Y Comisiynydd yn cefnogi Help Llaw Mawr Pont-y-pŵl

15fed Mehefin 2026

Aeth dros 60 o wirfoddolwyr i ganol y gwynt a'r glaw i gymryd rhan yn Yr Help Llaw Mawr ym Mhont-y-pŵl eleni.

Gyda chefnogaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, cynhaliodd gwirfoddolwyr weithgareddau ym Mharc Pont-y-pŵl a chanol y dref. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys codi sbwriel, clirio palmentydd a llwybrau, a thacluso cofebion a mannau cyhoeddus y dref.

Ymgyrch genedlaethol yw Yr Help Llaw Mawr sy'n ceisio annog mwy o bobl i wirfoddoli a mynd ati i gefnogi eu cymunedau lleol.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Hoffwn ddiolch i'r gwirfoddolwyr am eu hymroddiad a'u gwaith caled yn rhan o'r Help Llaw Mawr.

"Mae pob awr a dreulir yn gwirfoddoli yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Heb haelioni, ymroddiad ac ymdrech gwirfoddolwyr, byddai ein cymunedau'n llawer tlotach.

“Mae eu cyfraniad yn helpu i feithrin cydlyniant cymunedol, cryfhau cysylltiadau rhwng preswylwyr, a chreu llefydd mwy diogel a gwydn i bawb, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”