Cadwch yn ddiogel Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber eleni

24ain Tachwedd 2021

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn yn daer ar bobl i siopa'n ofalus yn ystod Dydd Gwener Du a Dydd Llun Seiber eleni. 

Yn ôl Action Fraud, collodd 28,049 o ddioddefwyr gyfanswm o £15.4 miliwn trwy dwyll siopa ar-lein yn ystod cyfnod siopa Nadolig y llynedd.

Mae dioddefwyr wedi riportio prynu eitemau trwy farchnadoedd ar-lein, fel Facebook ac eBay, na chyrhaeddodd o gwbl, neu brynu trwy wefannau a oedd yn ymddangos yn rhai dilys ond a gafodd eu datgelu'n ddiweddarach i fod yn rhai ffug.

Meddai Jeff Cuthbert: "Os yw cynnig yn ymddangos i fod yn rhy dda i fod yn wir, yna mae'n siŵr ei fod yn rhy dda i fod yn wir. Arhoswch am funud ac ystyried cyn prynu eitem ar-lein, a cheisiwch ddefnyddio manwerthwyr swyddogol bob tro i sicrhau eich bod yn cadw'n ddiogel."

Mae Action Fraud yn annog pobl sy'n siopa i gymryd y camau canlynol er mwyn cadw'n ddiogel y Nadolig hwn:

  • Arhoswch: Gallai cymryd munud ac ystyried cyn prynu rhywbeth neu rannu gwybodaeth eich cadw chi'n ddiogel.
  • Heriwch: Ydi hi’n bosib mai twyll yw hyn? Mae'n iawn gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau.  Dim ond troseddwyr fydd yn dwyn pwysau arnoch chi neu'n eich rhuthro chi.
  • Amddiffynnwch: Os ydych chi'n credu eich bod wedi dioddef twyll, cysylltwch â'ch banc ar unwaith a riportiwch y mater ar-lein wrth Action Fraud ar actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch cadw'n ddiogel ar gael ar wefan Action Fraud.