Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2025 - 2029


Cyflwyniad
Gweledigaeth
Ynglŷn â Gwent
Ein Blaenoriaethau ac Amcanion Cydraddoldeb
Pam mae angen y Cynllun hwn arnom ni?
Ar gyfer pwy mae'r Cynllun hwn
Sut y lluniwyd y cynllun hwn
Sut byddwn yn cyflawni, monitro a mesur y cynllun hwn
Casgliad

Cyflwyniad

Croeso i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2025-2029 ar gyfer Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd) Gwent. Yn flaenorol, rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar y cyd â Heddlu Gwent. Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad o'n trefniadau llywodraethu yn 2023, penderfynwyd dychwelyd at gyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb ar wahân.

Er ein bod yn rhannu llawer o'r un ymrwymiadau â Heddlu Gwent i ymwreiddio cydraddoldeb a chynhwysiant a chroesawu amrywiaeth, mae ein swyddogaethau a chyfrifoldebau sefydliadol yn wahanol. Mae cynllun pwrpasol ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd yn ein galluogi i ganolbwyntio mwy ar ein huchelgeisiau a'n hymrwymiadau ein hunain, wrth ddatblygu ymhellach effeithiolrwydd ein gwaith craffu ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol Heddlu Gwent a'i ddarpariaeth.

Mae'r cynllun hwn wedi cael ei ysgrifennu yn ystod cyfnod o heriau cynyddol i'n perthynas gyda'n cymunedau amrywiol, nid yn unig o ran plismona, ond o ran y sector cyhoeddus cyfan. Mae ymddiriedaeth a hyder wedi parhau i ddirywio yn sgil materion ymddygiad proffesiynol sydd wedi dwysau'r effaith anghyfartal ar aelodau o'r cyhoedd a swyddogion a staff heddlu o gefndiroedd amrywiol sy'n gweithio yn y sefydliadau hynny. Mae adolygiadau thematig o gynnydd wedi cadarnhau mai ychydig iawn sydd wedi newid, er gwaethaf nifer o strategaethau a dulliau cenedlaethol a lleol ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sydd wedi methu â chreu'r effaith gadarnhaol ddymunol.

Ers 2020, rydym wedi gweld symudiad sylweddol tuag at gydnabod hiliaeth systemig a gwaith i herio a newid prosesau ac arferion presennol. I'r diben hwn, gwnaethom gyfraniadau sylweddol i'r gwaith o ddatblygu a chreu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru, a lansiwyd ym mis Medi 2022. Mae hwn yn amlinellu ymrwymiad sefydliadau cyfiawnder troseddol yng Nghymru i fod yn wrth-hiliaeth erbyn 2030, yn unol ag uchelgais genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Cafodd datblygiad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn a'i amcanion eu llywio gan waith ymgysylltu â'r gweithlu, a'i ategu gan broses ymchwil helaeth. Roedd hyn yn cynnwys dadansoddiad strategol o'r darlun cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer plismona ac adolygiad o gynnydd mewn perthynas â'r cynllun blaenorol. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwaith yma yn adran 7 y ddogfen yma.

Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd y Comisiynydd y Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder 2025-2029. Mae'r cynllun yn pennu'r cyfeiriad strategol ar gyfer Heddlu Gwent, gwaith Swyddfa'r Comisiynydd a sut rydym yn gweithio gyda'n partneriaid. Mae'r amcanion yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn yn adlewyrchu blaenoriaethau a sylfeini'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder.

Mae'r cynllun hwn hefyd yn ystyried dylanwadau polisïau Cymru a'r Deyrnas Unedig ar ein bwriadau strategol. Mae'n ceisio bodloni unrhyw gyfrifoldebau a roddwyd ar blismona ac asiantaethau a threfniadau cyfiawnder troseddol, gan barchu'r gwahaniaeth rhwng partneriaid wedi'u datganoli a phartneriaid heb eu datganoli ar yr un pryd.

Wrth gyhoeddi'r cynllun hwn, rydym wedi nodi tri maes allweddol y byddwn yn canolbwyntio arnynt:

  • Amcan 1 – Gwella hyder ac ymddiriedaeth mewn plismona i gymunedau lleiafrifol a rhai wedi'u hymyleiddio, gan ganolbwyntio'n benodol ar hil, anabledd, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.
  • Amcan 2 - Datblygu ein sefydliad a diwylliant gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu diwylliant cynhwysol gyda phobl wybodus ac arferion achrededig.
  • Amcan 3 – Gwella ein dulliau ymgysylltu i gryfhau cydlyniant cymdeithasol a datblygu cymunedau mwy gwybodus.

Amlinellir y rhain yn fwy manwl yn adran 4 y ddogfen yma.

Er bod y cynllun hwn wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer pob un o'n cymunedau amrywiol, rydym wedi cytuno i ganolbwyntio'n bennaf ar anabledd, rhywedd, a chyfeiriadedd rhywiol am y ddwy flynedd gyntaf, yn ogystal â'n hymrwymiad i wrth-hiliaeth, gan gydnabod y wybodaeth a ddarparwyd o fewn ein gwaith datblygu a bod cymunedau sy'n rhannu'r nodweddion gwarchodedig hyn yn wynebu'r heriau mwyaf amlwg ar draws y maes plismona. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ymateb yn well i'r prif broblemau a heriau i'r cymunedau hyn, megis troseddau casineb, a sbarduno gwelliannau i ansawdd y gwasanaethau plismona y gallant yn eu derbyn.

Bydd cynnydd yn erbyn amcanion y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael ei ysgogi trwy Fframwaith Cynllun Cyflawni. Bydd hwn yn cael ei ddatblygu ar draws Swyddfa'r Comisiynydd yn fuan yn dilyn cyhoeddi'r cynllun, a bydd yn adlewyrchu perchnogaeth wasgaredig ein gweithgareddau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad. Bydd gwaith monitro'n cael ei gyflawni mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys trwy gyfarfodydd llywodraethu, trefniadau craffu ac ymgysylltu â'r cyhoedd. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn adran 8 y ddogfen yma.

Ni fyddwn yn defnyddio'r term ‘pobl Ddu, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol' mwyach i gyfeirio at grwpiau mawr o bobl o wahanol ethnigrwydd. Yn hytrach, byddwn yn cyfeirio at bobl o Dreftadaeth Ethnig neu byddwn yn defnyddio termau mwy uniongyrchol wrth ddisgrifio gwahanol ethnigrwydd.

Hoffem ddiolch i bawb a ymgysylltodd â ni wrth i ni ddatblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau ychwanegol am y cynllun hwn, neu am eich profiadau o blismona yng Ngwent – os hoffech chi gysylltu â ni mae ein manylion cyswllt ar ddiwedd y ddogfen yma.

Gweledigaeth

Rydym am fod yn sefydliad:

  • Y mae ein cymunedau a'n staff yn ymddiried ynddo.
  • Diwylliannol gymwys a gwybodus ynghylch pob maes o amrywiaeth.
  • Gweladwy yn ein hymrwymiad i newid cadarnhaol a mynd i'r afael â phob math o wahaniaethu.

Egwyddorion arweiniol

Mae nifer o egwyddorion arweiniol yn sail i'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn.

Bydd ein gwaith gyda phartneriaid yn hollbwysig i lwyddiant y cynllun hwn. Byddwn yn defnyddio ein dylanwad mewn strwythurau partner i gynrychioli barn grwpiau sydd ddim yn cael eu clywed yn aml, ac yn ceisio manteisio ar gyfleoedd i gydweithredu, gan gynnwys gwaith comisiynu ac ymgysylltu â'r gymuned.

Rhoi plant yn gyntaf yn ein holl weithgareddau. Byddwn yn datblygu ac yn ymgorffori dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn sy'n sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant yn cael eu defnyddio i lywio ein gwaith. Byddwn yn cyd-gynhyrchu a datblygu Siarter Plant a Phobl Ifanc i benderfynu sut byddwn yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac i archwilio eu profiadau a'u disgwyliadau o Heddlu Gwent.

Nod Cynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru yw, “gwneud y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru mor deg, mor effeithlon ac mor effeithiol ag y bo modd gyda dull gweithredu gwrth-hiliaeth yn un o’i gwerthoedd a’i dulliau gweithredu craidd.” Mae saith prif nod, ac mae rhwymedigaethau mwy penodol i heddluoedd ynghlwm wrth y rhain:

Defnyddio dull sy'n ystyriol o drawma yn ein gwaith ac wrth ryngweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr sydd wedi cael eu heffeithio gan drosedd, pobl sydd wedi troseddu a allant fod wedi profi trawma yn eu cefndiroedd, a chymunedau sy'n cario trawma cenedliadol a systemig. Mae arfer sy'n ystyriol o drawma yn golygu:

  • Canolbwyntio ar yr unigolyn - rhoi dewisiadau a llais i'r unigolyn.
  • Bod yn gynhwysol - ystyried diwylliant a nodweddion mewn ffordd groestoriadol.
  • Meithrin diogelwch ac ymddiriedaeth - peidio ag achosi’r trawma eto, helpu'r unigolyn i deimlo'n ddiogel.
  • Cydweithredu - gweithio o fewn ac ar draws sefydliadau i gefnogi'r unigolyn.
  • Gofyn "beth sydd angen ar yr unigolyn yma" yn hytrach na “beth sydd o'i le ar yr unigolyn yma”.

Rydym yn cydnabod bod rhai swyddogion a staff mor agored i drawma ag unrhyw un arall. Efallai eu bod yn rhannu'r profiadau hyn yn eu bywydau eu hunain, ac wrth gyflawni eu dyletswyddau maent yn agored i ddigwyddiadau sy'n effeithio ar eu crebwyll neu ymddygiad. Er mwyn gwrthsefyll hyn, mae angen i ni:

  • Weithio gyda Heddlu Gwent i ddysgu ein gweithluoedd am effaith Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a thrawma rhyng-genedliadol;
  • Deall, herio, a newid ein rhagfarnau ein hunain;
  • Ystyried sut rydym yn gweithio, gan gynnwys trwy bartneriaethau ac mewn ffyrdd sy'n parchu lles corfforol a meddyliol pobl.

Effaith croestoriadedd Ystyr croestoriadedd yw bod hunaniaeth unigolyn yn cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na mewn rhannau ar wahân. Rydym yn aml yn meddwl am wahaniaethu mewn meysydd penodol - er enghraifft rhywedd, hil, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd - yn hytrach nac ystyried sut gall y meysydd hyn orgyffwrdd ac achosi gwahanol brofiadau o wahaniaethu ac ymyleiddio. Os ydym ni'n canolbwyntio ar un rhan yn unig o hunaniaeth rhywun, efallai y byddwn yn colli sut mae rhannau eraill yn creu profiad o ymyleiddio lluosog.

Er enghraifft, gall menyw Asiaidd sydd eisiau riportio trosedd wynebu anawsterau oherwydd diffyg addasiadau ar gyfer ei hethnigrwydd - megis dim cyfieithydd - yn ogystal ag ar gyfer ei rhywedd - megis dim swyddog benywaidd ar gael i gymryd ei datganiad, pan fyddai'n teimlo’n anghyfforddus yn siarad â swyddog gwrywaidd. Pe bai'r fenyw yn anabl hefyd, byddai hyn yn haen arall o ymyleiddio.

Nid yw'r dull croestoriadol yn golygu bod unrhyw un yn fwy haeddiannol o gael ei drin yn arbennig, yn hytrach mae'n cydnabod bod gan bob un ohonom ni sawl haen o hunaniaeth, sy'n gallu rhyngweithio i olygu ein bod yn cael ein trin yn wahanol, ac mewn rhai achosion, yn waeth.

Ynglŷn â Gwent

Yng Nghyfrifiad 2021, cofnodir mai poblogaeth Gwent yw 587,686 o bobl yn byw o fewn pum ardal awdurdod lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, a Thorfaen.

Mae Gwent yn cwmpasu 155,542 cilomedr sgwâr. Mae’r sir yn amrywiol o safbwynt economaidd a diwylliannol, gydag ardaloedd o gyfoeth ac amddifadedd. Mae'r lefelau uchaf o amddifadedd i'w gweld yn gyson ym Mlaenau Gwent, ac mae Sir Fynwy yn fwy cyfoethog na'r pedair ardal arall [Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (diweddariad llawn i’r mynegai gyda graddfeydd): 2019 | GOV.WALES].

Mae cymunedau dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn cyflwyno heriau plismona ychwanegol. Gallant fod yn fwy agored i drosedd, yn enwedig lle bo tlodi’n croestorri â nodweddion fel hil ac anabledd.

Ein cymunedau

Mae tua 8.6% o boblogaeth Gwent o dreftadaeth ethnig, sy’n codi i ryw 14.5% yng Nghasnewydd. Yr ieithoedd sy'n cael eu siarad amlaf yng Ngwent, ar ôl Cymraeg a Saesneg, yw Pwyleg (0.4%) a Rwmaneg (0.2%), yna Bengaleg ac Arabeg (y ddwy tua 0.14%).

Hil/Ethnigrwydd (Gwent)

  • 91.4% Gwyn Prydeinig.
  • 2.6% Asiaidd.
  • 1.5% Cymysg.
  • 0.8% Du.
  • 0.3% Tsieineaidd
  • 0.2% Arab.
  • 0.4% Unrhyw grŵp ethnig arall.
    Crefydd/Cred (Gwent)
  • 49.8% Dim crefydd.
  • 40.8% Cristnogaeth.
  • 6.8% Crefydd arall.
  • 2.2% Islam.

Cyfeiriadedd Rhywiol (Gwent)

Ar gyfartaledd, mae 2.1% o bobl 16 oed a hŷn yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, neu'n disgrifio eu cyfeiriadedd rhywiol fel un ar wahân i heterorywiol.
Anabledd (Gwent)

Mae rhyw 22% o boblogaeth oedran gweithio Gwent wedi nodi bod ganddynt anabledd fel y caiff ei ddiffinio o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn ar ei uchaf ym Mlaenau Gwent.

Mae tua 0.02% o'r boblogaeth yn cyfathrebu trwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Y Gymraeg (Gwent)

Mae rhyw 20% o boblogaeth Gwent yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â 29.6% ledled Cymru. Mae gallu yn y Gymraeg ar ei uchaf ym Mwrdeistref Caerffili.

Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd

Y Comisiynydd, ynghyd â’r Prif Gwnstabl, sy’n gyfrifol am blismona yng Ngwent. Mae’r Comisiynydd yn sicrhau bod Heddlu Gwent yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn ceisio gwella perfformiad a safonau’r gwasanaethau plismona lleol a ddarperir i’n cymunedau. Rhan o swyddogaeth y Comisiynydd yw sicrhau bod pobl leol yn cael lleisio barn ynglŷn â’r modd y caiff eu hardaloedd eu plismona a dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am ddarparu’r gwasanaethau hyn.

Mae gan y Comisiynydd nifer o gyfrifoldebau statudol sy'n cael eu rhestru ar y wefan [Responsibilities | Gwent Police and Crime Commissioner (pcc.police.uk)]. Yn ogystal, mae'r Comisiynydd hefyd yn gyfrifol am ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am berfformiad swyddogion a staff Heddlu Gwent, gan gynnwys unrhyw ddyletswyddau sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth.

Bob pedair blynedd, mae'r comisiynydd yn cyhoeddi Cynllun Heddlu a Throsedd sy'n amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer plismona ac ymdrin â throseddu. Yn groes i'r traddodiad, mae'r cynllun newydd yn canolbwyntio ar gryfhau a gwella'r system cyfiawnder troseddol lleol [Police, Crime and Justice Plan | Gwent Police and Crime Commissioner]. Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael ei gryfhau trwy ein Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder 2025-2029 sydd, ynghyd â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn darparu fframwaith ar gyfer y ffordd y byddwn yn gwneud ein gwaith bob dydd a'r canlyniadau rydym eisiau eu cyflawni.

Ein staff

Mae gan y Comisiynydd dîm o staff sy'n cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau ac sy'n ei chefnogi i gyflawni ei dyletswyddau. Caiff gwybodaeth am y tîm ei chyhoeddi ar wefan y Comisiynydd, gan gynnwys y gyfran o staff sy'n fenywod, a (ble y datgelir hynny) rhai sydd o dreftadaeth ethnig a rhai ag anabledd [Y Tîm | Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (pcc.police.uk)].

Ein statws presennol

Fel y nodwyd yn flaenorol, wrth gyhoeddi'r cynllun hwn, rydym yn symud oddi wrth ein trefniadau ar y cyd gyda Heddlu Gwent. Bydd hyn yn galluogi Swyddfa'r Comisiynydd i ddatblygu golwg strategol a llywodraethu gwell o'i hymrwymiadau ei hun ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan oruchwylio’r ffordd y mae Heddlu Gwent yn cyflawni yn erbyn ei flaenoriaethau ei hun yn effeithiol.

Er ei fod yn benodol ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd, mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2025-2029 newydd yn cydnabod ac yn adlewyrchu'r heriau ac uchelgeisiau sy'n gyffredin i ni a Heddlu Gwent, a'r gwaith partner a fydd yn parhau er mwyn i ni wneud y defnydd gorau posibl o'n hadnoddau a'n cyfleoedd cydweithredu.

Roedd ein Hadroddiad Blynyddol ynglŷn â Chydraddoldeb ar gyfer 2023/24 a 2024/25 yn rhan o adolygiad o gynnydd y Cynllun blaenorol ac roedd yn cyfrannu at yr asesiad sylfaenol ar gyfer y Fframwaith Cynllun Cyflawni 2025-29.

Mae Adroddiadau Blynyddol ynglŷn â Chydraddoldeb yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan [Strategic Equality Plan and Objectives Annual Reports | Gwent Police and Crime Commissioner (pcc.police.uk)].

Ein Blaenoriaethau ac Amcanion Cydraddoldeb

AMCAN 1 - GWELLA HYDER AC YMDDIRIEDAETH MEWN PLISMONA I GYMUNEDAU LLEIAFRIFOL AC WEDI’U HYMYLEIDDIO, GAN GANOLBWYNTIO'N BENODOL AR HIL, ANABLEDD, RHYWEDD A CHYFEIRIADEDD RHYWIOL.

Canlyniadau Dymunol:

  • Cymunedau'n nodi mwy o fodlonrwydd a theimladau cadarnhaol tuag at blismona yng Ngwent.
  • Cymunedau amrywiol yn teimlo eu bod wedi grymuso mwy i ymgysylltu â ni am y materion sydd o bwys iddynt.
  • Mwy o riportio troseddau casineb wrth Heddlu Gwent.
  • Llai o anghyfartaledd mewn arfer plismona (megis stopio a chwilio, gwarediadau yn/y tu allan i'r llys, ac ati).

O fewn dwy flynedd, byddwn yn ymroi i:

  • Gynnal archwiliad dwfn a chraffu agos ar berfformiad a phrosesau troseddau casineb Heddlu Gwent.
  • Cyflwyno proses newydd ar gyfer craffu ar berfformiad Heddlu Gwent, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r grwpiau uchod.
  • Rhoi proses craffu allanol ar waith ar gyfer cyflawni Cynllun Cydraddoldeb Strategol Swyddfa'r Comisiynydd.
  • Neilltuo adnoddau (cyllid a phobl) priodol i gyflawni ymdrechion sy'n cael eu rhannu ar draws plismona, cyfiawnder troseddol, a'n partneriaethau ehangach.

AMCAN 2 - DATBLYGU EIN SEFYDLIAD A'N DIWYLLIANT gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu diwylliant cynhwysol gyda phobl wybodus ac arferion achrededig.

Canlyniadau Dymunol

  • Mwy o amrywiaeth o ran staff a gwirfoddolwyr Swyddfa'r Comisiynydd.
  • Mwy o gyfleoedd i staff ddysgu a datblygu mewn perthynas â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Prosesau ac arferion busnes yn rhoi mwy o sylw i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Cynnig gwell lles i staff yn benodol mewn cysylltiad ag anabledd a niwroamrywiaeth.

O fewn dwy flynedd, byddwn yn ymroi i:

  • Gyflwyno polisi Gweithredu Cadarnhaol newydd ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd yn barod ar gyfer cyfleoedd recriwtio.
  • Canolbwyntio ar graffu ar waith Heddlu Gwent yn casglu a chofnodi data am nodweddion gwarchodedig yn effeithiol.
  • Ariannu hyfforddiant a sesiynau ymwybyddiaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer staff, rheolwyr, ac arweinyddion (megis mentora o chwith).
  • Ymgorffori agwedd sefydliad-cyfan tuag at lywodraethu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn Swyddfa'r Comisiynydd.
  • Ennill achrediad cenedlaethol mewn safonau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i Swyddfa'r Comisiynydd.
  • Adolygu ein bwriadau a gweithgareddau cyllido a chomisiynu fel eu bod yn cael eu llywio gan grwpiau amrywiol nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol neu sy'n cael eu cynrychioli'n anghyfartal.

AMCAN 3 – GWELLA EIN DULLIAU YMGYSYLLTU i gryfhau cydlyniant cymdeithasol a datblygu cymunedau mwy cadarn.

Canlyniadau Dymunol

  • Mwy o gydlyniant cymdeithasol o fewn y gwahanol gymunedau ledled Gwent.
  • Gwell cynrychiolaeth o gymunedau wedi’u hymyleiddio a lleiafrifol trwy ein gweithgarwch ymgysylltu.
  • Gweithgarwch partner effeithiol i ddeall a rhoi sylw i broblemau cydlyniant cymunedol.
  • Cymunedau amrywiol sy'n teimlo'n fwy gwybodus am ein gwaith ac sy'n ymwybodol ac yn dawel eu meddwl am y ffordd y mae eu hadborth wedi cael ei ddefnyddio.

O fewn dwy flynedd, byddwn yn ymroi i:

  • Adnabod cyfleoedd cyllid i gefnogi grwpiau lleol a gweithgareddau sy'n hybu ac yn cyfrannu at wella cydlyniant cymunedol.
  • Ymgysylltu ystyrlon rheolaidd gyda gwahanol gymunedau a grwpiau yng Ngwent, gan ddefnyddio eu barn i lywio ein gwaith a'n penderfyniadau.
  • Canfod cyfleoedd newydd i ymgysylltu â chymunedau a grwpiau anabl a LHD+ a Thrawsryweddol a'u rhoi ar waith i sicrhau bod eu barn a'u profiadau'n cael eu clywed.
  • Gweithio gyda phlismona a phartneriaid i ddeall a gwella cydlyniant cymunedol, gan sicrhau ymateb priodol i broblemau a phryderon cymunedau.
  • Rhoi gwybodaeth i gymunedau am ein gwaith a'r hyn rydym wedi ei wneud mewn ymateb i'w sylwadau.

Strategaethau partner rydym yn parhau i fynd ati i'w cyflawni

Mae'r Cynllun hwn hefyd yn ystyried amrywiaeth o strategaethau a threfniadau eraill sy'n berthnasol i faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a phlismona. Byddwn yn chwarae ein rhan i gefnogi a chyflawni'r gweithgareddau a amlinellir yn y cynlluniau a'r partneriaethau hyn ac yn adlewyrchu'r canlyniadau yn ein hadroddiadau blynyddol. Mae strategaethau partner o'r fath yn cynnwys:

  • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys rhwymedigaethau i blismona yng Nghymru ar gyfer y meysydd cyfiawnder troseddol, mynd i'r afael â throsedd casineb, cydlyniant cymunedol, cynrychiolaeth y gweithlu ac arweinyddiaeth [Anti-racist Wales Action Plan | GOV.WALES].
  • Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru, sy'n amlinellu cyfrifoldebau i gyrff plismona o ran cynnwys pobl LHDTC+ a chydnabod pobl draws ac anneuaidd wrth gynllunio gwasanaethau a pholisïau; dileu rhwystrau i bobl LHDTC+ sy'n riportio trosedd casineb; gwella perthynas pobl LHDTC+ â phlismona; targedu trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn cymunedau LHDTC+; a chynnwys hyfforddiant LHDTC+ yn rhan o hyfforddiant arall ar gydraddoldeb yn y gweithle [LGBTQ+ Action Plan for Wales | GOV.WALES].
  • Mae Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais rhywiol (VAWDASV) Llywodraeth Cymru yn cynnwys chwe amcan y bydd Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau nad ydynt wedi'u datganoli megis yr heddlu, yn gweithio o danynt i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol [Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026 [HTML] | GOV.WALES].
  • Nod Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yw datblygu system cyfiawnder ieuenctid sy’n trin plant â thegwch a pharch, ac sy’n eu helpu i feithrin eu cryfderau ac i wneud newidiadau a dewisiadau cadarnhaol yn eu bywydau, gan leihau ail droseddu a chryfhau dulliau partner [youth-justice-blueprint_0.pdf (gov.wales)].
  • Mae Glasbrint Troseddwyr Benywaidd Cymru yn amlinellu'r dyheadau ar gyfer trin menywod yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys cefnogi menywod i fyw bywydau rhydd rhag trosedd, bywydau cadarnhaol ac iach, a lleihau nifer y menywod yn y system trwy ymyrryd yn gynharach [female-offending-blueprint_3.pdf (gov.wales)].
  • Mae Cynllun Gweithredu Strategaeth Anabledd a Gweithredu ar Anabledd: Fframwaith a Chynllun Gweithredu Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol Llywodraeth Cymru yn amlinellu nodau ar gyfer mwy o gynhwysiant i bobl anabl a phobl ag anableddau dysgu. Mae meysydd y gall plismona gyfannu atynt yn cynnwys cyflogaeth, cynnwys pobl anabl yn y gwaith o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, mynd i'r afael â throsedd casineb ac aflonyddu ar sail anabledd, a gweithio yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n nodi mai cymdeithas, yn hytrach na nam neu gorff y person anabl, sy'n rhwystro cynhwysiant [Learning Disability Strategic Action Plan 2022 to 2026 [HTML] | GOV.WALES]; [action-on-disability-the-right-to-independent-living-framework-and-action-plan.pdf (gov.wales)].

Mae'r cynlluniau hyn yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru - mewn sectorau penodol, ac fel diwylliant cenedl - ac mae gan heddluoedd rwymedigaethau penodol i'w bodloni er mwyn sicrhau ein bod yn cyfrannu at ddyfodol Cymru fel cenedl amrywiol, gynhwysol a chroesawgar.

Mae plismona ledled Cymru a Lloegr wedi cytuno ar flaenoriaethau hefyd o dan gynlluniau gweithredu amrywiol a amlinellir gan Y Coleg Plismona, Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.

Pam mae angen y Cynllun hwn arnom ni?

Y cyd-destun cymdeithasol a chenedlaethol

Ers cyhoeddi'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar y Cyd blaenorol yn 2020, mae effaith anghyfartaledd a diwylliannau gwenwynig wedi cael sylw anferthol, o fewn cymdeithas ac o fewn plismona. Mae nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol, uchel eu proffil, wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae'r rhain wedi bod yn gatalydd i newidiadau systemig ac o ran polisi o fewn plismona, cyfiawnder troseddol, a'r sector cyhoeddus ehangach. Rydym yn parhau i weld niwed i gymunedau, sy'n cael ei waethygu gan agweddau cymdeithasol, cyfreithiol a gwleidyddol heriol a newidiol ar draws y byd.

Gyda'r cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn byddwn yn adeiladu ar ein hymrwymiadau presennol fel corff cyhoeddus. Byddwn yn gweithio i greu profiadau a chanlyniadau mwy cadarnhaol i bobl wedi’u hymyleiddio a lleiafrifol yng Ngwent. Byddwn yn codi hyder yn ein gwasanaethau, meithrin ymrwymiad ac adeiladu cysylltiadau go iawn gyda'n cymunedau. Rydym eisiau i bobl deimlo'n fwy diogel, gyda chymunedau mwy gwydn a chydlynol, sy'n hyderus yn y gwasanaeth plismona y byddant yn ei dderbyn, os byddant ei angen.

Bydd sylfeini'r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder yn cefnogi ac yn cadarnhau ein llwyddiant wrth gyflawni'r ymrwymiadau a amlinellir yn y cynllun hwn.

Deddfwriaeth

Ochr yn ochr â'n hymrwymiadau sylfaenol i wella diwylliant plismona, ail adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd a lleihau neu esbonio anghyfartaledd, mae cyfreithiau ar gyfer y DU a Chymru gyfan y mae'n rhaid i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, fel corff cyhoeddus, gydymffurfio â nhw.

Y Ddeddf Cydraddoldeb (2010)

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn gwarchod pawb sydd â nodwedd warchodedig - oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol - rhag gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth [Equality Act 2010: guidance - GOV.UK (www.gov.uk)].

Ystyr gwahaniaethu yw trin rhywun sydd â nodwedd warchodedig yn llai ffafriol na rhywun heb nodwedd warchodedig. Gall fod yn uniongyrchol (er enghraifft, gwrthod cyflogi rhywun fel swyddog heddlu oherwydd eu bod yn anabl) neu yn anuniongyrchol (fel gofyn i'r holl staff weithio'r un patrwm sifftiau, sy'n rhoi rhieni plant ifanc neu ofalwyr rhieni hŷn dan anfantais).

Ystyr aflonyddu yw creu amgylchedd sy'n tarfu ar urddas unigolyn, neu sy'n fygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanus neu sarhaus: er enghraifft, diwylliant o "dynnu coes" yn y gweithle, sy'n rhywiaethol ac yn creu awyrgylch diraddiol i fenywod.

Ystyr erledigaeth yw trin unigolyn yn negyddol oherwydd ei fod yn ymwneud â chŵyn am wahaniaethu neu aflonyddu.

Mae'n bwysig nodi y gall unigolyn ddioddef gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth os oes ganddo nodwedd warchodedig, neu os canfyddir bod ganddo nodwedd warchodedig. Er enghraifft, mae person Sikhaidd y mae rhywun yn credu sy'n Fwslim ac sy'n derbyn sarhad Islamaffobaidd o ganlyniad, yn dal i fod yn dioddef gwahaniaethu.

Gallwch ddioddef gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth hefyd os ydych chi'n gysylltiedig â rhywun sydd â nodwedd warchodedig. Er enghraifft, os ydych yn ddyn sy'n dyst i ymddygiad rhywiaethol wedi'i anelu at fenywod yn y gweithle, mae hyn yn aflonyddu oherwydd bod yr awyrgylch yn ddiraddiol i chi hefyd.

Dyletswydd Cydraddoldeb Y Sector Cyhoeddus (2011)

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn golygu bod rhaid i gyrff cyhoeddus fel yr heddlu a chomisiynwyr yr heddlu a throsedd ystyried pob unigolyn wrth gyflawni eu gwaith bob dydd - wrth lunio polisi, wrth ddarparu gwasanaethau ac mewn perthynas â'u gweithwyr eu hunain.

Mae hefyd yn gofyn bod cyrff cyhoeddus yn rhoi sylw dyledus i'r angen i:

O dan y ddyletswydd yma, rhaid i gyrff cyhoeddus lunio adroddiad i'r cyhoedd ynglŷn â'r hyn maent wedi bod yn ei wneud o ran y tair dyletswydd cydraddoldeb uchod.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn nodi saith maes i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Y rhain yw:

  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gyderth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

O dan y ddeddfwriaeth yma, estynnwyd gwahoddiad i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'r Prif Gwnstabl eistedd ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda'r nod o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Gwent trwy weithio i gyflawni'r saith nod a amlinellir uchod [Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015:the essentials [HTML] | GOV.WALES].

Y Gymraeg

Mae'r Comisiynydd wedi ymrwymo i'r Gymraeg a chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg. Nod Safonau'r Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg, gan sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.

Byddwn yn gweithio i gyflawni tair blaenoriaeth allweddol:

  • Gwella ystod y gwasanaethau Cymraeg a gynigir
  • Cynyddu nifer y siaradwr a dysgwyr Cymraeg a gyflogir
  • Defnyddio gwybodaeth a gafwyd o waith monitro ac olrhain i ganfod meysydd y mae angen eu gwella.

Er bod deddfwriaeth ar wahân a phenodol ar gyfer y Gymraeg, rydym yn ei hystyried fel estyniad o'n dyletswyddau cydraddoldeb. Adroddir ar wahân ar gydymffurfiaeth â’r Safonau a’r cynnydd o’u cymharu â’r blaenoriaethau; er hynny, mae'r Gymraeg wedi ei chynnwys yn ein prosesau o Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb a’n Fframwaith Cynllun Cyflawni Cydraddoldeb er mwyn sicrhau bod hybu cyfle cyfartal a’r defnydd o’r Gymraeg yn rhan o’n busnes dyddiol yn cael eu hystyried bob tro.

Ar gyfer pwy mae'r Cynllun hwn

Mae'r Cynllun hwn wedi cael ei ddatblygu ar gyfer:

  • Ein cymunedau – meithrin ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona yng Ngwent trwy weithredu'n deg, yn broffesiynol, yn gynhwysol, ac yn ymatebol, a meithrin perthynas gadarnhaol gyda'n cymunedau amrywiol ac wedi'u hymyleiddio.
  • Ein staff – creu diwylliant gwirioneddol gynhwysol sy'n parchu a gwerthfawrogi amrywiaeth a herio ymddygiad amhriodol, gan feithrin mwy o ymddiriedaeth ymysg ein staff a denu a chadw gweithlu mwy amrywiol.
  • Ein harweinyddion – darparu arweinyddiaeth effeithiol a thryloyw sy'n gosod y safon ar gyfer plismona yng Ngwent, gan ddangos ymrwymiad i'n cymunedau a'n staff i greu'r newidiadau y mae eu hangen arnom ni i wireddu ein huchelgais ar gyfer ein sefydliad.
  • Ein Partneriaid - amlinellu sut byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid, ar draws plismona a sectorau eraill, ar bolisïau a strategaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, i wella profiadau a chanlyniadau i'n cymunedau.

Sut y lluniwyd y cynllun hwn

Wrth baratoi'r cynllun hwn, gwnaethom gynnal adolygiad a dadansoddiad helaeth o'r sefyllfa bresennol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a oedd yn cynnwys:

Ymgysylltu â'r gymuned:

  • Cwestiynau ynglŷn â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn arolwg i'r cyhoedd.
  • Adborth o arolygon a gwaith ymgysylltu â phlant.
  • Ymgysylltu ag aelodau Grŵp Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent Grŵp Cynghori Annibynnol | Heddlu Gwent.
  • Sylwadau ynglŷn â phlismona a'r maes cyfiawnder troseddol ehangach trwy gyfrwng Tasglu Anabledd Llywodraeth Cymru: Gweithgor Mynediad at Gyfiawnder.
  • Sylwadau a gafwyd trwy Rwydwaith Ymgysylltu â'r Gymuned Cyfiawnder Troseddol Cymru.

Gwaith ymgysylltu â staff:

  • Canlyniadau arolygon staff.
  • Ymatebion i arolygon Rhwydweithiau Staff.
  • Sylwadau ynglŷn â microymosodiadau yn y gweithle.
  • Gwaith ymgysylltu â Chadeiryddion Rhwydweithiau Staff.
  • Gwaith ymgysylltu â staff Swyddfa'r Comisiynydd.

Adolygiad o gynnydd Swyddfa'r Comisiynydd yn erbyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24:

  • Adolygiad o Bapur Asesiad Strategol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
  • Adolygiad o Adroddiadau Blynyddol ar Gydraddoldeb a sefyllfa bresennol Swyddfa'r Comisiynydd.
  • Mapio gweithgarwch Swyddfa'r Comisiynydd mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Adolygiad o gynlluniau a pholisïau ar gyfer cyfrifoldebau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant:

  • Cynllun Gwrth-hiliol y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol.
  • Strategaeth Plismona sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn.
  • Fframwaith Cydraddoldeb Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd.
  • Cynlluniau Llywodraeth Cymru:
    o Cymru Wrth-hiliol.
    o Cynllun Gweithredu LHDTC+
    o Cynllun Gweithredu Anabledd
    o Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddwyr Benywaidd.
    o Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Dylanwadau eraill:

  • Strategaeth Diwylliant Heddlu Gwent.
  • Gweledigaeth Plismona 2030 Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu
  • Gwerthoedd Heddlu Gwent
  • Cynllun Gweithredu Hil yr Heddlu Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.
  • Adolygiadau thematig uchel eu proffil fel Adolygiad y Farwnes Casey o'r Heddlu Metropolitanaidd.
  • Yr egwyddorion a amlinellir yn y Cod Moeseg.

Sut byddwn yn cyflawni, monitro a mesur y cynllun hwn

Mae gwella'r ffordd rydym yn llywodraethu'r cynllun hwn yn ymrwymiad penodol yn ein hamcanion. Byddwn yn gwneud y canlynol er mwyn goruchwylio a sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud o dan bob un o'r meysydd ymrwymo:

  • Yng nghyfarfodydd Swyddfa'r Comisiynydd, ystyried a rhoi adborth am ddiweddariadau rheolaidd yn erbyn y gweithgareddau a chamau gweithredu yn y Cynllun Cyflawni a'r Fframwaith.
  • Cefnogi a datblygu gwaith craffu allanol annibynnol ar gyfer unrhyw faterion a fyddai'n elwa ar oruchwyliaeth allanol.
  • Ystyried adborth perthnasol a gafwyd trwy arolygon a gwaith ymgysylltu rheolaidd â'r gymuned.
  • Ystyried canlyniadau arolygon staff ac ymgysylltu â'r Rhwydweithiau Cefnogi Staff
  • Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol i ddangos ein cynnydd a meysydd i ganolbwyntio arnynt ar gyfer y flwyddyn ddilynol.
  • Rhannu Adroddiadau Blynyddol gyda Phanel yr Heddlu a Throsedd Gwent ac ystyried unrhyw sylwadau ar y cynnydd a gyflawnwyd.

Sut byddwn yn monitro Heddlu Gwent

Er mwyn cyflawni dyletswyddau'r Comisiynydd i ddwyn perfformiad Heddlu Gwent i gyfrif yn erbyn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ei hun, ei amcanion a gweithgareddau, ac i sicrhau goruchwyliaeth a gwaith craffu effeithiol ar gynnydd a chanlyniadau, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Cytuno ar lefel priodol o gynrychiolaeth o Swyddfa'r Comisiynydd yng nghyfarfodydd Heddlu Gwent fel yr amlinellir o fewn ei strwythur llywodraethu.
  • Ymgysylltu ag unrhyw waith craffu cymunedol sy'n cael ei roi ar waith a'i gynnal gan Heddlu Gwent, gan roi cefnogaeth a her briodol i sicrhau effeithiolrwydd a chynnydd.
  • Monitro a chraffu ar wybodaeth perfformiad sy'n berthnasol i fesurau a chanlyniadau a amlinellir yng Nghynllun Cyflawni Heddlu Gwent, gan gymryd camau gweithredu priodol o ganlyniad i'n gwaith craffu.
  • Defnyddio gwaith ymgysylltu â staff a chymunedau o gefndiroedd amrywiol i ddeall a ydynt yn profi newid cadarnhaol o ganlyniad i agweddau Heddlu Gwent tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Dwyn Heddlu Gwent i gyfrif am y cynnydd a wnaed yn erbyn yr ymrwymiadau a amlinellir yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol, yn benodol mewn cysylltiad â monitro a chraffu ar ei Adroddiad Blynyddol, gan roi adborth ar y cyflawniadau a/neu argymhellion ar gyfer gwella yn yr adroddiad fel y bo'n briodol.

Casgliad

Er ein bod wedi cyflawni llawer yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae mwy i'w wneud o hyd ac rydym yn parhau i fod yn frwd dros wneud newidiadau cadarnhaol i'n cymunedau. O ganlyniad, bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu a'i ddatblygu yn ôl yr angen i sicrhau ein bod yn ymateb i'r wybodaeth a'r sylwadau rydym yn eu derbyn gan gymunedau, partneriaid, a'n staff.