Bydd Heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn anfon swyddogion i bob cartref sydd wedi’i fwrglera

6ed Hydref 2022

Roeddwn i’n falch o glywed yr wythnos hon fod y 43 o Brif Gwnstabliaid yng Nghymru a Lloegr wedi cytuno y bydd yr holl ddioddefwyr y mae eu cartref wedi’i fwrglera yn cael ymweliad gan swyddog heddlu.

Hwn yw ein polisi yma yng Ngwent eisoes ac rwy’n falch y bydd yn wir ledled gweddill Cymru a Lloegr. Mae bwrgleriaeth yn drosedd hynod ymyrrol a all ddifetha bywydau ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr yn cael y gwasanaeth gorau posibl.

Fodd bynnag, yn hollbwysig, rydym yn dymuno atal pobl rhag dioddef bwrgleriaeth yn y lle cyntaf.

Mae tîm Dangos y Drws y Drosedd Heddlu Gwent wedi bod yn helpu i amddiffyn ein cymunedau a tharfu ar y gadwyn gyflenwi droseddol, gan ei wneud yn hynod anodd i droseddwyr gael gwared ar nwyddau sydd wedi’u dwyn. Mae’r tîm hefyd yn darparu pecynnau atal trosedd i ddioddefwyr i helpu i atal aildroseddu.

Trwy gynllun Strydoedd Mwy Diogel y Swyddfa Gartref, rydym hefyd wedi sicrhau cyllid i ddarparu dyfeisiau diogelwch ac offer atal troseddau eraill ar gyfer ein cymunedau.

Yn ystod y misoedd diwethaf rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o fwrgleriaeth yng Ngwent ac, er na fyddwn byth yn hunanfoddhaus, rwy’n falch bod y gwaith rhagweithiol rydym wedi bod yn ei wneud yn dechrau dwyn ffrwyth.