Cyllideb 2025-26
Mae gofyn i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd bennu cyllideb ar gyfer 2025-26 ac yna pennu praesept y dreth gyngor ar ôl ymgysylltu â thrigolion, ac ymgynghori â Phanel Heddlu a Throsedd Gwent.
Bydd y rhan helaethaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac i gomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.
Ar ôl ymgynghori â Phanel Heddlu a Throsedd Gwent, mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo:
- Gofyniad cyllideb ar gyfer 2025/26 o £183,840,524
- Y rhaglen gyfalaf ddechreuol
- Yr arbedion arfaethedig yn 2025/26 o £360,000 ac arbedion arfaethedig pellach o £1.340 miliwn (cyfanswm o £1.700 miliwn)
- Cynnig arfaethedig pellach i danysgrifennu'r diffyg sy'n weddill gyda Chronfeydd Wrth Gefn ac Arian Wedi'i Neilltuo o £1.679 miliwn i fantoli cyllideb 2025/26
- Swm arfaethedig praesept y dreth gyngor ar gyfer 2025/26 o ran costau cyffredinol o £86,492,507. Mae hwn yn adlewyrchu codiad blynyddol i eiddo Band D arferol o 7.95% neu £27.79 ar lefel praesept y dreth gyngor yn 2024/25, a thrwy hynny cynnig o braesept y dreth gyngor o £377.31 ar gyfer Band D yn 2025/26. Bydd swm cyffredinol praesept y dreth gyngor yn cael ei dyrannu i bob ardal awdurdod lleol fel a ganlyn:
- Blaenau Gwent: £7,317,677
- Caerffili: £21,423,010
- Sir Fynwy: £16,939,672
- Casnewydd: £21,435,712
- Torfaen: £12,043,502
- Cyfanswm: £79,159,573
Mae praesept y dreth gyngor a ddangosir uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol ar gyfer y gwahanol fandiau:
A: £251.54
B: £293.46
C: £335.39
D: £377.31
E: £461.16
F: £545.00
G: £628.85
H: £754.62
I : £880.39
Dogfennau
Adroddiad cyllideb
Cofnod Penderfyniadau
Atodiadau
Adroddiad ar gyfer Panel Heddlu a Throsedd Gwent
Adroddiad argymhelliad
Llythyr o gefnogaeth gan y Prif Gwnstabl
Ymateb Panel Heddlu a Throsedd Gwent
Hysbysiad Praesept y Dreth Gyngor 2025-26