Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu

28ain Gorffennaf 2021

Ymunodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, â'r Dirprwy Brif Gwnstabl, Amanda Blakeman ym Mhencadlys Heddlu Gwent ar gyfer seremoni i nodi Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu.

 

Mae Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Heddlu yn gyfle i gofio swyddogion sydd wedi colli eu bywydau tra ar ddyletswydd yn lleol a ledled y DU.

 

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent:

 

"Hoffwn i dalu teyrnged i'r swyddogion hynny a'u teuluoedd am y gwasanaeth y maen nhw wedi'i roi, i Heddlu Gwent ac i bobl Gwent. Ni fyddwch yn cael eich anghofio.

 

"Mae'r diwrnod yn gyfle hefyd i ddiolch i swyddogion yr heddlu sy'n gwasanaethu am y gwaith caled, yr ymroddiad a'r dewrder maen nhw’n eu harddangos bob dydd wrth iddyn nhw amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau.

 

"Mae eu penderfyniad i ddilyn gyrfa ar reng flaen plismona yn un dewr.

 

"Mae'r risgiau y maen nhw'n eu cymryd yn real iawn.

 

"Mae ymosodiadau ar weithwyr brys wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Gwyddom fod y tensiynau cymunedol yn ystod y pandemig wedi gwneud pethau’n waeth.

 

"Mae cam-drin corfforol a geiriol yn gyffredin bellach, ac rwy'n siŵr y bydd gan bob swyddog rheng flaen ei brofiad ei hun o hyn.

 

"Rhaid i ni beidio ag anghofio mai dim ond y llynedd y cafodd un o'n swyddogion ein hunain ei drywanu yn ystod ffrae. Mae hyn yn dangos pa mor ddifrifol y gall ymosodiadau ar swyddogion yr heddlu fod.

 

"Ni ddylid goddef y troseddau gwarthus hyn.

 

"Mae ein swyddogion heddlu yn haeddu cyflawni eu dyletswydd heb gael eu bygwth, ymosod na'u cam-drin.

 

"Dyma pam yr wyf i wedi ymgyrchu dros gosbau llymach i'r rhai sy'n ymosod ar ein gweithwyr brys, ac rwy'n cefnogi’n llwyr ddeddfwriaeth newydd y llywodraeth sy'n golygu y gall troseddwyr sy'n cyflawni'r troseddau hyn wynebu dedfrydau hirach o garchar.

 

"Bydd y cyfreithiau newydd yn helpu i sicrhau bod y dedfrydau y mae troseddwyr yn eu cael am ymosodiadau ar weithwyr brys yn fwy priodol ar gyfer y niwed meddyliol a chorfforol y maent wedi'i achosi.

 

"Rwy'n gwybod bod swyddogion heddlu Gwent wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau eu swyddi i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel yn ystod y pandemig. Maen nhw’n haeddu ein diolch, a'n parch.

 

"Cefais fy ethol gan bobl Gwent i fod yn llais cyhoeddus plismona ac, ar ran y cyhoedd, hoffwn i ddiolch i holl swyddogion yr heddlu, yn y gorffennol a'r presennol, am eu gwasanaeth."