Dadansoddiad Cydraddoldeb
Dadansoddiad cydraddoldeb yw'r dull a ddefnyddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ddangos ei bod yn talu sylw dyledus i gydraddoldeb wrth ddatblygu a gweithredu newidiadau i strategaeth, polisi ac arfer. Mae'n disodli'r broses flaenorol o asesu'r effaith ar gydraddoldeb. Mae hefyd yn talu sylw dyledus i amcanion y ddyletswydd gyffredinol wrth wneud penderfyniadau ac wrth bennu polisïau.
Mae dau bwrpas i ddadansoddiad cydraddoldeb:
- Canfod canlyniadau anfwriadol a'u lliniaru cyn belled â phosibl, ac
- Ystyried sut gallai newid i bolisi gefnogi'r gwaith o hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cydberthnasau da.
Mae angen i newidiadau sy'n cael eu cynnig trwy bolisi, neu benderfyniadau a wneir gan y Comisiynydd gael eu dadansoddi o safbwynt cydraddoldeb a rhaid ystyried y canlyniadau cyn gwneud y penderfyniadau hynny. Os nodir effeithiau negyddol, mae angen ystyried lliniaru'r effeithiau hynny.
Mae canfyddiadau'r dadansoddiad yn cael eu cofnodi ac mae’r Comisiynydd yn cael ei hysbysu amdanynt er mwyn iddo eu hystyried cyn gwneud penderfyniadau.
Asesiadau o Effaith
Business Interests Policy & Procedure - May 2020
Polisi Rheoli Cofnodion - Mai 2020
Polisi Cyswllt Cwsmer - Rhagfyr 2019
Polisi a Gweithdrefn Rhoddion a Lletygarwch - Medi 2019
Gwent Mwy Diogel - Ionawr 2015
Diogelwch Cymunedol Strategol - Tachwedd 2014
Atal Trosedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol - Tachwedd 2014
Gwasanaethau a Chyngor i Ddioddefwyr - Tachwedd 2014
Gweithdrefn Cwynion yn ymwneud â Safonau’r Gymraeg (Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb)
Bwriadau Comisiynu Strategol - Tachwedd 2014