Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2023

6ed Gorffennaf 2023

Mae comisiynwyr yr heddlu a throsedd yn cael eu hethol i fod yn llais y gymuned mewn materion plismona. Mae ein cymunedau'n dweud wrthym ni bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwysig.

Mae'n bwysig am ei fod yn effeithio ar ansawdd bywyd bob dydd pobl. Mae'n bwysig oherwydd os nad yw'n cael ei wirio, gall ymddygiad gwrthgymdeithasol waethygu i fod yn drosedd fwy difrifol. Mae'n bwysig am ei fod yn gallu niweidio dyfodol ein plant.

Rydym yn gwybod nad yw plismona ymddygiad gwrthgymdeithasol yn hawdd. Mae pob heddlu dan bwysau digynsail a phan mae swyddogion heddlu'n gwneud penderfyniadau ymateb yn seiliedig ar fygythiad, risg a niwed, nid yw'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn mynd i gael blaenoriaeth.

Ond rhaid i ni gomisiynwyr yr heddlu a throsedd sicrhau nad yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei esgeuluso. Rhaid i ni sicrhau bod ein cymunedau'n cael eu clywed. Dyna pam na ellir gadael y gwaith o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol i'r heddlu yn unig. A dyma lle gallwn ni, fel comisiynwyr heddlu a throsedd, wneud gwahaniaeth.

Mae llawer o'r problemau sylfaenol a all arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol - fel tai gwael, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, ac amddifadedd cymdeithasol - yn gofyn am ymateb partneriaeth. Dyna pam rwyf yn falch bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod hyn trwy’r Cynllun Gweithredu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol newydd.

Ymysg llawer o agweddau'r cynllun mae ffocws o'r newydd ar Blismona Mannau Problemus a Chyfiawnder Uniongyrchol i dramgwyddwyr a dioddefwyr. Mae hyn ochr yn ochr ag ymrwymiad i fuddsoddi mewn gwaith gyda phobl ifanc, a chanolbwyntio ar y defnydd o gyffuriau.

Fel comisiynwyr yr heddlu a throsedd (comisiynwyr) rydym mewn lle delfrydol i ddod â'r partneriaid iawn at ei gilydd a cheisio mynd i'r afael â’r problemau hyn. Er enghraifft, mae comisiynwyr mewn ardaloedd sy’n rhan o gynllun peilot ledled Cymru a Lloegr wedi derbyn ychydig dros £2 filiwn i fuddsoddi yn rhannau Plismona Mannau Problemus a Chyfiawnder Uniongyrchol y cynllun, ac mae'r ymyraethau hyn yn cael eu rhoi ar brawf ar hyn o bryd. Edrychaf ymlaen at glywed canlyniadau'r cynlluniau peilot hyn a gweld sut gallwn roi eu canlyniadau ar waith o’r flwyddyn nesaf.

Mae angen i lawer o'r gwaith yma gael ei gyflawni gyda'n Partneriaid Diogelwch Cymunedol trwy Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol. Mae llawer o newidiadau ar ddod o ran Diogelwch Cymunedol yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae'r Swyddfa Gartref wedi cynnal ymgynghoriad yn gofyn a ddylid cryfhau'r cysylltiadau rhwng comisiynwyr a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol, gyda phwerau newydd posibl i gomisiynwyr, a fyddai'n cael effaith uniongyrchol ar ymatebion lleol i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Disgwylir diwygiadau mwy sylfaenol eto yn 2025. Rydym yn aros i glywed mwy am fanylion y diwygiadau hyn, ond rwy'n bendant y bydd yn rhaid i unrhyw newidiadau fod o fudd cadarnhaol i gymunedau fy ardal i yng Ngwent, a Chymru'n gyffredinol.

Yn rhinwedd fy rôl fel arweinydd ar blismona lleol Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd rwyf yn gwneud llawer o waith i ddylanwadu ar y gwaith yma, ac yn cadw cysylltiad gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru er mwyn sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed.

Mae gennym ni fantais yng Nghymru. Mae gennym ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n corffori gwaith partner rhwng cyrff cyhoeddus mewn polisi. Cyflwynais y Bil i’r Cynulliad pan oeddwn i’n Weinidog Llywodraeth Cymru, ac rwy’n dal i fod yn hynod falch ohono. Mae grym gwaith partner yn allweddol ac i ategu'r gwaith yma rhaid i ni wrando ar ein cymunedau.

Yng Ngwent er enghraifft mae ardaloedd gwledig eang, cymunedau bach yn y cymoedd, trefi prysur ac un o ddinasoedd mwyaf Cymru. Mae gennym ni ardaloedd hynod o gyfoethog ac eithriadol o dlawd. Mae'r hyn mae ein trigolion yn ei weld fel ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu bod yn wahanol iawn ar draws y cymunedau yma. Nid yw un ateb addas i bawb yn mynd i weithio yma. Y trigolion lleol sydd yn y lle gorau i ddweud wrthym ni beth sydd ei angen yn eu hardaloedd nhw.

Dyma pam rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid - yn yr heddlu, awdurdodau lleol, addysg, iechyd, elusennau a'r trydydd sector - i ariannu mentrau lleol a grwpiau cymunedol sy'n cynnig gwasanaethau i ddargyfeirio a rhoi cymorth i'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ac rydym yn gwybod mai'r rhai sydd fwyaf mewn perygl yw plant a phobl ifanc. Er mwyn mynd i'r afael â phroblem gymdeithasol ymddygiad gwrthgymdeithasol mae angen i ni ddechrau gyda phlant o oedran ifanc.

Trwy gynnig cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau, trwy roi man diogel iddyn nhw fynd yn eu cymunedau a thrwy gynnig cefnogaeth iddyn nhw gan fentoriaid sy'n oedolion, rydym yn helpu i atgyfnerthu ymddygiad da a meddwl cadarnhaol. Rydym yn gosod seiliau a fydd yn eu galluogi nhw i gael dyfodol hapus ac iach.

Fyddwn ni byth yn dileu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llwyr. Rydym ni'n gwybod hynny. Ond trwy gydweithio gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau a chreu dyfodol gwell i bawb.