Youf Gang yn codi arian ar gyfer apêl Wcráin

12fed Ebrill 2022

Mae plant a phobl ifanc Shaftesbury Youf Gang yng Nghasnewydd wedi codi dros £1000 ar gyfer dioddefwyr y rhyfel yn Wcráin.

Ar ôl cael eu dychryn gan yr hyn maen nhw wedi ei weld a'i glywed, trefnodd y bobl ifanc raffl i gefnogi ffoaduriaid sydd wedi cael eu gorfodi i ddianc o'u cartrefi a'u gwlad. Maen nhw wedi bod yn brysur yn casglu eitemau hanfodol hefyd a fydd yn cael eu danfon i'r bobl sydd eu hangen.

Maen nhw'n glod i'w cymuned ac yn esiampl wych i bobl eraill sydd eisiau gwneud gwahaniaeth er gwell.

Mae elusennau'r Pwyllgor Argyfyngau a phartneriaid lleol yn Wcráin a'r gwledydd cyfagos yn darparu bwyd, dŵr, lloches a chymorth meddygol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.dec.org.uk