Y Coleg Plismona yn lansio safonau arweinyddiaeth newydd i swyddogion

27ain Mehefin 2023

Rwyf yn croesawu'r safonau arweinyddiaeth newydd a lansiwyd gan y Coleg Plismona.

Mae angen arweinyddion o safon uchel ar bob rheng a gradd yn y maes plismona, a bydd y safonau newydd yma'n sicrhau bod hyfforddiant arweinyddiaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer swyddogion heddlu ar bob lefel.

Mae'n fuddsoddiad hirdymor yn arweinyddiaeth y dyfodol ac yn un o'r ffyrdd y gallwn sicrhau bod gennym ni'r bobl iawn gyda'r agweddau iawn yn arwain ein gwasanaeth heddlu.

Fel cyn-weinidog sgiliau a thechnoleg Llywodraeth Cymru rwy'n angerddol dros ddatblygiad proffesiynol a rhannu gwybodaeth ac arfer gorau.

Ni ddylid cyfyngu'r cyfleoedd hyn i swyddi neu rengoedd penodol yn unig. Er mwyn i sefydliad lwyddo, rhaid i chi weithio ar wella sgiliau a galluoedd pob cyflogai. 

Rwy'n aelod anweithredol o fwrdd y Coleg ar hyn o bryd ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am sut mae'r cynllun hwn yn datblygu.