Mis Hanes Pobl Dduon 2023

20fed Hydref 2023

Mis Hydref eleni rydym yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon ac yn cydnabod y cyfraniadau mae pobl dduon wedi eu gwneud i'r DU dros lawer o genedlaethau.

Yng Nghymru mae hefyd yn nodi lansio Hanes Pobl Dduon Cymru 365 Race Council Cymru, blwyddyn gyfan o ddathlu'r hanes a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, yn ogystal â llwyddiannau cyfoes, pobl dduon yng Nghymru.

Rwyf yn falch i fod wedi ymuno â chomisiynwyr heddlu a throsedd eraill Cymru i noddi Hanes Pobl Dduon Cymru 365 a gallwch gael mwy o wybodaeth am hyn ar wefan Race Council Cymru.

Mae hyn yn cynnwys noddi gwobr 'Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru' yng Ngwobrau Cenedlaethol Ieuenctid a Chymuned Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae'n rhaid i mi longyfarch yr enillydd, Edith Melendez, am yr holl waith caled mae hi wedi ei wneud i'r gymuned. Daeth Edith i'r wlad yma fel ceisiwr lloches a bellach mae hi'n gweithio fel cyfieithydd hyfforddedig gyda'r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, yn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches i sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at gymorth a chefnogaeth hollbwysig.

Yr wythnos yma, aeth fy nhîm i ddarlith Race Council Cymru ar hanes pobl dduon yn y Senedd, a oedd yn cael ei thraddodi gan yr hanesydd, yr Athro Olivette Otele. Un o drigolion Casnewydd yw'r Athro Otele, a chafwyd cyflwyniad addysgol ganddi ar 'Foremothers' a oedd yn edrych ar yr argraff mae menywod duon wedi ei wneud ar gymdeithas. Archwiliodd fywydau llawer o fenywod duon ysbrydoledig, gan gynnwys yr academydd a'r gweithredydd yr Athro Wangari Maathai, y gofodwr Dr Mae Carol Jemison, a'r ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth Mary Ann Shadd, i enwi ond ychydig ohonynt.

Clywodd y rhai oedd yn bresennol areithiau dylanwadol gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt hefyd. Gwnaethant siarad am bwysigrwydd creu Cymru wrth-hiliol. Roedd yn galonogol clywed uwch arweinwyr yng Nghymru'n pwysleisio eu hymroddiad i weithio'n rhagweithiol gyda phartneriaid tuag at ein nod cyffredin o Gymru wrth-hiliol.

Roeddwn yn falch i weld rhai o'n partneriaid o Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân yn y digwyddiad hefyd. Rydym yn ariannu Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân i ddarparu clwb ieuenctid gyda'r nos yn ystod yr wythnos ac, yn rhan o'r sesiynau yma, maen nhw'n cynnal mis o weithgareddau yn canolbwyntio ar hanes pobl dduon. Edrychaf ymlaen at gael gwybod mwy am y gwaith yma dros yr wythnosau nesaf.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn amser i fyfyrio hefyd.

Gwnaethom noddi cynhadledd Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du yng Nghaerdydd yr wythnos yma, a gynhaliwyd gan Heddlu De Cymru. Roedd yn gyfle i wrando a dysgu gan gydweithwyr yn y maes plismona a siaradwyr o bob rhan o'r DU, gan gynnwys Dr Stuart Lawrence a siaradodd yn ysgogol am fywyd ac etifeddiaeth ei frawd Stephen.

Mewn gwirionedd, mae angen i ni gael sgyrsiau anghyfforddus i bwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod yn deall a chydnabod profiadau ein cymunedau, a pha mor bwysig yw'r gwaith y mae angen ei wneud i gyflawni hynny.

Mae ein rhwydweithiau staff yn hollbwysig yn hyn o beth, yn rhoi cefnogaeth a man diogel i swyddogion a staff siarad am eu profiadau a'u pryderon. Mae'r rhwydweithiau yma yn Heddlu Gwent yn chwarae rhan hollbwysig yn herio gwahaniaethu, hybu cydraddoldeb a chynhwysiant, ac ysgogi newid mewn diwylliant ble y bo angen. Maen nhw'n lleisiau amlwg, hyfyw yn y sefydliad sy'n galluogi pobl i godi eu llais a chael eu clywed.

Mae gan Heddlu Gwent nifer o rwydweithiau staff, pob un ohonynt â ffocws gwahanol, ond pob un â'r un nod o alluogi pobl i fod y gorau y gallant fod. Rwyf yn ddigon ffodus i fod wedi cael gwahoddiad i gwrdd â'r rhwydweithiau a gallaf dystio i'w proffesiynoldeb a'u hymrwymiad i gefnogi eu cydweithwyr.

Mae'r cynnwrf cymdeithasol a gwleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi pwysau a galwadau amlwg ar ein holl gymunedau, ond mae ein cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi cael eu heffeithio'n anghymesur gan hyn.

Mae tensiynau yn y gymuned. Mae hyder mewn plismona wedi cael ei ddifrodi.

Ein gwaith ni yw ailadeiladu'r hyder yna. Rwyf wedi ymrwymo i ailadeiladu'r hyder yna.

Fel rhan o'r ymrwymiad yma rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn Cyfiawnder Troseddol Cymru i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu gwrth-hiliol pwrpasol a thryloyw.

Datblygwyd y cynllun gydag aelodau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ledled Cymru. Mae'n amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd dros y tair blynedd nesaf yn rhan o'n hymrwymiad i gyflawni system cyfiawnder troseddol gwrth-hiliol.

Hoffwn dawelu meddwl ein cymunedau y bydd unrhyw un sy'n ymwneud â'r heddlu yng Ngwent yn cael ei drin yn gyfartal, yn deg a gyda pharch. Rwyf yn hyderus, trwy weithio gyda'n gilydd, y gallwn greu system cyfiawnder troseddol tecach i bawb.

Darllenwch Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth i Gymru Cyfiawnder Troseddol Cymru