Ffair Swyddi Y Fenni
15fed Medi 2023
Yn ddiweddar gwnaethom gefnogi ein partneriaid Willmott Dixon mewn ffair swyddi ym marchnad Y Fenni.
Willmott Dixon sy'n adeiladu ein gorsaf heddlu newydd yn Llan-ffwyst. Cawsom lawer o adborth cadarnhaol am yr adeilad newydd, ac roeddwn i'n falch i glywed ei fod yn cael derbyniad da gan y gymuned.
Pan fydd wedi ei gwblhau bydd yn golygu y gall tîm cymdogaeth Heddlu Gwent fynd ar batrolau cerdded yn hawdd yng nghanol y dref a bydd gan geir sy'n ymateb i alwadau fynediad da at y rhwydwaith ffyrdd lleol ar gyfer galwadau brys. Mae aelodau'r cyhoedd sydd eisiau siarad wyneb yn wyneb â Heddlu Gwent yn gallu parhau i ddefnyddio'r gwasanaeth cownter yn Neuadd y Dref Y Fenni.