Y Comisiynydd yn cefnogi lansiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi cefnogi lansiad 2026 y rhaglen Hanes Pobl Dduon Cymru 365.
Mae Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn ddathliad hyd blwyddyn gyfan o hanes, diwylliant a cherddoriaeth pobl Dduon yng Nghymru.
Mae'n cydnabod y cyfraniad sylweddol mae pobl o dreftadaeth Ddu wedi ei wneud trwy gydol hanes Cymru ac yn parhau i'w wneud i'r gymdeithas fodern.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Rwyf wrth fy modd i gefnogi lansiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365 eleni.
"Mae Cymru'n wlad gynyddol amrywiol ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod a dathlu cyfraniadau sylweddol ein cymunedau treftadaeth ethnig.”
Mae'r rhaglen Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn rhoi cyfle i gymunedau ledled Cymru ddysgu, cysylltu, a dathlu gyda'i gilydd trwy gydol y flwyddyn. Mae hefyd yn annog gwell dealltwriaeth o hanes pobl Dduon a sicrhau bod profiadau, cyflawniadau a dylanwad parhaol pobl Dduon yn amlwg ac yn cael eu gwerthfawrogi.