Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

21ain Gorffennaf 2021

Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yw un o'r prif flaenoriaethau yn fy nghynllun heddlu a throseddu. Ar ei waethaf, rydym yn gwybod y gall achosi gwrthdaro mewn cymunedau, amharu ar fusnesau, a gwneud i rai trigolion deimlo na allant adael eu cartrefi. Rydym yn gwybod hefyd y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol na eir i’r afael ag ef arwain at droseddu mwy difrifol, yn enwedig i bobl ifanc sy'n agored iawn i niwed.

Er mwyn mynd i'r afael yn iawn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae’n rhaid i ni gydnabod pa mor hynod o gymhleth y gall y broblem hon fod. O fewn ffiniau Gwent ceir ardaloedd eang o gefn gwlad, cymunedau cymoedd bychain, trefi prysur a thrydedd ddinas fwyaf Cymru. Mae gennym ardaloedd o gyfoeth mawr a thlodi eithafol. Gall yr hyn y mae ein trigolion yn ei ystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol edrych yn wahanol iawn ar draws y cymunedau hyn.

Yn hollbwysig, nid yw pob ymddygiad gwrthgymdeithasol yn droseddol, ac nid mater o blismona yn unig yw hwn. Dyna pam yr ydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid fel yr awdurdodau lleol, ysgolion a grwpiau ieuenctid i ddarparu cyllid ar gyfer mentrau sy'n cynnig gwasanaethau dargyfeiriol a chymorth i'r bobl ifanc hynny sydd fwyaf tebygol o ymhél â'r math hwn o ymddygiad.

Er enghraifft, rydym yn rhoi cyllid blynyddol i raglen ‘Dyfodol Cadarnhaol’ Casnewydd Fyw sy'n darparu chwaraeon a gweithgareddau eraill ar draws pum sir Gwent. Gall hyn amrywio o sesiynau galw heibio nodweddiadol mewn ardaloedd lle gwyddom fod problem o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, i waith unigol wedi'i dargedu gyda phobl ifanc y credir eu bod yn arbennig o agored i niwed.

Mae’r dewis o weithgarwch yn dibynnu ar yr hyn a gaiff groeso yn yr ardal. Er enghraifft, mae sglefrfyrddio yn ddewis poblogaidd yng Nghaerffili lle mae llawer o barciau sglefrio newydd wedi eu sefydlu dros y blynyddoedd diwethaf, ac ym Mlaenau Gwent mae'n ymddangos bod gweithgareddau mwy creadigol er enghraifft troelli disgiau, celf graffiti a gwneud gemwaith yn boblogaidd.

Penderfynais hefyd ddyrannu fy nghronfa gymunedol gyfan, pot blynyddol o £300,000, ar gyfer mentrau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc. Mae hwn yn arian sydd ar gael i sefydliadau nid-er-elw wneud cais amdano i ddarparu gwasanaethau sy'n gweddu orau i'w hardal leol. Gwyddom mai ein cymunedau sy’n deall orau y problemau yn eu hardal, ac maen nhw’n aml yn gwybod y ffyrdd gorau o ymdrin â nhw.

Mae ceisiadau ar gyfer 2022/23 bellach ar agor, ac mae mwy o fanylion ar gael ar fy ngwefan


Drwy gynnig cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn y gweithgareddau cadarnhaol hyn, gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd, a thrwy greu rhwydwaith cymorth o fentoriaid a gweithwyr proffesiynol dibynadwy o’u hamgylch, rydym yn atgyfnerthu ymddygiad da, ac yn helpu i osod y seiliau a fydd yn galluogi pobl ifanc sy'n agored i niwed i fwynhau dyfodol hapus ac iach.