Mynd i'r afael ag achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol

7fed Gorffennaf 2023

Pan fyddwn ni'n siarad am ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth reswm rydym yn siarad am gymorth i ddioddefwyr a beth mae'r heddlu'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem yn ein cymunedau.

Serch hynny, rhaid i ni gofio mai'r rhai sy'n fwyaf tebygol o gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol yw plant a phobl ifanc. Mae'r rhain yn aelodau gwerthfawr o'n cymuned ac mae'r rhai sy'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd mewn mwy o berygl o ddechrau ymwneud â throseddau mwy difrifol. Gall fod yn ddechrau siwrnai a fydd yn dinistrio eu dyfodol ac, o bosibl, eu bywydau.

Dyna pam mae'n rhaid i ni ddechrau mynd i'r afael â'r broblem hon o oedran cynnar, a dyna pam mae fy swyddfa'n cynnig cyfleoedd penodol ar gyfer ariannu prosiectau sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc.

Astudiaeth achos: County in the Community



Sefydlwyd County in the Community yn 2013 pan enillodd Newport County AFC statws cynghrair pêl-droed. Mae'n elusen gofrestredig erbyn hyn sy'n cynnal sesiynau ymgysylltu â phobl ifanc mewn ardaloedd anghenus iawn yng Nghasnewydd ac mae wedi derbyn arian gan fy swyddfa i gynnal mwy o sesiynau bob wythnos.

Mae pobl ifanc yn cael eu difyrru trwy amrywiaeth eang o chwaraeon a gweithgareddau ac maen nhw'n gallu mynd i sesiynau addysgiadol a sesiynau datblygiad personol. Nod y prosiect yw ysbrydoli pobl ifanc i wneud newid cadarnhaol yn eu bywydau ac yn eu cymunedau.

Mae'r sesiynau'n eithriadol o boblogaidd ac mae nifer o bobl ifanc sydd wedi bod yn ymwneud â County in the Community wedi mynd ymlaen i chwarae i dimau lleol a chymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant rheolaidd gyda chlybiau sefydledig. Mae'r sesiynau'n darparu disgyblaeth a strwythur, yn ogystal â helpu'r bobl ifanc i fod yn iach ac yn frwdfrydig. Maen nhw'n cael cyfle i fynd i gemau Newport County am ddim ac mae llawer ohonyn nhw wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau ledled y DU.

Mae'r gwaith yma'n helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleol yn y gymuned, ond ni ellir gorbwysleisio buddiannau hirdymor y gwaith yma.

Trwy gynnig cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau, trwy roi man diogel iddyn nhw fynd yn eu cymunedau a thrwy gynnig cefnogaeth iddyn nhw gan fentoriaid sy'n oedolion, rydym yn helpu i atgyfnerthu ymddygiad da a meddwl cadarnhaol. Rydym yn gosod seiliau a fydd yn eu galluogi nhw i gael dyfodol hapus ac iach.