Cyllideb 2020-21
Hysbysiad Praesept Treth y Cyngor 2020/21
Mae'n ofynnol bod y Comisiynydd yn pennu'r gyllideb ar gyfer 2020/21 ac yna'n pennu praesept treth y cyngor yn dilyn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu. Bydd y rhan fwyaf o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i Heddlu Gwent at ddibenion gweithredol, ond mae angen cadw elfen ohoni i dalu costau Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chomisiynu gwasanaethau gan sefydliadau ar wahân i Heddlu Gwent.
Cyllideb 2020/21 Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Wrth bennu Gofynion y Gyllideb ar gyfer 2020/21 mae'r Comisiynydd wedi ystyried Cynllun Heddlu a Throseddu 2017-21; Gweledigaethau Plismona 2025; y Gofyniad Plismona Strategol; barn y Prif Gwnstabl am yr adnoddau ariannol y mae eu hangen i gyflawni gofynion gweithredol y Cynllun; lefel yr adnoddau i gael eu dyrannu ar gyfer comisiynu ar wahân i'r rhai gan y Prif Gwnstabl a chostau rhedeg Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae'r Comisiynydd wedi cymeradwyo'r canlynol, mewn ymgynghoriad â'r Panel Heddlu a Throseddu:
- Gofyniad cyllideb o £133,623,773ar gyfer 2020/21;
- Arbedion arfaethedig o £539k miliwn yn 2020/21 ac arbedion arfaethedig pellach o £1.137 miliwn (cyfanswm o £1.676m miliwn) y ceir manylion amdanynt yn Atodiad 5b yr Atodiad i'r cyflwyniad hwn;
- Defnydd arfaethedig pellach o'r Arian Wrth Gefn a Chyllid Wedi'i Sicrhau (Atodiad 7)
- Y Rhaglen Gyfalaf ddechreuol fel y disgrifir yn Atodiadau 8a a 8b; a
- Praesept arfaethedig ar gyfer 2020/21 i'w godi mewn perthynas â threuliau cyffredinol o £60,635,761 (cyfwerth ag eiddo Treth y Cyngor Band D o £273.39) a bydd y swm hwn yn cael ei rannu i bob Cyngor Dinas/Sir/Bwrdeistref Sirol yn unol â'r tabl canlynol:
Awdurdodau Unedol |
£ |
Sylfaen Drethu Cyfwerth â Band D (£) |
Blaenau Gwent |
5,648,907 |
20,662.45 |
Caerffili |
16,553,559 |
60,549.25 |
Sir Fynwy |
12,666,684 |
46,331.92 |
Casnewydd |
16,476,545 |
60,267.55 |
Torfaen |
9,290,066 |
33,981.00 |
Cyfanswm |
60,635,761 |
221,792.17 |
Mae'r praesept a ddangosir yn y tabl uchod yn cynhyrchu'r symiau canlynol o dreth y cyngor ar gyfer y gwahanol fandiau:
Band Treth y Cyngor |
£ |
A |
182.26 |
B |
212.64 |
C |
243.01 |
D |
273.39 |
E |
334.14 |
F |
394.90 |
G |
455.65 |
H |
546.78 |
I |
637.91 |
Adroddiad y Panel Heddlu a Throseddu
Response to Police and Crime Commissioner regarding the Proposed Precept for 2020/21 (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Response to Police and Crime Panel Precept Recommendations 2020/21 (Saesneg yn unig)- Cofnod Penderfyniadau (Saesneg un unig)