Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yn derbyn gwobr tryloywder

23ain Chwefror 2021

Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent (Swyddfa'r Comisiynydd) wedi ennill gwobr genedlaethol am dryloywder am y chweched blwyddyn yn olynol.

Mae'r Marc Ansawdd 'Agored a Thryloyw' yn cael ei ddyfarnu i swyddfeydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu sy'n gallu dangos eu bod yn rhoi gwybodaeth allweddol i'r cyhoedd ar eu gwefannau, a hynny mewn fformatau hygyrch.

Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu gan Comparing Police and Crime Commissioners, corff cenedlaethol annibynnol sy'n monitro gwaith llywodraethu'r heddlu.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Rwyf wrth fy modd bod fy swyddfa wedi cael ei chydnabod am ei hymrwymiad i dryloywder unwaith eto.

"Mae'r wobr hon yn dangos bod fy nhîm yn gwneud ei orau glas i gynnal busnes yn agored ac yn onest, ac i sicrhau bod gwybodaeth allweddol ar gael i drigolion mewn ffordd hygyrch."