Swyddfa'r Comisiynydd yn ennill gwobr genedlaethol am y cynllun ymweld â dalfeydd

6ed Rhagfyr 2023

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am ansawdd uchel ei gynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd.

 

Gwirfoddolwyr yw ymwelwyr annibynnol â dalfeydd sy'n ymweld â dalfeydd yn ddirybudd er mwyn gwirio sut mae pobl yn cael eu trin, amodau'r ddalfa, ac i sicrhau bod eu hawliau'n cael eu parchu.

 

Mae eu canfyddiadau'n cael eu hadrodd wrth Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac yn helpu i sicrhau gwaith craffu cadarn ar bob agwedd ar waith Heddlu Gwent. 

 

Mae'r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (ICVA) - y sefydliad cenedlaethol o aelodau sy'n cefnogi, arwain a chynrychioli'r cynlluniau hyn - wedi datblygu fframwaith sicrwydd ansawdd i asesu pa mor dda mae'r cynlluniau'n cydymffurfio â'r cod ymarfer sy'n llywodraethu ymweliadau â dalfeydd.

 

Cyflwynodd ICVA wobr sicrwydd ansawdd aur i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent ddydd Mercher 29 Tachwedd 2023 yn ei seremoni wobrwyo flynyddol.

 

Meddai'r Fonesig Anne Owens, Cadeirydd ICVA: "Mae cynlluniau ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn sicrhau bod y cyhoedd yn goruchwylio maes o blismona sydd dan bwysau mawr ac sy'n gudd yn aml. Mae'r gwobrau yma'n dangos sut mae cynlluniau lleol yn defnyddio sylwadau gan wirfoddolwyr i wneud newidiadau a sicrhau bod dalfa'r heddlu'n rhywle diogel lle mae pobl yn cael eu trin ag urddas.

 

Meddai Sherry Ralph, Prif Weithredwr ICVA: "Mae'r fframwaith sicrwydd ansawdd yn golygu gwaith ychwanegol sylweddol i sicrhau bod y cynllun ymwelwyr annibynnol â dalfeydd yn cael ei adolygu'n rheolaidd, bod gwelliannau'n cael eu gwneud pan fydd eu hangen, a bod arfer ardderchog yn cael ei rannu. Hoffwn longyfarch cynlluniau ar yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni a diolch iddynt am eu hymroddiad."