaith o adeiladu lleoliad heddlu newydd yn Y Fenni.

Mae'r adeilad newydd yn Llan-ffwyst i fod i agor yn y gwanwyn yn 2024 a bydd yn gartref i dimau plismona cymdogaeth ac ymateb.

Bydd ei leoliad yn galluogi swyddogion heddlu a swyddogion cefnogi cymuned i gerdded i ganol y dref yn rhwydd a bydd gan geir sy'n ymateb i alwadau fynediad da at y rhwydwaith ffyrdd lleol.

Bydd yr adeilad yn un o'n rhai mwyaf gwyrdd hyd yn hyn ac mae wedi derbyn statws rhagorol gan BREEAM – system ardystio sy'n seiliedig ar wyddoniaeth ac sy’n cael ei defnyddio i fesur cynaliadwyedd adeiladau.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Pan fu’n rhaid i ni gau'r hen orsaf heddlu yng nghanol y dref gwnaethom addo i'r gymuned y byddem yn dod o hyd i ateb hirdymor ar gyfer plismona yn yr ardal leol. Rydym yn gwireddu'r ymrwymiad yma yn awr ac rwyf yn edrych ymlaen at weld y lleoliad newydd yn agor ac yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol agos."
Mae aelodau'r cyhoedd sydd eisiau siarad wyneb yn wyneb â Heddlu Gwent yn gallu parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth cownter yn Neuadd y Dref Y Fenni sydd yng nghanol y dref, gan y bydd mynediad i'r cyhoedd i'r lleoliad newydd trwy wahoddiad yn unig.

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Rwyf wrth fy modd bod ein lleoliad newydd yn Y Fenni yn mynd i fod yn barod yn ystod gwanwyn 2024. Bydd yr adeilad yma’n golygu bod ein timau cymdogaeth ac ymateb mewn lleoliad a fydd yn ein galluogi ni i fod yn fwy gweledol yn nhref farchnad brysur Y Fenni a’r ardaloedd o gwmpas. Mae’r prosiect yma’n dda i gymunedau, i’n staff, a thrwy fabwysiadu’r cyfleuster yma fel un o’r safleoedd mwyaf gwyrdd ar draws ein hystâd, rydym yn gobeithio y bydd yn adeilad sy’n gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Meddai Richard Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon: "Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio gyda Heddlu Gwent yn rhan o bartneriaeth gydweithredol i ddarparu'r cyfleuster heddlu newydd i'r tîm cymdogaeth a'r tîm ymateb yn Y Fenni. Roedd yn wych gallu dangos sut mae'r adeilad yn dod yn ei flaen i Brif Gwnstabl Kelly a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert. Bydd yr adeilad newydd yn darparu cyfleusterau ardderchog a fydd yn diwallu anghenion gorfodi'r gyfraith yn y byd modern."