Eich Hawliau a Sut i Gwyno

Mae gan yr heddlu bwerau i'ch stopio chi a gofyn cwestiynau i chi ar unrhyw adeg - gallant eich chwilio hefyd, yn dibynnu ar y sefyllfa.

Mae'n ddyletswydd ddinesig ar bawb i helpu swyddogion heddlu i atal trosedd a dal troseddwyr. Nid yw'r ffaith bod yr heddlu wedi stopio rhywun yn golygu eu bod yn euog o drosedd.
________________________________________

Beth yw fy hawliau?

Dyma olwg gyffredinol ar yr hawliau sy'n eich amddiffyn chi:
Saesneg – Hawdd ei Ddarllen
Bengali
Cymraeg
Tsieinëeg
Arabeg

Mae canllaw mwy cynhwysfawr ynglŷn â’ch hawliau pan gewch eich stopio a chwilio ar wefan Y Swyddfa Gartref.
________________________________________
Sut i Gwyno
Mae disgwyl i swyddogion fod yn gwrtais a pharchus bob amser a rhaid i bob digwyddiad stopio a chwilio gael ei gyflawni gyda chwrteisi, ystyriaeth a pharch. Dylid ond defnyddio pwerau stopio a chwilio yn deg, yn gyfrifol a heb wahaniaethu.
Os ydych yn anhapus gyda'r ffordd y cawsoch eich trin, gallwch gwyno. Gallwch gwyno os ydych yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn wahanol oherwydd eich cefndir ethnig, oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, crefydd neu anabledd. Bydd yn helpu os gwnewch chi gadw'r dderbynneb a gawsoch chi gan yr heddlu.

Mae cyngor ynghylch sut i gwyno ar gael oddi wrth:

• gorsafoedd heddlu
Heddlu Gwent
• Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
• Canolfan Cyngor ar Bopeth
• Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu
• Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
• cyfreithiwr.