Cynllun Heddlu a Throsedd 2021 - 2025


CYNNWYS

Cyflwyniad gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Cyflwyniad gan y Prif Gwnstabl
Gweledigaeth, Gwerthoedd ac Egwyddorion Allweddol
Y Blaenoriaethau Heddlu a Throsedd ar gyfer Gwent
Gwaith Partner
Cost Plismona yng Ngwent
Comisiynu
Cyfiawnder Troseddol
Monitro Perfformiad
Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Sylwadau i Gloi


CYFLWYNIAD GAN GOMISIYNYDD YR HEDDLU A THROSEDD

Yn y pum mlynedd ers i mi gael fy ethol gyntaf yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd, mae fy swyddfa a Heddlu Gwent wedi gweithio’n ddiflino i wneud Gwent yn lle mwy diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.

Rwyf yn hynod o falch bod Gwent yn un o’r llefydd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig ac rwyf yn gadarn yn fy ymrwymiad i sicrhau bod hyn yn parhau.

Mae’r Cynllun Heddlu a Throsedd hwn yn amlinellu fy ngweledigaeth a blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Ngwent am y tair blynedd nesaf. Rwyf wedi datblygu fy nghynllun ar ôl gwaith ymgysylltu helaeth gyda’r cyhoedd ac rwyf wedi gwrando ar amrywiaeth o safbwyntiau gan wahanol gymunedau ledled Gwent. Trwy gasglu’r safbwyntiau hyn, rwyf wedi ceisio deall yn well beth sydd o bwys i bobl Gwent.

Mae fy mlaenoriaethau ar gyfer y Cynllun Heddlu a Throsedd wedi cael eu dewis i ddiwallu anghenion cymunedau a sicrhau bod Heddlu Gwent yn y lle gorau posibl i ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol. Mae mynd i’r afael â throseddu, cefnogi dioddefwyr a gwella hyder y cyhoedd mewn plismona wrth wraidd fy nghynllun.

At hynny, rwyf wedi gwneud ysgogi arferion plismona cynaliadwy yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau gwasanaeth heddlu mwy effeithlon ac ecogyfeillgar ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throsedd, fy nghyfrifoldeb i yw dwyn Heddlu Gwent i gyfrif am gyflawni yn erbyn fy nghynllun. Er mwyn gwneud hyn, rwyf wedi creu cyfres o ganlyniadau i’w cyflawni yn ystod y tair blynedd nesaf. Bydd y canlyniadau hyn yn fy ngalluogi i fesur fy mherfformiad i a pherfformiad Heddlu Gwent wrth roi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd ar waith.
Yn ystod fy ail dymor byddaf yn datblygu’r seiliau cadarn sydd eisoes wedi cael eu gosod ac yn cadarnhau’r llwyddiannau a gyflawnwyd ochr yn ochr â Heddlu Gwent a phartneriaid.

Fodd bynnag, oherwydd natur newidiol trosedd, mae’n bwysig hefyd bod plismona yn flaengar ac yn chwilio’n barhaol am ffyrdd newydd ac arloesol o ymdrin â gofynion a heriau sy’n dod i’r amlwg.

Trwy gydweithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl, byddaf yn parhau i sicrhau bod gan Heddlu Gwent yr adnoddau i ymateb i heriau yn awr ac yn y dyfodol.

Ers i mi gyhoeddi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd diwethaf, mae’r byd wedi wynebu cythrwfl sylweddol yn sgil COVID-19. Mae effeithiau’r pandemig wedi bod yn helaeth, ac wedi cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas gan roi pwysau aruthrol ar wasanaethau cyhoeddus.
Nid yw plismona wedi bod yn eithriad yn hyn o beth.

Yn ystod cyfnodau mwyaf anodd y pandemig, gorfododd Heddlu Gwent y cyfyngiadau symud yn deg a gyda chydymdeimlad, gan gymryd camau penderfynol i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Hoffwn gymeradwyo ymddygiad y swyddogion a wynebodd yr heriau hyn a sicrhau bod Heddlu Gwent yno i’r bobl oedd ei angen.

Serch hynny, bydd effaith COVID-19 yn ymestyn tu hwnt i’r argyfwng iechyd cyhoeddus. Disgwylir i’r effeithiau cymdeithasol barhau dros genedlaethau. Bydd angen i blismona, a oedd dan gryn bwysau cyn y pandemig, adfer hefyd.

Dros y tair blynedd nesaf, byddaf yn gwneud fy ngorau i sicrhau bod Heddlu Gwent yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arno i oresgyn unrhyw heriau parhaus yn sgil COVID-19. Byddaf yn gweithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl a phartneriaid eraill i sicrhau ein bod yn cydweithio fel gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio’n fawr gan y pandemig.

Yn ogystal â’r pandemig yn ystod y 18 mis diwethaf, mae pryder difrifol wedi cael ei leisio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol am allu’r heddlu i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched a sut mae cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu plismona.

Mae’r ymateb i lofruddiaeth Sarah Everard gan swyddog heddlu a oedd yn gwasanaethu, a’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys byd eang yn dangos teimladau cryfion pobl, ac ni ellir anwybyddu’r teimladau hynny. Fel y pandemig, ymddengys bod hwn yn drobwynt i blismona, sy’n gofyn am ganolbwyntio o’r newydd ar ddull system gyfan i fynd i’r afael â’r problemau hyn, o fewn y maes plismona ac yn y gymdeithas ehangach.

Byddaf yn sicrhau bod y materion hyn yn cael cryn sylw yn fy nghynllun ac, fel fy ymateb i COVID-19, byddaf yn sicrhau fy mod yn gweithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl, fy swyddfa a phartneriaid i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen.

Yn olaf, fel eich Comisiynydd Heddlu a Throsedd, byddaf yn parhau i geisio eich barn a’ch pryderon, ac yn cynrychioli eich llais chi wrth ddwyn Heddlu Gwent i gyfrif.

Gallwch fod yn hollol sicr fy mod i a’r Prif Gwnstabl yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i gyflawni blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

Jeff Cuthbert
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
Medi 2021


CYFLWYNIAD GAN Y PRIF GWNSTABL

Mae Cynllun Heddlu a Throsedd 2021-2025 yn amlinellu gweledigaeth glir ar gyfer plismona yng Ngwent yn ystod y pedair blynedd nesaf.

Mae fy nhîm a minnau’n gwbl ymroddedig i gyflawni’r cynllun ac i wneud popeth y gallwn ni i gadw cymunedau Gwent yn ddiogel. Mae plismona’n dibynnu ar bartneriaethau da er mwyn llwyddo. Mae’r rhain yn cynnwys partneriaethau gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a phartneriaid eraill ond mae hefyd yn dibynnu ar bartneriaethau cadarn gyda’n cymunedau ni ein hunain. Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r cydberthnasau gwych sydd gennym ni ar hyn o bryd gyda’r rhain i gyd ac i barhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y cynllun hwn yn llwyddiant.

Pam Kelly
Prif Gwnstabl Heddlu Gwent
Medi 2021


GWELEDIGAETH, GWERTHOEDD AC EGWYDDORION ALLWEDDOL

Byddaf yn parhau i weithio gyda’r Prif Gwnstabl a phartneriaid eraill i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau hyn, gan gydnabod na ellir datrys llawer o’r problemau hyn trwy blismona yn unig.

Bydd fframwaith perfformiad yn sail i’r Cynllun Heddlu a Throsedd hwn er mwyn sicrhau bod y cynnydd a wneir gan Heddlu Gwent, rhaglenni a ariennir a fy swyddfa yn cael ei fonitro a’i werthuso. Bydd y Prif Gwnstabl yn darparu Cynllun Cyflawni manwl blynyddol yn nodi’r gweithgareddau arfaethedig i gyflawni’r canlyniadau yn fy nghynllun o safbwynt plismona.

Bydd fy swyddfa’n cynhyrchu Cynllun Busnes hefyd, a fydd yn cynnwys manylion y cyfraniad mae’n ei wneud tuag at gyflawni fy mlaenoriaethau a bydd canlyniadau’r holl weithgareddau yn cael eu cofnodi bob blwyddyn yn fy adroddiad blynyddol.

Rydym hefyd yn cydnabod ein cyfrifoldebau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth weithio tuag at un gwasanaeth cyhoeddus ac mae egwyddorion y cynllun hwn yn amlinellu fy ymrwymiad i gyflawni’r nod hwn.

Wrth galon y cynllun hwn mae pum ymrwymiad canolog sy’n cyffwrdd pob maes plismona.

GWERTH AM ARIAN

Mae sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau ariannol cyfyngedig i ddarparu gwasanaeth heddlu effeithlon yn hollbwysig.
Fel Comisiynydd, mae’n ofynnol bod gen i brosesau cynllunio a monitro ariannol effeithiol ar waith i sicrhau gwasanaeth gwerth am arian sy’n diwallu anghenion lleol. Mae hyn yn cynnwys:
• Pennu’r gyllideb blismona ar gyfer Gwent, gan gynnwys praesept treth y cyngor;
• Dosbarthu grantiau plismona gan y llywodraeth ganolog; a
• Chynnal a chefnogi gwaith craffu a threfniadau atebolrwydd effeithiol, fel y Cydbwyllgor Archwilio a Phanel yr Heddlu a Throsedd Gwent.
Ceir rhagor o wybodaeth am gost plismona a chyllideb heddlu a throsedd Gwent ar dudalennau 24-25 y cynllun hwn.

CYDRADDOLDEB

Mae egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol a thegwch yn dal i fod yn gonglfaen plismona yng Ngwent, ac mae cydraddoldeb a pharch yn greiddiol i’r ffordd yr ydym yn cynllunio a darparu ein gwasanaethau.
Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i fynd i’r afael ag anfantais a thlodi fel yr amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn ystod 2021, cyhoeddodd fy swyddfa a Heddlu Gwent ein hail Gynllun Cydraddoldeb Strategol ar y Cyd, sy’n rhedeg tan 2024. Mae hwn yn dangos ymrwymiad clir i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Yn gysylltiedig â’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn, ein gweledigaeth ar gyfer plismona yng Ngwent yw:
• Darparu gwasanaeth heddlu sy’n adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu;
• Meithrin diwylliant sefydliadol sy’n dangos pwysigrwydd cydraddoldeb a chynwysoldeb;
• Darparu gwasanaeth o ansawdd uchel y gall cymunedau amrywiol Gwent ei ddefnyddio’n hyderus ac ymgysylltu ag ef.

CYNALIADWYEDD

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r sgwrs ynglŷn â’r amgylchedd a dulliau i leihau allyriadau carbon wedi dod yn fwy amlwg.
Trwy roi trefniadau priodol ar waith i ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol, rwyf wedi ymroi i sicrhau cynaliadwyedd o ran ein strwythurau, prosesau, adnoddau ac asedau. Bydd meithrin diwylliant o gynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth o’r angen i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu lle bynnag y bo’n bosibl yn helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, fel unigolion ac fel sefydliadau.
Adlewyrchir hyn yn fy mlaenoriaeth i ysgogi plismona cynaliadwy.

PARTNERIAETHAU

Mae adeiladu cydberthnasau cryf a chadarnhaol sy’n cefnogi gwaith partner effeithiol yn hanfodol i lwyddiant fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
Mae hanes hir o waith partner rhagorol yng Ngwent ar draws amrywiaeth eang o sefydliadau ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. Fel Comisiynydd, mae gen i ddyletswydd i wneud y canlynol wrth gyflawni fy swyddogaethau:
Ystyried blaenoriaethau perthnasol pob partner diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol cyfrifol;
Gweithio gyda’r rhain ar faterion trosedd ac anhrefn;
Trefnu (ble y bo’n briodol) i ddarparu system cyfiawnder troseddol effeithlon ac effeithiol ar gyfer Gwent.

SEIBERDROSEDD

Mae troseddau sy’n ymwneud â seiber yn fygythiad cynyddol sy’n ymwneud â phob rhan o’r cynllun hwn.

Wrth i ni ddibynnu fwyfwy ar dechnoleg a threulio mwy o amser ar-lein, mae troseddwyr yn parhau i ddatblygu dulliau a thechnegau mwy soffistigedig er mwyn manteisio ar gyfleoedd digidol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben fis Mawrth 2021, nododd Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr bod troseddau twyll a throseddau’n ymwneud â seiber yn cyfrif am dros 50% o’r holl droseddau yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, nid yw trosedd ar-lein yn gyfyngedig i dwyllo pobl neu fusnesau; mae troseddwyr yn defnyddio’r rhyngrwyd i ledaenu casineb, cynyddu troseddau difrifol, ac i gamfanteisio ar bobl eraill.

Mae angen buddsoddiad parhaol mewn galluoedd arbenigol a chefnogaeth i ddioddefwyr agored i niwed er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiadau hyn a’u hatal. Rwyf yn aelod o fwrdd Canolfan Seibergadernid Cymru ac rwyf wedi ymroi i weithio gyda’r Prif Gwnstabl trwy gydol oes y cynllun hwn i sicrhau bod gan Heddlu Gwent adnoddau priodol ac effeithiol i fynd i’r afael â phob ffurf ar seiberdrosedd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu cefnogi dioddefwyr yn unol â’u hanghenion.

GWELEDIGAETH BLISMONA I GYMRU

Mae plismona yng Nghymru’n gweithredu mewn sector cyhoeddus sydd wedi’i datganoli i raddau helaeth i Lywodraeth Cymru, er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am blismona o hyd, trwy’r Swyddfa Gartref.

Mae’r sefyllfa hon yn dod â heriau a chyfleoedd i blismona, partneriaid cyfiawnder troseddol sy’n gweithio yng Nghymru, a chyrff sector cyhoeddus datganoledig a chyrff eraill. Ein huchelgais yw manteisio ar y cyfleoedd a gwneud i’r trefniadau hyn weithio er budd ein cymunedau. Mae hynny’n gofyn ein bod yn chwarae rôl amlwg ar draws y sector cyhoeddus, fel bod pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru’n cydweithio i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Yn ystod 2021/22, rydym yn datblygu gweledigaeth ar gyfer plismona yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar weithio’n gydweithredol ac mewn partneriaeth gyda sefydliadau ac asiantaethau eraill.

Gyda’n gilydd ein nod yw darparu dull ‘ymyrraeth gynnar’ er mwyn canfod pobl agored i niwed, ymyrryd yn gynnar, atal niwed, cadw pobl rhag mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol, torri’r cylch cenedliadol o drosedd a niwed a, lle y bo’n bosibl, gwella bywydau pawb dan sylw. Rwyf yn rhan o’r grwp Plismona yng Nghymru, sy’n dod â’r pedwar comisiynydd heddlu a throsedd, eu timau, yr uned Cyswllt Plismona a’r pedwar prif gwnstabl at ei gilydd mewn cyfarfodydd rheolaidd i gynllunio ein dull plismona yng Nghymru yn strategol.


BLAENORIAETHAU HEDDLU A THROSEDD GWENT

  • Cadw Cymdogaethau’n Ddiogel

  • Brwydro yn erbyn Troseddau Difrifol

  • Rhoi Cymorth i Ddioddefwyr ac Amddiffyn Pobl Agored i Niwed

  • Cynyddu Hyder y Gymuned mewn Plismona

  • Ysgogi Plismona Cynaliadwy

CADW CYMDOGAETHAU’N DDIOGEL

Mynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar ddiogelwch a lles cymunedau yng Ngwent

Bob dydd mae timau cymdogaeth Heddlu Gwent yn gweithio yng nghanol cymunedau i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan fynd i’r afael â throseddu lle bynnag y mae’n digwydd. Mae troseddau meddiangar - fel lladrad, byrgleriaeth a dwyn – troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a difrod troseddol yn ddinistriol i ddiogelwch a lles cymunedau. Mae troseddau moduro, fel gyrru’n beryglus, hefyd yn cael effaith ar ddiogelwch cymunedol a gallant arwain at ganlyniadau dinistriol. I fynd i’r afael â’r troseddau hyn ac i atal niwed, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaethau diogelwch cymunedol i dargedu pobl sy’n troseddu’n gyson.

Yn ystod fy nhymor cyntaf, buddsoddodd Heddlu Gwent yn sylweddol mewn plismona cymdogaeth, gan gynyddu nifer y swyddogion mewn cymunedau a sefydlu arfer gorau o ran mesurau atal trosedd. Yn dilyn adolygiad a gynhaliais yn 2019, mae gan Heddlu Gwent arweinydd atal trosedd yn awr i sbarduno gwelliannau yn y maes hwn. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith da hwn ac yn manteisio ar bob cyfle i wneud ein cymdogaethau yng Ngwent yn fwy diogel.

Prif ymrwymiadau
• Lleihau troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
• Lleihau troseddau meddiangar
• Gwella diogelwch y ffyrdd trwy Went gyfan
• Comisiynu a buddsoddi mewn ymgyrchoedd atal trosedd effeithiol

Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Atal troseddwyr trwy ymgyrchoedd atal trosedd newydd ac arloesol, fel Dangos y Drws i Drosedd a Chanolfannau Datrys Problemau amlasiantaeth.

• Lleihau aildroseddu trwy raglenni rheoli a dargyfeirio troseddwyr sy’n mynd i’r afael ag ymddygiad troseddol ac yn rhoi sylw i anghenion troseddwyr, fel camddefnydd o gyffuriau ac alcohol neu ddiffyg tai.
• Gweithio gyda phartneriaid i adnabod a rhoi sylw i fannau sy’n peri problemau o ran trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn defnyddio camau gweithredu amlasiantaeth.
• Cefnogi cymunedau i fod yn gadarn yn erbyn trosedd, trwy ddarparu cyngor atal trosedd.
• Gwella diogelwch ein ffyrdd trwy gamau gorfodi wedi’u targedu a gosod faniau camerâu cyflymder GanBwyll yn strategol trwy Went gyfan.

BRWYDRO YN ERBYN TROSEDDAU DIFRIFOL

Atal a lleihau troseddau sy’n achosi niwed sylweddol i gymunedau a dioddefwyr.

Mae trosedd difrifol yn hynod o niweidiol i gymunedau ac mae’n aml yn effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Byddwn yn defnyddio’r holl offer sydd ar gael i ni i frwydro yn erbyn trosedd difrifol, yn amrywio o waith atal rhagweithiol i fynd i’r afael â throseddu a diogelu pobl sydd mewn perygl. Ar gyfer y flaenoriaeth hon, byddwn yn canolbwyntio ar droseddau sydd â phosibilrwydd o achosi niwed sylweddol, fel trosedd trefnedig a thrais difrifol, camfanteisio troseddol a rhywiol ar blant, trosedd casineb a therfysgaeth. Yn ogystal â’r troseddau hyn bydd dileu trais yn erbyn menywod a merched wrth wraidd ein gwaith. Bydd yn peri bod rhaid ymateb yn gadarn i dreisio a throseddau rhywiol eraill, cam-drin domestig a stelcio ac aflonyddu.

Oherwydd difrifoldeb ac, yn aml, natur gudd y troseddau hyn, mae’n hollbwysig ein bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i ganfod ac ymateb i ddioddefwyr a throseddwyr. Bydd fy swyddfa, Heddlu Gwent a phartneriaid yn mabwysiadu dull strategol er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau gweithredu penderfynol i ganfod achosion y troseddau hyn ac atal niwed pellach.

Prif ymrwymiadau
• Lleihau nifer y plant sy’n dioddef camfanteisio troseddol a rhywiol fwy nac unwaith.
• Mwy o waith i darfu ar drosedd trefnedig ac ail fuddsoddi asedau sy’n cael eu hatafaelu mewn cymunedau.
• Gwella ymateb cyffredinol y broses cyfiawnder troseddol i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
• Comisiynu a buddsoddi mewn gwasanaethau sy’n gweithio gyda phobl sy’n cyflawni troseddau difrifol i atal a lleihau aildroseddu.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud
• Gwaith atal rhagweithiol gyda phobl sydd mewn perygl o droseddu a’u dargyfeirio nhw oddi wrth ymwneud â throsedd.
• Gweithio’n agos gyda phartneriaid i dargedu a lleihau’r troseddau sy’n achosi’r mwyaf o niwed yn ein cymunedau.
• Mynd i’r afael ag aildroseddu trwy raglenni dargyfeirio a rheoli troseddwyr, sy’n rhoi sylw i ymddygiad troseddol, gan hybu cadernid a chyfrifoldeb personol ar yr un pryd.
• Canfod mwy o droseddau cudd neu droseddau nad ydynt yn cael eu riportio, gan gynnwys cam-drin domestig, treisio, camfanteisio troseddol a rhywiol ar blant a chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl.
• Sicrhau bod Heddlu Gwent ac eraill (e.e. yr Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol) yn ymlid pobl sy’n cyflawni troseddau trefnedig difrifol yn ddidrugaredd.

RHOI CYMORTH I DDIODDEFWYR AC AMDDIFFYN POBL AGORED I NIWED

Darparu cymorth o ansawdd uchel i ddioddefwyr trosedd ac amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed rhag niwed

Mae dioddef trosedd yn gallu cael effaith ddinistriol ar fywyd rhywun. Mae’n hollbwysig felly ein bod yn ymateb i ddioddefwyr yn y ffordd gywir bob tro. Mae darparu cymorth effeithiol i ddioddefwyr yn golygu defnyddio dull tosturiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ym mhopeth a wnawn ni. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ein gwasanaethau cymorth yn amserol ac yn gallu diwallu amrywiaeth o anghenion. Yn ogystal â chefnogi pobl sydd wedi profi trosedd, rhaid i ni fod yn barod i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed neu mewn perygl o niwed hefyd. Er enghraifft, dioddefwyr cam-drin domestig, camfanteisio troseddol a rhywiol, a chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael i ddioddefwyr yng Ngwent, gan gynnwys y ganolfan amlasiantaeth i ddioddefwyr, Connect Gwent, ac Uned Gofal Dioddefwyr Heddlu Gwent. Mae cymorth arbenigol gan gynghorwyr annibynnol ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig, treisio a throseddau rhywiol difrifol eraill hefyd. Mae’r gwasanaethau hyn yn hanfodol ac adlewyrchir hyn gan y buddsoddiad sylweddol mae fy swyddfa a Heddlu Gwent wedi ei wneud ynddynt. Byddwn yn cynnal yr ymrwymiad hwn ac yn ceisio cyfleoedd pellach i wella ac ehangu’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i ddioddefwyr.

Prif ymrwymiadau
• Gwella gwasanaethau i ddioddefwyr a sicrhau bod anghenion dioddefwyr yn cael eu cydnabod a’u bod yn derbyn ymateb priodol trwy Connect Gwent a’r Uned Gofal Dioddefwyr.
• Gwella ein gwaith gyda phartneriaid i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed.
• Sicrhau bod diweddariadau i ddioddefwyr am ymchwiliad yr heddlu’n fwy amserol.
• Comisiynu a buddsoddi mewn gwasanaethau arbenigol i gefnogi dioddefwyr trwy’r broses cyfiawnder troseddol gyfan.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud
• Gweithio gyda phartneriaid yng Ngwent ac yn genedlaethol i adnabod a mynd i’r afael â phob ffurf ar gamfanteisio a chamdriniaeth.
• Gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol yng Ngwent a ledled Cymru i ddiwallu anghenion dioddefwyr a thystion yn y system cyfiawnder troseddol.
• Cynnig gwasanaethau cynhwysol i ddioddefwyr sy’n cefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol a phobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys plant, henoed, pobl sy’n arddel hunaniaeth LHDTC+ a phobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.
• Cefnogi a chynghori dioddefwyr ar sut i fod yn fwy cadarn yn erbyn trosedd er mwyn eu rhwystro rhag dioddef eto a rhag niwed pellach.
• Canfod bylchau yn y gwasanaeth neu feysydd y mae angen eu gwella a gweithio gyda phartneriaid i gomisiynu a datblygu gwasanaethau y mae gofyn amdanynt.

CYNYDDU HYDER Y GYMUNED MEWN PLISMONA

Gweithio gyda Heddlu Gwent i wella ein cydberthnasau gyda’n cymunedau a gwella hyder y cyhoedd mewn plismona
Byddwn yn cryfhau ein cydberthnasau gyda’n cymunedau, yn gweithio gyda nhw i wella eu hymddiriedaeth a’u hyder yn y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Mae’r gwasanaeth heddlu yn plismona drwy gydsyniad. Er mwyn parhau i wneud hynny, rhaid i ni ddatblygu ein cydberthynas gyda’n trigolion a phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, gan ymddwyn yn gyfreithiol, yn foesegol ac yn dryloyw ym mhopeth a wnawn. Mae unrhyw gamddefnydd o safle o bwer ac ymddiriedaeth gan yr heddlu yn gallu ac yn cael effaith sylweddol ar ymddiriedaeth a hyder y gymuned mewn plismona ac ni ellir ei oddef. Mae ymgysylltu dwy ffordd gyda’n holl gymunedau, yn arbennig rhai nad ydynt yn cael eu clywed yn aml a rhai y mae’n anos ymgysylltu â nhw, yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw rannu eu profiadau a’u barn am blismona yng Ngwent. Er mwyn gwella hyder y cyhoedd, rhaid i ni sicrhau bod y ffordd yr ydym yn ymateb i alw a disgwyliadau’r cyhoedd yn ystyried anghenion ein cymunedau amrywiol wrth wella cynrychiolaeth ein gweithlu.

Prif ymrwymiadau
• Gwella effeithiolrwydd gwaith ymgysylltu swyddogion a staff gyda thrigolion yn eu cymunedau, a hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn Heddlu Gwent.
• Gwella hygyrchedd timau plismona cymdogaeth trwy amrywiaeth o sianelau cysylltu sy’n diwallu anghenion y cyhoedd.
• Annog mwy o bobl o gymunedau sy’n llai tebygol o ymgysylltu â’r heddlu i riportio troseddau.
• Cynyddu amrywiaeth swyddogion a staff i sicrhau bod ein gwasanaeth heddlu’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud
• Ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid yn rhagweithiol i gynnig cyfleoedd rheolaidd i roi adborth am eu profiadau o’n gwasanaethau plismona er mwyn cyfrannu at ein gwelliant parhaus.
• Rhoi adborth amserol i gymunedau, sefydliadau a phobl i ddangos sut mae eu barn wedi helpu i wella gwasanaethau a chanlyniadau.
• Gweithio’n agos gydag Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent i sicrhau bod unrhyw gwynion yn cael eu hymchwilio’n drwyadl, yn arbennig rhai’n ymwneud â chamddefnyddio safle o ymddiriedaeth.
• Sicrhau bod ein prosesau a’n penderfyniadau yn gyfreithiol, yn dryloyw ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
• Hybu cyfleoedd recriwtio yn rhagweithiol yn ein cymunedau a gwella cyfraddau cadw swyddogion a staff o grwpiau nad ydynt yn cael cynrychiolaeth ddigonol.
• Parhau i ddatblygu ein rhaglen dinasyddion yn y maes plismona i ddarparu cyfleoedd cynhwysol i gymunedau gymryd rhan mewn plismona.

YSGOGI PLISMONA CYNALIADWY

Darparu gwasanaeth heddlu sy’n cynnig gwerth am arian ac yn gweithredu’n gyfrifol, gyda seilwaith cynaliadwy sy’n cefnogi gofynion cyfredol a rhai’r dyfodol

Byddwn yn gweithio i ddarparu gwasanaeth heddlu modern sy’n gweithredu’n gynaliadwy ac yn effeithiol, gyda diwylliant aeddfed o ymwybyddiaeth amgylcheddol.

Mae natur plismona yn ddeinamig ac mae’n addasu’n barhaus er mwyn bodloni gofynion sy’n newid yn gyflym. Er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon i’n cymunedau a mynd i’r afael â’n heriau mwyaf yn llwyddiannus, mae angen strwythurau hyblyg a gwydn arnom ni. Mae angen cyfannu’r rhain gyda phrosesau a threfniadau ariannol cynaliadwy sy’n galluogi dyfeisgarwch effeithiol a chyson wrth ddefnyddio swyddogion a staff.

Mae defnydd traddodiadol o adeiladau, technoleg a defnyddiau traul, a’r gofynion parhaus am gerbydau heddlu yn creu ôl troed ecolegol sylweddol. Trwy brosesau caffael a gwaredu cyfrifol, yn ogystal â’r defnydd o gerbydau ac ynni mwy gwyrdd, gallwn gynyddu ein cyfraniad at greu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Trwy ddatblygu model plismona cynaliadwy ar gyfer Gwent, byddwn yn talu sylw dyledus i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a strategaeth ‘Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru. Trwy wneud hyn byddwn yn sicrhau bod y sefydliadau rydym yn eu hadeiladu heddiw yn parhau yn bell i’r dyfodol.

Prif ymrwymiadau
• Sicrhau bod gan Heddlu Gwent y nifer cywir o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn y llefydd cywir.
• Cynyddu buddsoddiad mewn technoleg plismona’r 21ain ganrif a’i mabwysiadu er mwyn cwrdd â heriau yfory heddiw.
• Gwella cymorth iechyd a lles ar gyfer swyddogion a staff i sicrhau bod ein gweithlu’n ffit ac yn barod i gwrdd â heriau plismona.
• Lleihau effaith amgylcheddol plismona yn unol â thargedau carbon niwtral Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yr hyn y byddwn yn ei wneud
• Buddsoddi mewn adeiladau, technoleg a chyfarpar sy’n helpu i leihau a gwrthbwyso ein heffaith ar yr amgylchedd.
• Buddsoddi mewn rhaglenni dysgu a datblygu sy’n darparu dilyniant o ran gwybodaeth a sgiliau i sicrhau gweithlu effeithiol a gwybodus sydd wedi ymgysylltu.
• Sicrhau bod prosesau cynllunio, recriwtio a datblygu yn cynnig gweithlu cynaliadwy sy’n bodloni gofynion plismona modern.
• Darparu gwasanaeth plismona sy’n ariannol hyfyw, sy’n darparu gwerth am arian ac adnoddau effeithiol i fodloni gofynion.
• Lleihau ein gwastraff traul yn weithredol a gwaredu neu ailgylchu technoleg a chyfarpar yn gyfrifol i helpu i leihau ein hôl troed ecolegol.


GWAITH PARTNER

Mae meithrin a chynnal partneriaethau gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yn hanfodol er mwyn cyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

Yn ystod fy nhymor blaenorol fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, roeddwn yn ymwneud yn rhagweithiol gydag amryw o bartneriaethau yng Ngwent ac ar lefel genedlaethol. Rwyf yn dal wedi ymroi i’r partneriaethau hyn ac i ddatblygu’r llwyddiannau rydym wedi eu cyflawni hyd yn hyn. Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cydweithio’n agos gyda’n partneriaid i lywio trwy’r anawsterau mae COVID-19 wedi eu creu i’r maes plismona ac i asiantaethau eraill yn y sector cyhoeddus.

GWNEUD CYMRU A’R DU YN FWY DIOGEL

Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid yng Ngwent, mae Heddlu Gwent a minnau’n ymwneud â nifer o bartneriaethau dros Gymru gyfan hefyd.

Mae cydweithrediad ar lefel Cymru gyfan yn sicrhau bod plismona yn y sefyllfa orau i gynnal diogelwch y cyhoedd a defnyddio adnoddau’n effeithiol i greu gwasanaeth gwydn a chynaliadwy. Dyma rai enghreifftiau cyfredol o’r gwaith partner mae fy swyddfa a Heddlu Gwent wedi bod yn rhan ohono ar draws Cymru gyfan:

• Mae Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, comisiynwyr heddlu a throsedd a phrif gwnstabliaid. Mae’r bwrdd yn rhoi cyfle gwerthfawr i gytuno ar ddull cyson o ymdrin â’r heriau rydym yn eu hwynebu yng Nghymru. Rwyf hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, sefydliadau trydydd sector cenedlaethol a Llywodraeth y DU.
• Mae Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU) yn darparu un gangen arbennig ar gyfer Cymru gyfan i ymateb i fygythiad terfysgaeth ryngwladol ac eithafiaeth ddomestig. Mae WECTU yn helpu i wneud Cymru’n fwy diogel trwy feithrin hyder ac ymddiriedaeth mewn cymunedau. Mae’n gwneud hyn trwy weithio gyda’r cyhoedd a phartneriaid i ganfod, targedu a tharfu ar derfysgwyr ac eithafwyr.
• Mae Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r pedwar heddlu yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar atal troseddau ac mae’n cydnabod y rôl y gall addysg ei chwarae i helpu plant i gyflawni gwell canlyniadau yn eu bywydau. Trwy’r rhaglen, mae swyddogion mewn lifrau’n cyflwyno gwersi ar bynciau fel camddefnyddio sylweddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch ar-lein, yn ogystal â chefnogi ymgyrchoedd plismona ysgolion.

GWNEUD GWENT YN FWY DIOGEL

Bob dydd mae Heddlu Gwent yn wynebu heriau sylweddol ac amrywiol wrth fynd i’r afael â throsedd a chefnogi dioddefwyr.

Mae llawer o’r heriau hyn yn rhy fawr i gael eu datrys gan blismona yn unig. Dyna pam mae fy swyddfa a Heddlu Gwent yn gweithio’n agos gyda phartneriaid. Mae enghreifftiau cyfredol o waith partner mae fy swyddfa a Heddlu Gwent wedi cyfrannu ato yng Ngwent yn cynnwys y canlynol:
• Cyflwynodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) fyrddau gwasanaeth cyhoeddus i wella gwaith partner rhwng gwasanaethau cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Bu staff fy swyddfa a minnau’n bresennol yng nghyfarfodydd y byrddau gwasanaeth cyhoeddus yn y pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent a byddwn yn mynychu bwrdd gwasanaeth cyhoeddus Gwent yn awr.Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid i hybu diogelwch cymunedol ac i helpu i gyflawni blaenoriaethau fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
• Yn anffodus mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn droseddau cyffredin sy’n parhau i ddigwydd yn ein cymdeithas. Rwyf i a Heddlu Gwent wedi ymroi i ddileu’r troseddau hyn a gweithio gyda phartneriaid i gyflawni hyn. Mae Bwrdd VAWDASV Gwent yn fforwm hollbwysig sy’n galluogi gwaith partner i atal cam-drin ac i gefnogi dioddefwyr
• Mae Bwrdd Cymunedau Gwent Mwy Diogel yn bartneriaeth diogelwch cymunedol a sefydlwyd gan fy swyddfa yn 2015. Y nod oedd defnyddio dull cydgysylltiedig i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, lleihau aildroseddu, a chefnogi dioddefwyr. Mae Gwent Fwy Diogel yn comisiynu gwasanaethau diogelwch cymunedol hefyd sy’n cefnogi gwaith y bartneriaeth. Rwyf wedi dyrannu cyllid i nifer o brosiectau trwy gyfrwng Gwent Fwy Diogel a byddaf yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid i helpu i gyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

CYFRIFOLDEBAU PLISMONA CENEDLAETHOL

Fel y soniais yn fy nghyflwyniad i’r cynllun hwn, fy nghyfrifoldeb i yw pennu’r blaenoriaethau plismona lleol ar gyfer Gwent.

Rwyf wedi dewis fy mlaenoriaethau’n seiliedig ar dystiolaeth ac i adlewyrchu’r materion sydd o’r pwys mwyaf i bobl Gwent. Yn ogystal â’r blaenoriaethau lleol, mae nifer o gyfrifoldebau plismona cenedlaethol y mae’n rhaid i Heddlu Gwent gyflawni yn eu herbyn.

Mae’r cyfrifoldebau hyn yn sicrhau bod plismona’n gallu ymateb pan fydd bygythiadau cenedlaethol i ddiogelwch y cyhoedd. Byddaf yn parhau i weithio’n agos gyda’r Prif Gwnstabl i gefnogi Heddlu Gwent i gyflawni ei gyfrifoldebau cenedlaethol.

Y GOFYNIAD PLISMONA STRATEGOL

Yr Ysgrifennydd Cartref sy’n pennu’r Gofyniad Plismona Strategol, ac mae’n amlinellu’r bygythiadau cenedlaethol mae’n rhaid i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr fod yn barod i ymateb iddynt.

Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, rhaid i mi dalu sylw i’r Gofyniad Plismona Strategol wrth lunio fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Y bygythiadau cenedlaethol yw:

• Trosedd difrifol a threfnedig
• Terfysgaeth
• Digwyddiadau seiberddiogelwch cenedlaethol
• Cam-drin plant yn rhywiol
• Argyfyngau sifil a bygythiadau i’r drefn gyhoeddus neu i ddiogelwch y cyhoed

Bydd y Prif Gwnstabl a minnau’n parhau i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a phrif gwnstabliaid eraill, heddluoedd eraill a phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod Heddlu Gwent mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â’r bygythiadau hyn.

GWELEDIGAETH BLISMONA 2025

Rwyf wedi ymroi i weithio gyda’r Prif Gwnstabl i roi ‘Gweledigaeth Blismona 2025’ Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd (APCC) a Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) ar waith.

Rwyf yn falch ein bod wedi gwneud cynnydd da yn ystod fy nhymor cyntaf a byddaf yn parhau i weithio i roi’r Weledigaeth ar waith trwy:

• Alinio plismona lleol, a lle y bo’n briodol, integreiddio â gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill er mwyn gwella canlyniadau i ddinasyddion ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed;
• Gwella ein defnydd o gudd-wybodaeth a thystiolaeth ddigidol a sicrhau y gallwn drosglwyddo pob math o ddeunydd mewn fformat digidol i’r system cyfiawnder troseddol;
• Gwella ein hymateb i fygythiadau newydd a chymhleth, gan gryfhau a datblygu’r ffordd rydym yn darparu galluoedd arbenigol;
• Sicrhau bod plismona yn broffesiwn gyda gweithlu mwy cynrychioliadol a fydd â’r sgiliau, y pwerau a’r profiad cywir i ymateb i ofynion heriol;
• Gwella ein gallu o ran plismona digidol i’w gwneud yn haws i’r cyhoedd gysylltu drwy ddulliau digidol a’i gwneud yn fwy cyson;
• Cyflawni swyddogaethau cymorth busnes yr heddlu mewn modd mwy cyson er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a gwella’r gallu i ryngweithredu trwy’r gwasanaeth heddlu cyfan;
• Rhoi trefniadau atebolrwydd clir ar waith i gefnogi plismona ar lefel leol a chenedlaethol.

CYNLLUN GORCHFYGU TROSEDD

Ym mis Gorffennaf 2021, lansiodd Llywodraeth y DU y ‘Cynllun Gorchfygu Trosedd’.
Mae’r cynllun yn amlinellu agwedd strategol y llywodraeth tuag at fynd i’r afael â throsedd, gyda phwyslais arbennig ar dorri dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth; datgelu a rhoi terfyn ar niweidiau cudd; a meithrin gallu i ymdrin â thwyll a throseddau ar-lein. Byddaf yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac asiantaethau partner perthnasol i gefnogi Heddlu Gwent i gyflawni yn erbyn y cynllun trwy gydol fy nhymor.

MESURAU TROSEDD A PHLISMONA CENEDLAETHOL

Mae’r Mesurau Trosedd a Phlismona Cenedlaethol yn amlinellu prif flaenoriaethau Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â throsedd.
Y rhain yw:
• Lleihau llofruddiaeth a dynladdiad
• Lleihau trais difrifol
• Tarfu ar gyflenwi cyffuriau a llinellau cyffuriau
• Lleihau trosedd yn y gymdogaeth
• Mynd i’r afael â seiberdrosedd
• Gwella boddhad ymysg dioddefwyr

Cyflwynwyd y mesurau yn 2021 er mwyn hyrwyddo atebolrwydd cenedlaethol a chyfrifoldeb ar y cyd dros berfformiad yr heddlu.

Bydd y mesurau hyn yn rhedeg ochr yn ochr â fy ngwaith yn monitro perfformiad Heddlu Gwent a chyflawni yn erbyn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd. Gyda’i gilydd, bydd y mesurau a fy ngwaith craffu lleol ar Heddlu Gwent yn sicrhau bod pobl Gwent yn derbyn gwasanaeth plismona o ansawdd da.



COST PLISMONA YNG NGWENT

Mae prosesau cadarn wedi cael eu datblygu dros flynyddoedd lawer i nodi’r arian sydd ei angen i ddarparu heddlu effeithiol, effeithlon a chynaliadwy i bobl Gwent.

Mae’r broses gyllidebol yn dechrau’n gynnar yn y flwyddyn ariannol, gan roi Rhagamcanion Ariannol Tymor Canolig manwl sy’n nodi pwysau newydd a chyfleoedd i arbed arian.

Ers dechrau rhaglen cyni cyllidol presennol Llywodraeth y DU, mae Heddlu Gwent wedi sicrhau arbedion effeithlonrwydd arian parod gwerth £52.1m hyd at fis Mawrth 2021.

Cyflawnwyd yr arbedion hyn drwy gyfateb adnoddau yn well i’r galw a thrwy drawsnewid y model cyflawni plismona cyfan er mwyn diogelu plismona rheng flaen.

Mae’r her ariannol hyd at 2026/27 wedi’i gwneud yn fwy anodd gan adolygiad y Swyddfa Gartref o fformiwla ariannu’r heddlu.

Unwaith bod cyfanswm y gyllideb blismona wedi’i bennu gan y Swyddfa Gartref (drwy’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant), yna pennir y swm a roddir i briod Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd yn unol â fformiwla ariannu’r heddlu.
Nid yw’r fformiwla bresennol yn addas i’r pwrpas ac mae angen ei hadolygu. Dechreuodd y broses hon yn 2015, ond nid yw wedi ei chwblhau oherwydd goblygiadau sylweddol trafodaethau Brexit, newidiadau mewn llywodraeth ac effaith COVID-19.

Ar adeg ysgrifennu’r Cynllun hwn, cyhoeddwyd yn ddiweddar y dylid cymeradwyo’r adolygiad erbyn Rhagfyr 2024, a dylid ei roi ar waith o flwyddyn ariannol 2025/26 ymlaen.

Er nad yw canlyniad yr adolygiad yn hysbys ar hyn o bryd, roedd y fformiwla ariannu ddiwygiedig a awgrymwyd yn 2015 yn nodi toriad o £6m yng Ngrant y Llywodraeth Ganolog i Went.
Gan hynny, gellid disgwyl o flwyddyn ariannol 2023/24, y gallwn fod yn wynebu toriad arian parod o £6m yn ychwanegol at y toriadau sylfaenol a ragwelir o ganlyniad i effaith agwedd y Llywodraeth tuag at ariannu’r heddlu yn y dyfodol.

Mae hefyd yn debygol y caiff trefniadau trosiannol eu cymhwyso at y toriad dros nifer o flynyddoedd ariannol.


COMISIYNU

Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, mae gen i bwerau i gomisiynu gwasanaethau a dyfarnu grantiau i sefydliadau i helpu i gyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.
Mae comisiynu’n rhan hollbwysig o fy ngwaith ac mae’n fy ngalluogi i gymryd camau penderfynol i roi sylw i feysydd o angen ac i wella diogelwch y cyhoedd. Yn ystod fy nhymor cyntaf, gweithiais gyda phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol yng Ngwent a thu hwnt i ddatblygu dull cyffredin o ymdrin â throsedd a diogelwch cymunedol. Trwy’r gwaith hwn roeddwn yn gallu rhannu adnoddau gyda phartneriaid a gwneud penderfyniadau ar gomisiynu i gau bylchau a ganfuwyd yn y gwasanaeth. Byddaf yn parhau i adeiladu ar y weledigaeth a rennir a’r partneriaethau agos rwyf wedi eu datblygu i gefnogi fy strategaeth gomisiynu ar gyfer y Cynllun Heddlu a Throsedd hwn.

GWASANAETH CYFFURIAU AC ALCOHOL GWENT

Ers i mi ddechrau yn fy swydd yn 2016, rwyf wedi buddsoddi dros £800,000 bob blwyddyn yng Ngwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS). Defnyddir y rhan fwyaf o’r arian hwn i gefnogi Cyfiawnder Troseddol GDAS, sy’n rhoi cymorth gwerthfawr i ddefnyddwyr cyffuriau ac alcohol sydd yn y system cyfiawnder troseddol neu ar fin mynd i mewn i’r system. Mae Cyfiawnder Troseddol GDAS yn gweithio gyda Heddlu Gwent i ddarparu ymateb amlasiantaeth i broblemau megis llinellau cyffuriau, digartrefedd a thrais domestig.

DYFODOL CADARNHAOL

Rhaglen cynhwysiant cymdeithasol yw Dyfodol Cadarnhaol, sy’n defnyddio chwaraeon yn bennaf i ysbrydoli plant a phobl ifanc i arwain bywydau hapus ac iach. Mae’r rhaglen yn cael ei darparu ar draws y pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent ac mae’n defnyddio chwaraeon i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall y rhain amrywio o sesiynau galw heibio nodweddiadol mewn ardaloedd lle mae’n hysbys bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem, i waith un i un pwrpasol gyda phobl ifanc sydd wedi cael eu canfod i fod yn arbennig o agored i niwed.

LLWYBR BRAENARU I FENYWOD

Mae Dull System Gyfan y Cynllun Braenaru i Fenywod a’r Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar 18-25 yn rhoi cefnogaeth i fenywod a phobl ifanc gyda phroblemau fel camddefnydd alcohol a sylweddau, problemau iechyd meddwl a gwella perthnasoedd o fewn teuluoedd. Mae’r gwasanaethau’n gweithio i atal pobl rhag mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol trwy greu rhwydwaith cefnogi a’u helpu nhw i fyw bywydau iachach, mwy diogel. Caiff y ddau wasanaeth eu comisiynu ar y cyd gan fy swyddfa, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru, ac maent yn dangos y canlyniadau cadarnhaol y gellir eu cyflawni pan fydd sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni newid.

CONNECT GWENT

Connect Gwent yw’r unig ganolfan cefnogi dioddefwyr o’i math yng Nghymru. Fel canolfan amlasiantaeth, mae Connect Gwent yn dod ag ystod eang o sefydliadau arbenigol at ei gilydd dan un to i ddarparu cyngor, eiriolaeth, cefnogaeth ac arweiniad i ddioddefwyr.

Mae gan y ganolfan staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar draws y pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent, o Age Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Umbrella Cymru, Cymorth i Ddioddefwyr a New Pathways.

FEARLESS

Mae Fearless yn rhan o’r elusen Crimestoppers. Ei nod yw mynd i’r afael â throsedd difrifol a threfnedig ledled Gwent. Ers Ionawr 2019, mae tîm Fearless wedi darparu sesiynau ar droseddau cyllyll, camfanteisio ar blant a smyglo cyffuriau i bron i 14,000 o bobl ifanc. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i roi’r wybodaeth a’r hyder i bobl ifanc adnabod y problemau hyn o fewn eu grwpiau ffrindiau a’u cymunedau, ac i riportio problemau o’r fath. Mae gweithwyr Fearless hefyd wedi darparu hyfforddiant adnabod arwyddion trosedd trefnedig i dros 230 o weithwyr proffesiynol, rhieni a gofalwyr.

CRONFA GYMUNEDOL YR HEDDLU

Sefydlais Gronfa Gymunedol yr Heddlu i alluogi plant a phobl ifanc yng Ngwent i fod yn fwy diogel, yn iachach ac yn hapusach.

Mae’r gronfa’n canolbwyntio ar ymyrraeth ac atal cynnar. Mae hefyd yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, i allu byw eu bywydau gan wireddu eu potensial yn llawn, a chreu cymunedau cadarn, sy’n fwy diogel a mwy cynhwysol. Mae Timau Plismona Cymdogaeth yn chwarae rhan hollbwysig yn y gronfa. Mae arolygwyr lleol, a staff eraill Heddlu Gwent, yn hwyluso’r gwaith o gynhyrchu syniadau am brosiectau dielw sydd wedi dod oddi wrth y cymunedau eu hunain ac sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol, sydd eisoes yn y system neu sydd wedi dioddef trosedd. Rwyf yn falch iawn o Gronfa Gymunedol yr Heddlu a’r prosiectau a gwasanaethau sydd wedi cael eu comisiynu trwyddi. Bydd y gronfa’n parhau i fod yn rhan greiddiol o fy strategaeth gomisiynu yn ystod fy ail dymor. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda sefydliadau lleol yng Ngwent i gyflawni gwell canlyniadau bywyd i blant a phobl ifanc a’u cymunedau. Dyma rai enghreifftiau o’r gwasanaethau a phrosiectau a dderbyniodd arian yn ystod fy nhymor cyntaf:

CANOLFAN POBL IFANC CWMBRÂN

Oherwydd diffyg cyllid, roedd Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân wedi cau ei wasanaeth gyda’r nos ar gyfer ieuenctid. Arweiniodd hyn at lawer o bobl ifanc yn ymgasglu yng nghanol y dref a phroblem hysbys gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cytunais i ariannu’r prosiect am dair blynedd, gan alluogi’r tîm i gadw’r ganolfan ar agor gyda’r nos a darparu amrywiaeth o weithgareddau i gadw pobl ifanc yn brysur. Mae dros 100 o bobl ifanc yn ymweld â’r ganolfan bod dydd yn awr. Maent yn cymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau a gwneud ffrindiau newydd mewn amgylchedd diogel ac iach.

URBAN CIRCLE

Rwyf wedi cyfrannu’n ariannol at brosiect U-turn Urban Circle ers 2018. Mae’r prosiect yn defnyddio celf greadigol i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol sy’n effeithio ar bobl ifanc yng Nghasnewydd. Mae’r bobl ifanc sy’n ymwneud â phrosiect U-turn yn cael profiad uniongyrchol yn cynllunio digwyddiadau mawr ac yn ennill cymwysterau mewn meysydd fel gwaith ieuenctid, chwaraeon, stiwardio a chymorth cyntaf. Mae hyn yn eu helpu nhw i gael gwaith cyflogedig ac yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddynt er mwyn cael swyddi yn y dyfodol.
Mae Urban Circle wedi cefnogi cannoedd o bobl ifanc, y byddai llawer ohonynt mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.


CYFIAWNDER TROSEDDOL

Mae gan bartneriaid cyfiawnder troseddol gydberthynas hir a sefydlog â’r heddlu. Fel Comisiynydd, mae gen i rôl hollbwysig yn cefnogi partneriaid cyfiawnder troseddol i gydweithredu, gan wneud y ffordd mae’r partneriaid hyn yn blaenoriaethu a chydweithio ar draws y system cyfiawnder troseddol yng Ngwent yn fwy eglur ac atebol.

BWRDD STRATEGAETH CYFIAWNDER TROSEDDOL GWENT

Mae Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent yn eistedd wrth galon y system cyfiawnder troseddol lleol.

• Mae’n dwyn asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol a phartneriaid allweddol ynghyd i gydweithio i ddarparu system cyfiawnder troseddol deg, effeithlon ac effeithiol. Fel cadeirydd y bwrdd, rwyf yn gallu rhoi cymorth i bartneriaid a chadw golwg ar yr holl faterion cyfiawnder troseddol lleol.
• Mae’r bwrdd yn canolbwyntio ar bedwar prif faes, sy’n codi o’r rhai a gytunwyd ar gyfer Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru:
• Deall a rhoi sylw i fregusrwydd a/neu anghenion cymhleth lluosog pobl sy’n troseddu
• Deall a rhoi sylw i anghenion a bregusrwydd dioddefwyr a thystion ar bob cam o’u profiad yn y system cyfiawnder troseddol
• Defnyddio tystiolaeth i ddeall achosion a sbardunau ymddygiad troseddol a datblygu dulliau atal ac ymyrraeth gynnar cyfredol a dylanwadu ar bolisi sy’n lleihau trosedd ac yn creu newid cadarnhaol
• Defnyddio dull ‘un gwasanaeth cyhoeddus’ yng Ngwent i ddatblygu cydraddoldeb hiliol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb lle bynnag y mae’n digwydd
• Cefnogir blaenoriaethau’r bwrdd gan gynllun gweithredu, sy’n cael ei gynnal gan fy swyddfa, ac mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru’n cael ei hysbysu am gynnydd a phroblemau.

CYFIAWNDER TROSEDDOL YNG NGHYMRU

Casgliad o arweinyddion gweithredol yw Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru (Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan gynt) o sefydliadau cyfiawnder troseddol (gan gynnwys comisiynwyr yr heddlu a throsedd), Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol.

Nod Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yw sicrhau bod system cyfiawnder troseddol cyson, effeithiol, effeithlon a hygyrch yng Nghymru, trwy:
• Ddarparu gweledigaeth, arweinyddiaeth a chyfarwyddyd ysbrydoledig;
• Cynnig cyfrwng i bartneriaid datganoledig a heb eu datganoli wneud penderfyniadau ar y cyd am faterion systemig a pholisi cyfiawnder troseddol;
• Darparu man strategol i drafod a dylanwadu ar weithgarwch a pholisi cyfiawnder troseddol a chwalu rhwystrau;
• Defnyddio ‘dull system gyfan’ i bennu safonau, craffu a herio perfformiad cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

Mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn eistedd uwchben y pedwar Bwrdd Cyfiawnder Troseddol lleol, y Grwp Llywio Cyfiawnder Troseddol a Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru. Mae pob blaenoriaeth a ffrwd gwaith yn cynnwys y ffyrdd rydym yn trin plant a phobl ifanc. Mae mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn rhan annatod o bob blaenoriaeth. Mae blaenoriaethau lleol yn adlewyrchu’r rhai a gytunwyd gan Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, gan gefnogi agwedd gyson tuag at gyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae gan Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru’n bedwar is-grwp i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r prif ffrydiau gwaith ar gyfer dioddefwyr, troseddwyr, ymyrraeth ac atal cynnar, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol. Mae staff fy swyddfa’n cymryd rhan ym mhob un o’r grwpiau hyn, gan helpu i sicrhau fy mod yn cael fy nghynrychioli ar bob lefel o waith partner cyfiawnder troseddol yng Nghymru.

COD YMARFER AR GYFER DIODDEFWYR TROSEDD

Ym mis Ebrill 2021, daeth Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau i rym, gan amlinellu’r gwasanaethau y dylid eu darparu i ddioddefwyr trosedd gan y darparwyr gwasanaeth perthnasol.

Mae’r cod ymarfer newydd yn seiliedig ar 12 hawl wedi’u diffinio’n glir y maent yn haws i ddioddefwyr eu deall ac sy’n amlinellu’r safonau gofynnol y gallant eu disgwyl gan asiantaethau cyfiawnder troseddol. Mae wedi ei gynllunio hefyd i fod yn fwy hygyrch ac i godi ymwybyddiaeth o hawliau dioddefwyr gan roi mwy o gyfle i ddioddefwyr gynnig sylwadau am eu profiadau. Fel Comisiynydd, rwyf yn gyfrifol am hwyluso’r broses o fonitro cydymffurfiaeth â’r cod ymarfer a rhaid i mi weithio gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol a thrydydd sector i sicrhau bod sylw dyledus yn cael ei dalu i’r hawliau fel yr amlinellir yn y cod. Bydd cydymffurfio â’r hawliau’n dangos bod dioddefwyr yn cael cefnogaeth ar bob cam o’r broses.

Mae fy swyddfa wedi gweithio gyda phartneriaid o swyddfeydd comisiynwyr yr heddlu a throsedd Cymru i gytuno ar ddull cyson ar gyfer adolygu a monitro perfformiad a chydymffurfiaeth o dan y cod ymarfer.

Bydd fy nhîm yn cydgysylltu gweithgarwch cydymffurfio gyda’n partneriaid yng Ngwent, ac yn hysbysu Bwrdd Strategaeth Cyfiawnder Troseddol Gwent, Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, fel y bo’n briodol.



MONITRO PERFFORMIAD

Fel Comisiynydd, rwyf yn gyfrifol am gynrychioli pobl Gwent a sicrhau bod yr heddlu’n darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol.
Rwyf yn gwneud hyn trwy:
• Bennu cyfeiriad strategol gwaith plismona
• Dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am blismona lleol;
• Gweithio gyda phartneriaid i atal a mynd i’r afael â throsedd ac ail droseddu;
• Ymgysylltu â’r cyhoedd a chymunedau;
• Bod yn llais i’r cyhoedd, pobl agored i niwed a dioddefwyr;
• Cyfrannu adnoddau plismona i ymateb i fygythiadau rhanbarthol a chenedlaethol;
• Pennu Cyllideb Heddlu Gwent a sicrhau gwerth am arian.
• Wrth gyflawni fy nyletswyddau, rwyf yn monitro a chraffu ar berfformiad Heddlu Gwent.
• Y Prif Gwnstabl, swyddogion a staff sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth plismona a chynnal trefn gyhoeddus.

Maent yn atebol o dan y gyfraith am arfer pwerau’r heddlu.

Maent yn gyfrifol am fodloni gofynion gweithredol y Cynllun hwn fel y darperir drwy’r blaenoriaethau hefyd.

Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â’r Prif Gwnstabl, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, er mwyn bodloni fy hun, ar eich rhan, bod Heddlu Gwent yn cyflawni ei rwymedigaethau.

At hynny, rwy’n cynnal nifer o gyfarfodydd er mwyn helpu i gyflawni blaenoriaethau’r Cynllun Heddlu a Throsedd.

Er mwyn cynorthwyo gyda hyn, mae fy Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol yn amlinellu sut y byddaf yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif ar eich rhan.

Mae’n sicrhau bod perthynas agored, gefnogol ond heriol yn gadarnhaol rhyngom.

ATEBOLRWYDD

Rwyf yn atebol i bobl Gwent.
I’r perwyl hwnnw, mae gennyf raglen ymgysylltu ac adrodd gynhwysfawr ac rwyf hefyd yn defnyddio nifer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, sy’n rhoi cyfleoedd i mi eich hysbysu am yr hyn rwyf yn ei wneud ar eich rhan a’r hyn a gyflawnwyd. Byddaf hefyd yn parhau i gynnal digwyddiadau ymgysylltu, ar-lein ac yn y cnawd, ac ymweld â chymunedau lleol fel y gallwch siarad yn uniongyrchol gyda mi a’r tîm am unrhyw broblemau a phryderon.

CYNLLUN CYFLAWNI HEDDLU GWENT

Bob blwyddyn, mae’r Prif Gwnstabl yn darparu cynllun cyflawni gyda manylion y gweithgareddau plismona arfaethedig sydd eu hangen er mwyn cyflawni’r canlyniadau yn fy mlaenoriaethau.

Mae’r cynllun cyflawni yn cael ei lywio gan ddatganiad rheoli’r llu Heddlu Gwent. Dyma’r sail ar gyfer darparu gwasanaeth plismona cynaliadwy ac effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae’r cynllun cyflawni yn rhoi sicrwydd i mi hefyd y bydd yr heddlu’n canolbwyntio’n barhaus ar fy mlaenoriaethau gan sicrhau ei fod yn hyblyg ac y gellir ei addasu’n gyflym ar gyfer unrhyw newid i’r blaenoriaethau hynny o ganlyniad i ddylanwadau lleol neu genedlaethol.

PANEL YR HEDDLU A THROSEDD

Er mai i bobl Gwent rwyf yn gyfrifol yn y pen draw, caiff fy ngweithgareddau, fy nghynlluniau a’m prosesau eu goruchwylio a’u monitro gan Banel yr Heddlu a Throsedd ar eich rhan.

Mae Panel Heddlu a Throsedd Gwent yn cynnig cymorth a her i mi wrth i mi gyflawni swyddogaethau fy rôl. Nid yw’n craffu ar berfformiad y Prif Gwnstabl. Mae’r panel yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a phenderfyniadau strategol pwysig gen i, gan gynnwys a wyf:
• Wedi cyflawni’r nodau a amlinellir yn y Cynllun hwn;
• Wedi gosod lefel praesept briodol;
• Wedi ystyried blaenoriaethau partneriaid diogelwch cymunedol;
• Wedi ymgynghori’n briodol â’r cyhoedd a dioddefwyr troseddau.

Rhan hollbwysig o fy atebolrwydd i’r panel yw’r fframwaith perfformiad sefydliadol, sy’n canolbwyntio ar gynnydd yn erbyn y blaenoriaethau yn y cynllun. Datblygwyd y fframwaith hwn gan fy swyddfa, mewn ymgynghoriad â Heddlu Gwent ac aelodau’r panel.

BWRDD STRATEGAETH A PHERFFORMIAD

Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad yw’r prif fforwm lle rwyf yn dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am ddarparu plismona yng Ngwent.

Y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad yw’r prif fforwm hefyd ar gyfer ymgynghori ynghylch penderfyniadau strategol sy’n effeithio ar y ddau ohonom ni. Mae’r Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad yn gyfrifol am amrywiaeth o faterion, gan gynnwys:
• Ystyried sut mae’r gwasanaeth plismona yn cael ei ddarparu yng Ngwent, gan gynnwys staffio, adnoddau ac unrhyw bryderon cymunedol;
• Monitro a rheoli’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Heddlu a Throsedd;
• Adolygu’r gwaith o gyflawni plismona gweithredol trwy wybodaeth am berfformiad;
• Adolygu a monitro sut caiff cyllideb yr heddlu ei rheoli.


CYDBWYLLGOR ARCHWILIO

Ceir rhagor o oruchwyliaeth a chefnogaeth gan y Cydbwyllgor Archwilio.

• Mae’r Cydbwyllgor yn cwrdd bod tri mis a’i ddiben yw:
• Rhoi sicrwydd i’r Prif Gwnstabl a mi o ran digonolrwydd y fframwaith rheoli risg a’r amgylchedd rheolaeth cysylltiedig;
• Craffu ar berfformiad ariannol Heddlu Gwent a Swyddfa’r Comisiynydd; a
• Goruchwylio’r broses adrodd ariannol a addaswyd o ganllawiau ymarferol Pwyllgor Archwilio Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae’r pwyllgor yn cynnig sylwadau, cyngor a sicrwydd ar faterion sy’n ymwneud â’r prif feysydd hyn, sy’n cael sylw wedyn gan Swyddfa’r Comisiynydd a Heddlu Gwent fel y bo’n briodol.

CYNLLUN BUSNES SWYDDFA’R COMISIYNYDD

Mae cynllun busnes fy swyddfa yn nodi sut bydd yn cyflawni fy Nghynllun Heddlu a Throsedd.

Fe’i bwriedir yn bennaf fel dogfen fewnol ac mae’n offeryn gweithredol ar gyfer galluogi gwaith cynllunio a chyflawni. Caiff cynnydd ei fonitro trwy fwrdd rheoli misol. Mae fy adroddiad blynyddol yn cynnwys manylion perfformiad yn erbyn yr amcanion yn fy nghynllun busnes, yn ogystal â golwg ehangach ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Heddlu a Throsedd. Mae fy adroddiad blynyddol yn cynnwys manylion perfformiad yn erbyn yr amcanion yn fy nghynllun busnes, yn ogystal â golwg ehangach ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Heddlu a Throsedd.

ADRODDIAD BLYNYDDOL SWYDDFA’R COMISIYNYDD

Bob blwyddyn, mae’n ofynnol fy mod yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol.

Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth allweddol am berfformiad a darpariaeth ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal â’r prif gyflawniadau ar gyfer Heddlu Gwent a fy swyddfa.

Mae fy adroddiad blynyddol hefyd yn rhoi cyfle arall i’r Panel Heddlu a Throsedd a’r cyhoedd fy nwyn i gyfrif am sut rwyf yn cyflawni fy nyletswyddau. Mae fy adroddiad blynyddol yn dangos perfformiad mewn perthynas â’r amcanion yn y Cynllun Busnes, yn ogystal â golwg ehangach ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Heddlu a Throsedd.

GRŴP CYNGHORI ANNIBYNNOL

Grŵp o bobl yw’r Grŵp Cynghori Annibynnol sy’n annibynnol ar Heddlu Gwent ond sy’n gweithio
mewn partneriaeth i weithredu fel ‘ffrind beirniadol’ i roi cyngor ar faterion lleol a chenedlaethol.

Mae’r Grwp Cynghori Annibynnol yn gallu rhoi cyngor ar bolisi, gweithdrefnau ac arferion. Trwy wneud hyn, mae’n diogelu enw da’r gwasanaeth heddlu ac yn diogelu rhag effaith andwyol ar unrhyw ran o’r gymuned. Ei brif swyddogaethau yw craffu ar y modd y darperir gwasanaethau a gweithio ochr yn ochr â’r heddlu os bydd ‘digwyddiad critigol’.

Rwyf i a’m swyddfa yn ymgysylltu â’r Grwp Cynghori Annibynnol hefyd er mwyn cefnogi ein swyddogaethau ein hunain, gan gynnwys monitro a chraffu a rhoi adborth ffrind beirniadol ar brosesau a phenderfyniadau.

SWYDDFA ANNIBYNNOL YMDDYGIAD YR HEDDLU

Rwyf yn defnyddio unrhyw ganfyddiadau gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i wella darpariaeth gwasanaeth hefyd.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn goruchwylio’r system cwynion yn erbyn yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, yn ymchwilio i’r materion mwyaf difrifol sy’n ymwneud ag ymddygiad yr heddlu a chysylltiad â’r heddlu, ac yn pennu’r safonau y dylai’r heddlu eu defnyddio wrth ymdrin â chwynion.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn defnyddio ei hargymhellion i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol i blismona, sicrhau atebolrwydd a rhannu arfer gorau a safonau uchel er mwyn bodloni gofynion gwasanaeth cwsmeriaid.

AROLYGIAETH CWNSTABLIAETH A GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB EI MAWRHYDI

Mae Heddlu Gwent yn ddarostyngedig i drefn arolygu Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi hefyd.

Mae’r arolygiaeth yn asesu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd plismona’n annibynnol ar draws amrywiaeth o weithgareddau - o blismona cymdogaeth i droseddau difrifol gan gynnwys terfysgaeth - er budd y cyhoedd a gyda’r nod o annog gwelliant. Wrth baratoi ei hadroddiadau, mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth, Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi yn gofyn y math o gwestiynau y byddai’r cyhoedd yn eu gofyn. Mae’n rhoi gwybodaeth awdurdodol i alluogi’r cyhoedd i gymharu perfformiad eu gwasanaeth heddlu nhw gyda rhai eraill. Rwy’n defnyddio’r canfyddiadau i weithio gyda’r Prif Gwnstabl i ysgogi gwelliannau yn ein darpariaeth gwasanaeth lleol.



YMGYSYLLTU Â’R CYHOEDD

Datblygais fy nghynllun yn dilyn gwaith ymgysylltu helaeth gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol a gwrandawais ar amrywiaeth o safbwyntiau gan wahanol gymunedau ledled Gwent.

Trwy gasglu’r safbwyntiau hyn, cefais well dealltwriaeth o’r hyn sydd o bwys i bobl Gwent a’n partneriaid plismona. I gyflawni hyn, cynhaliais arolwg ar-lein rhwng 25 Gorffennaf a 11 Medi 2021 a chynhaliais 30 digwyddiad ymgysylltu ledled Gwent - cyfanswm o 196 awr o waith ymgysylltu.

Siaradodd fy nhîm a minnau gyda dros 3,000 o bobl, ac o ganlyniad cwblhawyd yr arolwg gan 375 o bobl. Gwnaethom rannu dros 200 cod QR hefyd er mwyn i bobl gwblhau’r arolwg pan oedd yn gyfleus iddyn nhw.

Hyd yn oed pan nad oedd pobl wedi cwblhau’r arolwg, roedd yn bosibl cipio ac adolygu sylwadau er mwyn i ni allu chwilio am themâu, problemau a materion roedd pobl yn teimlo’n angerddol yn eu cylch.

Roedd hyn yn ychwanegol at y 1,461 o bobl a gwblhaodd yr arolwg ar-lein, a oedd yn golygu bod 1,829 o bobl wedi rhannu eu barn trwy gwblhau’r arolwg ar flaenoriaethau plismona yng Ngwent mewn saith wythnos. Pan oedd straeon am yr arolwg yn cael eu postio ar-lein, roeddwn yn adolygu sylwadau gan bobl ac yn eu cynnwys yn fy syniadau.

Hoffwn ddiolch i bawb a rannodd eu barn gyda ni, naill ai’n bersonol neu ar-lein.
Ystyriais y cyfan wrth ysgrifennu fy nghynllun, ac mae hyn yn rhoi cryn hyder i mi y bydd fy nghynllun yn rhoi sylw i’r materion sydd o’r pwys mwyaf i bobl Gwent.


SYLWADAU I GLOI

Wrth gynhyrchu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, rwyf yn fodlon bod plismona yng Ngwent wedi parhau i symud i gyfeiriad cadarnhaol, er gwaethaf COVID-19.

Trwy ein trefniadau partneriaeth effeithiol, rydym wedi gweithio’n llwyddiannus i liniaru ystod o broblemau ar draws y system cyfiawnder troseddol sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol gyda’r pandemig.

Rydym wedi gweithio i sicrhau cysondeb o ran ein gwasanaethau a gomisiynir hefyd fel bod dioddefwyr a goroeswyr wedi gallu cael cefnogaeth yn ystod adegau o risg sylweddol.

Mae cyflwyno canolfannau datrys problemau Heddlu Gwent wedi rhoi mwy o gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid a’r cyhoedd, gyda’r nod o greu cymunedau mwy cadarn.

Mae Ymgyrch Uplift wedi parhau i wella ein gallu plismona, gan gynyddu nifer ein swyddogion rheng flaen a’n gallu i ymateb i ddigwyddiadau yn ein cymunedau. Mae’r rhain yn ychwanegol at y cyfanswm o bron i 200 o swyddi swyddogion heddlu a grëwyd ers i mi ddod yn Gomisiynydd gyntaf yn 2016.

Mae newidiadau i’n harferion gweithio wedi gwneud y gweithlu’n fwy hyblyg ac wedi cyfrannu at leihau ein heffaith ar yr amgylchedd sy’n gysylltiedig â theithio yn gyffredinol a theithio i/o’r gwaith.

Rydym wedi bod yn llwyddiannus wrth ymdrechu i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig hefyd. Trwy fodelau partneriaeth cynaliadwy, ein nod yw sicrhau y bydd y gwaith hwn yn dal i gael effaith gadarnhaol ar y cymunedau sydd wedi eu heffeithio ac unrhyw unigolion agored i niwed a allant gael eu hunain yn ymwneud ag ymddygiad troseddol.

Mae ein hymroddiad parhaus i ymyrraeth gynnar trwy ddargyfeirio hefyd yn parhau i arwain at ganlyniadau cadarnhaol o ran aildroseddu ac adnabod pobl sydd angen cefnogaeth ychwanegol.
Er bod llawer i’w ddathlu, ni fyddwn yn byw ar ein bri. Mae fy nghynllun yn dangos yr amrywiaeth eang o broblemau a heriau y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw os ydym ni am wneud Gwent yn lle mwy diogel.

Wrth gynnal partneriaethau effeithiol, gallwn wella’r ffordd rydym yn cefnogi ein trigolion mwyaf agored i niwed a cheisio rhoi sylw i anghydraddoldebau strwythurol sy’n parhau i danseilio diogelwch a chydlyniant cymunedol.

Fodd bynnag, mae’r pwysau o ran cyllid ar gyfer plismona gan Lywodraeth y DU yno o hyd.
Mae’r ddibyniaeth gynyddol ar drethdalwyr treth y cyngor lleol er mwyn sicrhau bod gan Heddlu Gwent gyllid digonol yn achos pryder parhaus - yn arbennig gan fod llawer ohonynt yn dal i wynebu cyni ariannol a diffyg gwaith oherwydd y pandemig.

Mae darparu gwasanaeth plismona cynaliadwy ac effeithiol sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif yn gofyn am fuddsoddiad a gwaith cynllunio.

Byddaf yn parhau i gefnogi a herio’r Prif Gwnstabl i ddefnyddio swyddogion heddlu’n effeithiol yn y mannau y mae eu hangen fwyaf, boed hynny ar y rheng flaen neu i sicrhau galluoedd arbenigol i ymdrin â’r troseddau sy’n achosi’r mwyaf o niwed i’n trigolion a’n cymunedau.

Byddaf yn gweithio hefyd i sicrhau bod ystâd yr heddlu, ein hasedau, cyfarpar ac arferion gweithio yn fwy effeithlon a chynaliadwy.

Bydd gofyn am ymdrech gydgysylltiedig rhwng yr heddlu, cymunedau, busnesau, partneriaid a llywodraethu i fynd i’r afael â phroblemau cynyddol a sylweddol seiberdrosedd a throseddau difrifol a threfnedig.

Byddwn yn gweithio gyda’r tri heddlu arall a chomisiynwyr heddlu a throsedd eraill yng Nghymru a’n byrddau gwasanaeth cyhoeddus i ysgogi gwaith partner er mwyn cyflawni’r gwasanaeth cyhoeddus gorau posibl. Byddwn yn gwneud hyn nid yn unig er mwyn pobl Gwent ond ar draws Cymru gyfan.

Rwyf yn gobeithio bod fy nghynllun yn dangos fy ymrwymiad parhaus i ddiogelwch a lles cymunedau a thrigolion Gwent.

Gyda chefnogaeth fy nhîm, byddaf yn parhau i ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am gyflawniad gweithredol fy mlaenoriaethau ac i ddangos sut rydym yn gwneud Gwent yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.


Jeff Cuthbert
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent
Medi 2021